Tudalen 6 o 7

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 9:25 pm
gan Dylan
RET79 a ddywedodd:Beth yw ateb pawb arall i'r cwestiwn:

WYT TI'N GWADU FOD Y MWYAFRIF LLETHOL O'R BOBL YN ERBYN Y RHYFEL AR YR ASGELL CHWITH?


Yn ôl y diffiniad poblogaidd o 'asgell chwith', ydi debyg. Rwan, ateba fy neges 8:18pm i plîs.

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 9:36 pm
gan RET79
Dwi'n gadael y maes heno. Newydd yrru neges breifat i Nic yn gofyn iddo ddileu fy nghyfrif.

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 9:38 pm
gan Dylan
Ddim cyn i ti roi ateb, ti ddim.

'Dw i'n amau mai wedi camddeall y dyfyniad gwreiddiol wyt ti, a dy fod yn gwrthod ildio. Ai dyna sydd wedi digwydd?

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 9:41 pm
gan Macsen
RET79 a ddywedodd:Dwi'n gadael y maes heno. Newydd yrru neges breifat i Nic yn gofyn iddo ddileu fy nghyfrif.


Cei di ddim llawer o lwc fan 'na. Beth bynnag, mae Nic ar wylia' felly welith o ddim dy neges am oes pys. Dwi'n siwr mi fyddi di nol mewn ychydig amser, RET. Dw i wedi gweld nifer o bobl yn gwneud ffws a gadael fforwm cyn dod nol dau wythnos wedyn ar y slei. :winc:

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 9:44 pm
gan RET79
O wel, wnaf just peidio dod ma te.

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 9:58 pm
gan Dylan
RET, wir i ti, 'dw i ddim yn gwybod beth sydd o'i le. 'Does neb wedi gwneud ymosodiad personol arnat ti na dim byd felly. Mi ddechreueaist edefyn, yn disgwyl ymatebion. Mi gefaist rai. Ti'n pigo allan darn o un, ei alw yn 'nonsens' sawl tro ac yna yn gwrthod esbonio pam er i bawb arall ofyn droeon.

Paid â thrio gwneud allan dy fod yn cael dy drin yn wael a bod rhyw ymgyrch i gael gwared â ti. Ti ydi'r un sydd wedi mynd â hyn ar lefel bersonol drwy ymosod ar fy nghymeriad i yn hytrach na'r ddadl, nid y ffordd arall. Petaet wedi dilyn confensiynau dadlau adeiladol - hynny ydi, ar ôl galw gosodiad yn 'nonsens', esbonio pam - byddai'r edefyn yma wedi bod yn un llawer mwy dedwydd a llewyrchus.

Wir, 'dw i'n mwynhau dadlau efo ti. Ond ddim pan ti'n ymddwyn fel hyn.

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 10:08 pm
gan bartiddu
Duw Duw grwt, paid a mynd 'achan!
Ma' angen rhai fel ti yma....fel o'dd angen Rod Richards yn y Cynilliad! :winc:

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 10:29 pm
gan Ffinc Ffloyd
Dwi'n gweld y ddadl hon yn un ddiddorol tros ben, felly dwi am drio osgoi'r cynnwrf mae RET yn lluchio'i deganau allan o'r pram yn achosi a rhoi fy marn i ar y mater (er, os oes gennoch chi ddim mynadd darllen yr isod, jyst darllenwch be ma Iwmorg a Chwadan wedi ddeud yn barod).

Mi gytuna i efo chdi, RET, am yr hyn yr wyt ti'n ddeud am dynnu'r fyddin allan rwan - mi fasa hynny'n gamgymeriad mawr. Fodd bynnag, alla ddim gweld sut y galli di ddweud 'roedd y penderfyniad yn un cywir' yn dy neges wreiddiol mor ddiflewyn ar dafod. Yn dy farn di, mi oedd o'n gywir, ond dwyt ti'n sicr ddim yn berchen ar farn mwy definitive na neb arall. Mi wyt ti hefyd yn dweud bod lluoedd arfog y cynghreiriaid wedi 'gwneud ffafr' a'r Iraciaid trwy eu rhyddhau - rhaid i mi ddeud, ti'n swnio'n anghyfforddus o agos at y cenhadon Cristnogol trwy'r oesoedd sy wedi teimlo eu bod nhw'n gwneud ffafr a'r bobl yr oedden nhw'n eu gorfodi i newid. Mi wranta nad wyt ti wedi gofyn i run Iraqi sut ma nhw'n teimlo am y peth.

A mi ydw i'n anghytuno efo chdi hefyd am y busnes 'dyletswydd' yma. Mi on i yn erbyn y rhyfel o'r cychwyn - mi ydw i'n parhau i fod yn erbyn y rhyfel. Fel y mae Iwmorg wedi deud yn barod, nid i ddymchwel regime Hussein aeth y Cynghreiriaid i Irac, medda nhw - mi aethon nhw oherwydd ei fod o'n cynrychioli bygythiad i Brydain ac America oherwydd bod ganddo arfau peryglus yn ei feddiant yr oedd yn gallu eu tanio o fewn tri chwarter awr. Flwyddyn yn ddiweddarach, y cwbl mae nhw wedi ffeindio ydi llond pot piso o sarin. Dwi'm isio i filwyr Prydeinig farw, wrth gwrs, fwy nac ydw i isio i neb arall yno farw - ond mi fasa dilyn y 'dyletswydd' yma i'w cefnogi yn awgrymu fy mod i'n cytuno a'r hyn maent yn wneud. Dydw i ddim.

Os ydi hyn yn fy ngwneud i'n asgell chwith, wel, boed felly. Y peth mwyaf anodd i'w ddeall o dy ddadl di ydi mae pobl asgell chwith sy'n erbyn y rhyfel. Dwi'n eitha siwr dy fod di'n anghywir, ond does gen i'm ystadegau i brofi hynny felly dwi'm am roi llawer o bwys ar y ddadl yna. Be dwi'n ffeindio yn fwy od ydi dy awgrym di bod pobl asgell chwith rhywsut yn anghywir ym mhopeth y maent yn ddweud. Dwi'n derbyn dy fod di'n Dori o'r radd flaenaf sydd ychydig i'r dde o Genghis Khan ar y raddfa wleidyddol, ond does bosib dy fod di mor naif i gredu mai dim ond pobl sy'n eilun-addoli Margaret Thatcher sy'n gallu bod yn iawn mewn bywyd?

Yn olaf, gair am yr edefyn hwn yn arbennig a dy ddull trafod yn gyffredinol. Dwi ddim am swnio'n patronising, ond dwi'n ffeindio dy ffordd di o drafod yn un blentynnaidd tros ben. Mae Dylan, Iwmorg, Eusebio ac eraill wedi cynnig dadleuon aeddfed a rhesymegol i ti fel ymateb i dy rant gwreiddiol - a mi wyt ti'n ymateb trwy eu galw'n blentynnaidd, anaeddfed a gwirion, gan fynd mor bell a chymryd dyfyniadau allan o'u cyd-destun gwreiddiol i geisio profi hynny. Mae hyn yn biti, oherwydd fel rhywun sy'n cynrychioli safbwynt gwahanol i'r rhan fwyaf o'r Maeswyr mi fedri di ychwanegu rhywbeth diddorol i lawer o ddadleuon - ond fel y mae'r lleill wedi dweud, plis tria fod yn resymegol ac aeddfed yn ol, yn hytrach na phwdu. Mi fydda fo'n gwneud trafodaeth yn llawer mwy diddorol.

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 10:31 pm
gan Leusa
Camgymeriad ydi i unrhyw wlad ymyryd mewn gwlad arall. Efallai bod disodli saddam wedi bod yn ganlyniad positif, ond mae Irac mewn ffwc o stad achos ymyraeth o'r tu allan.
'Dwi'n gwbod bysa hyn yn gallu arwain at ddatganiad fel 'ti'n deud na ddylsa ni helpu'r trydydd byd chwaith 'ta?'
A 'dw i'm yn gwbod sut swni yn dadla fana i ddeud gwir.

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2004 11:01 pm
gan iwmorg
Camgymeriad ydi i unrhyw wlad ymyryd mewn gwlad arall. Efallai bod disodli saddam wedi bod yn ganlyniad positif, ond mae Irac mewn ffwc o stad achos ymyraeth o'r tu allan.
'Dwi'n gwbod bysa hyn yn gallu arwain at ddatganiad fel 'ti'n deud na ddylsa ni helpu'r trydydd byd chwaith 'ta?'
A 'dw i'm yn gwbod sut swni yn dadla fana i ddeud gwir.


Ti'n cyffwrdd ar un o'r pethau mwyaf dadleuol yng ngwleidyddiaeth y byd dros y ddegawd dwytha', sef ymyrraeth ddyngarol. Nid dyna beth oedd sail rhyfel yn Irac felly efallai fod hwn yn perthyn mewn edefyn arall.

Wrth ddweud na ddylia' unrhyw wlad gwestiynnu sofraniaeth un arall ar unrhyw amod, cofia fod hynny'n cynnwys llefydd fel Somalia a Kosovo. Fel ddwedes i, mae'n bwnc dadleuol dros ben ac efallai fod edefyn arno'n barod yn rhywle?