gan Ffinc Ffloyd » Maw 25 Mai 2004 9:43 pm
Ti'n sicr yn iawn i ofyn - mae o'n bwnc anodd, ac wrth gwrs yr ateb perffaith ydi mae yna rai achosion lle byddai y canlyniad yn cyfiawnhau'r dull. Ond fel dudodd Gronw mewn ffordd llawer mwy huawdl na'n ateb gwreiddiol i, ble wyt ti'n stopio wedyn?
I ddweud y gwir dwi'n gweld y cysyniad o arteithio 'cyfiawn', os oes y fath beth, a beth sydd i'w weld yn cael ei wneud gan yr Americanwyr yn Irac yn ddeubeth ar wahan - dwi eto i weld bod yr hyn sy'n digwydd yn Irac yn unrhywbeth mwy na milwyr Americanaidd yn methu parchu eu carcharorion hyd yn oed i lefel syml. Rhywbeth sy'n fy ngwylltio i yw'r ffrynt di-hid yma mae'r Americanwyr yn gyflwyno am bob dim fel hyn - dwi wir yn meddwl y byddai America'n llawer mwy poblogaidd pe bydden nhw'n cwympo ar eu bai weithiau. Tasa Donald Rumsfeld wedi mynd ar y teledu a deud 'iawn, camgymeriad, ddrwg gennon ni, heads will roll, ayyb,' dwi wir yn meddwl y bydden nhw mewn dipyn gwell sefyllfa na pan mae nhw'n gwylltio efo'r wasg am ffeindio sgerbwd ARALL yn eu wardrob nhw.