Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Mer 01 Rhag 2004 5:35 pm
gan Macsen
Y broblem gyda artaith ydi bod y person sy'n cael ei arteithio yn fodlon dweud unrhywbeth i roi diwedd arno. Gan gynnwys llwyth o bolycs. Felly ar ben bod yn 'foesol' anghywir, mae artaith yn 'dactegol' anghywir.

PostioPostiwyd: Mer 01 Rhag 2004 7:26 pm
gan Selador
The needs of the many oughtweigh the needs of the few. Diom yn fatar dwi'm yn meddwl o fod yn gyfiawn ta anghyfiawn, ma gwledydd wasdad am ddefnyddio artaith os ydy nhw'n meddwl i fodo'n mynd i achub ei dinasyddion nhw. Dyna ydi cyfrifoldeb penna bob gwlad sofran. Allaim dallt pam mwya sydyn ma pobol yn gwrthwynebu i'r math yma o beth ar ol iddo fo gael ei ddefnyddio ers, wel, dechra dynoliaeth deud gwir, heb unryw son am human rights a ballu. Riwin efo damcaniaeth pam ein bod ni mwya sydyn wedi newid i fod yn bobol 'gwar' a chydwybodol??
Dyma gwestiwn arall ir rhai ohona chi wnaeth ddeud bod artaith yn gyfiawn dan rhai amodau.
Os basech yn GWYBOD bod merch 12 oed efo gwybodaeth am ymosodiad terfysgol sy a photensial i liadd miloedd o bobl, a fysa chi'n BERSONOL yn medru gwynebu ei harteithio hi er mwyn cael y gwybodaeth? (sori os dwi'n offendio riwin efo'r cwestiwn yma)

PostioPostiwyd: Iau 02 Rhag 2004 9:21 am
gan Garnet Bowen
Fel mae Macsen wedi nodi, mae areithio rhywun er mwyn cael gwybodaeth yn wrth-gynhyrchiol, gan eu bod nhw'n debygol o ddeud unrhywbeth sy'n swnio'n plausible er mwyn stopio'r boen. Ond, dwi'n meddwl ei bod hi'n dderbyniol defnyddio be sy'n cael ei ddisgrifio - yn gamarweiniol - fel torture lite. Hynny yw, rhoi rhai carcharorion o dan bwysau seicolegol er mwyn gwanhau eu gallu i ymresymu yn glir, a felly eu gallu i gelu gwirionedd. Ond eto, mae'n rhaid i ni dynnu llinell bendant rhwng pwysau seicolegol a phoen seicolegol, rhywbeth sy'n haws ei ddeud na ei wneud.

PostioPostiwyd: Iau 02 Rhag 2004 3:46 pm
gan Selador
Garnet Bowen a ddywedodd:Fel mae Macsen wedi nodi, mae areithio rhywun er mwyn cael gwybodaeth yn wrth-gynhyrchiol, gan eu bod nhw'n debygol o ddeud unrhywbeth sy'n swnio'n plausible er mwyn stopio'r boen.

Dwi'n anghytunno, man ddigon hawdd i intelligence ddarganfod os oes na wir mewn rhywbeth ma riwin yn ddeud, a cadw'r person mewn custody yn y cyfamser.[/i]