gan Selador » Mer 01 Rhag 2004 7:26 pm
The needs of the many oughtweigh the needs of the few. Diom yn fatar dwi'm yn meddwl o fod yn gyfiawn ta anghyfiawn, ma gwledydd wasdad am ddefnyddio artaith os ydy nhw'n meddwl i fodo'n mynd i achub ei dinasyddion nhw. Dyna ydi cyfrifoldeb penna bob gwlad sofran. Allaim dallt pam mwya sydyn ma pobol yn gwrthwynebu i'r math yma o beth ar ol iddo fo gael ei ddefnyddio ers, wel, dechra dynoliaeth deud gwir, heb unryw son am human rights a ballu. Riwin efo damcaniaeth pam ein bod ni mwya sydyn wedi newid i fod yn bobol 'gwar' a chydwybodol??
Dyma gwestiwn arall ir rhai ohona chi wnaeth ddeud bod artaith yn gyfiawn dan rhai amodau.
Os basech yn GWYBOD bod merch 12 oed efo gwybodaeth am ymosodiad terfysgol sy a photensial i liadd miloedd o bobl, a fysa chi'n BERSONOL yn medru gwynebu ei harteithio hi er mwyn cael y gwybodaeth? (sori os dwi'n offendio riwin efo'r cwestiwn yma)
Just one more sucker on the vine