Oes gen ti safbwynt gwreiddiol yn dy ben o gwbwl, Sioni? Ta oes 'na jysd cysylltiad uniongyrchol rhwng dy ymenydd a Znet. Biti na fysa'r erthyglau uchod yn cydnabod un neu ddau o ffeithiau sylfaenol
1) Ym 1992 mi achoswyd newyn anferthol, ac argyfwng ffoaduriaid, gan y rhyfel cartref a ddaeth yn sgil diwedd taernasiad Barre. Beth bynnag fo'r sefyllfa ynghynt, roedd pethau wedi gwaethygu yn sylweddol erbyn 1992. Cyn hynny roedd problemau hawliau dynol yn bodoli, ar ol haf 1992, roedd argyfwng dyngarol yn bodoli. A fel ydw i wedi ei nodi droeon, tydi'r ffaith fod rhywun (h.y. America yn yr achos yma) wedi ymddwyn yn warthus yn y gorffenol ddim yn golygu fod y gweithredoedd da mae nhw'n ei cyflawni yn hwyrach yn ddi-werth.
2) Drwy gydol 1992, bu cyrff rhyngwladol - gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, y Groes Goch, yr Organisation of African Unity, a'r Arab League - yn erfyn ar i America ymyrryd, gan nodi fod rhwng 1.5m a 2m o bobl mewn perygl o farw yn fuan, os nad oedd modd rhannu bwyd drwy'r wlad. Roedd ymgais wreiddiol y CU i fwydo’r newynog (Operation Provide Relief) wedi methu, oherwydd fod milwyr y gwahanol garfanau yn defnyddio’r bwyd fel arf, a doedd gan y CU ddim y modd i’w rhwystro. Os oedd yr ymgais yma am lwyddo, roedd yn rhaid fod gan y CU ddigon o rym i fedru herio’r byddinoedd Somali.
3) Cyn y gyflafan yn Mogadishu, roedd America wedi gyrru 25,000 o filwyr i mewn i’r wlad, i helpu gyda’r gwaith o rannu bwyd, a wedi dod a nhw yn ol adra. Llai na deufis ar ol i’r CU gymeryd cyfrifoldeb oddi wrth America, fe oedden nhw - i bob pwrpas - wedi colli rheolaeth ar y sefyllfa, a mi oedd milwyr y CU yn cael eu lladd eto.
Mae’r tri ffaith yma yn fy argyhoeddi fi fod yna gyfrifoldeb ar y byd i ymyrryd, ac mai America oedd un o ychydig wledydd a oedd a’r gallu i wneud hynny yn effeithiol.
Mae dy ddadl di wedi ei selio ar ddau beth, yn y bon. Yn gynta, ti (neu rhywun ti ‘di llwyddo i’w ddyfynu) yn honi fod cangymeriadau wedi eu gwneud. Digon gwir, ond tydi hynny ddim yn tynu oddi wrth y ffaith fod amcanion yr ymosodiad yn rhai teg. Dwi’n ddigon bodlon beirniadu’r cangymeriadau, ond tydi hynny ddim yn tynu oddi wrth yr egwyddor tu ol i’r rhyfel.
Yn ail, ti’n gneud yr un hen dric o ddefnyddio gorffenol America fel modd o’i ffrwyno hi rhag gwneud dim yn y dyfodol. Wrth gwrs fod America wedi ymddwyn yn warthus yn y gorffenol - yn Somalia’r 80au a mewn sawl lle, ac amser, arall. Ond onid ydi hyn yn ei gwneud hi’n bwysicach byth eu bod nhw’n gwneud yn iawn am hynny rwan?
Wrth gwrs, mae gen ti ryw ffantasi ynglyn a phwysigrwydd strategol/maes olew Somalia, ond toes gen ti fawr o grap ar wleidyddiaeth y byd os wyt ti'n meddwl fod y ffactorau yma yn ddigon pwysig i gyfiawnhau gyrru 25,000 o filwyr i mewn i'r wlad. Ymylol oedd, ac ydi, Somalia yn y termau yma.
o.n
Gwefan Gymraeg ydi hon. Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n deg i chdi bostio miloedd o eiriau Saesneg, dim ond am dy fod ti'n rhy ddiog neu'n rhy ddi-ddallt i gyflwyno dy safbwynt drosto dy hun.