Somalia

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Maw 01 Meh 2004 6:47 pm

Oes gen ti safbwynt gwreiddiol yn dy ben o gwbwl, Sioni? Ta oes 'na jysd cysylltiad uniongyrchol rhwng dy ymenydd a Znet. Biti na fysa'r erthyglau uchod yn cydnabod un neu ddau o ffeithiau sylfaenol

1) Ym 1992 mi achoswyd newyn anferthol, ac argyfwng ffoaduriaid, gan y rhyfel cartref a ddaeth yn sgil diwedd taernasiad Barre. Beth bynnag fo'r sefyllfa ynghynt, roedd pethau wedi gwaethygu yn sylweddol erbyn 1992. Cyn hynny roedd problemau hawliau dynol yn bodoli, ar ol haf 1992, roedd argyfwng dyngarol yn bodoli. A fel ydw i wedi ei nodi droeon, tydi'r ffaith fod rhywun (h.y. America yn yr achos yma) wedi ymddwyn yn warthus yn y gorffenol ddim yn golygu fod y gweithredoedd da mae nhw'n ei cyflawni yn hwyrach yn ddi-werth.

2) Drwy gydol 1992, bu cyrff rhyngwladol - gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, y Groes Goch, yr Organisation of African Unity, a'r Arab League - yn erfyn ar i America ymyrryd, gan nodi fod rhwng 1.5m a 2m o bobl mewn perygl o farw yn fuan, os nad oedd modd rhannu bwyd drwy'r wlad. Roedd ymgais wreiddiol y CU i fwydo’r newynog (Operation Provide Relief) wedi methu, oherwydd fod milwyr y gwahanol garfanau yn defnyddio’r bwyd fel arf, a doedd gan y CU ddim y modd i’w rhwystro. Os oedd yr ymgais yma am lwyddo, roedd yn rhaid fod gan y CU ddigon o rym i fedru herio’r byddinoedd Somali.

3) Cyn y gyflafan yn Mogadishu, roedd America wedi gyrru 25,000 o filwyr i mewn i’r wlad, i helpu gyda’r gwaith o rannu bwyd, a wedi dod a nhw yn ol adra. Llai na deufis ar ol i’r CU gymeryd cyfrifoldeb oddi wrth America, fe oedden nhw - i bob pwrpas - wedi colli rheolaeth ar y sefyllfa, a mi oedd milwyr y CU yn cael eu lladd eto.

Mae’r tri ffaith yma yn fy argyhoeddi fi fod yna gyfrifoldeb ar y byd i ymyrryd, ac mai America oedd un o ychydig wledydd a oedd a’r gallu i wneud hynny yn effeithiol.

Mae dy ddadl di wedi ei selio ar ddau beth, yn y bon. Yn gynta, ti (neu rhywun ti ‘di llwyddo i’w ddyfynu) yn honi fod cangymeriadau wedi eu gwneud. Digon gwir, ond tydi hynny ddim yn tynu oddi wrth y ffaith fod amcanion yr ymosodiad yn rhai teg. Dwi’n ddigon bodlon beirniadu’r cangymeriadau, ond tydi hynny ddim yn tynu oddi wrth yr egwyddor tu ol i’r rhyfel.

Yn ail, ti’n gneud yr un hen dric o ddefnyddio gorffenol America fel modd o’i ffrwyno hi rhag gwneud dim yn y dyfodol. Wrth gwrs fod America wedi ymddwyn yn warthus yn y gorffenol - yn Somalia’r 80au a mewn sawl lle, ac amser, arall. Ond onid ydi hyn yn ei gwneud hi’n bwysicach byth eu bod nhw’n gwneud yn iawn am hynny rwan?

Wrth gwrs, mae gen ti ryw ffantasi ynglyn a phwysigrwydd strategol/maes olew Somalia, ond toes gen ti fawr o grap ar wleidyddiaeth y byd os wyt ti'n meddwl fod y ffactorau yma yn ddigon pwysig i gyfiawnhau gyrru 25,000 o filwyr i mewn i'r wlad. Ymylol oedd, ac ydi, Somalia yn y termau yma.

o.n
Gwefan Gymraeg ydi hon. Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n deg i chdi bostio miloedd o eiriau Saesneg, dim ond am dy fod ti'n rhy ddiog neu'n rhy ddi-ddallt i gyflwyno dy safbwynt drosto dy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

gwaith

Postiogan Arabiata » Maw 01 Meh 2004 11:33 pm

Dwi'n meddwl weithiau, oes gen ti waith i neud Garnet? Does dim rhyfedd fod ein sianel genedlaethol mewn cymaint o stad. Faint o bres trethdalwyr sy'n mynd yn wastraff wrth i ti sgwennu cyfrolau ar Maes E yn gyson?
Arabiata
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 152
Ymunwyd: Sul 05 Hyd 2003 2:15 pm
Lleoliad: Caernarfon a bob man arall dwi'n landio

Postiogan Sioni Size » Mer 02 Meh 2004 3:54 pm

Oes gen ti safbwynt gwreiddiol yn dy ben o gwbwl, Sioni? Ta oes 'na jysd cysylltiad uniongyrchol rhwng dy ymenydd a Znet.

Ah, yr hen gneuen hon.
Dwi'n cymryd felly dy fod di wedi gwneud o leia un o'r canlynol:
a) mynd i Somalia yn 1992
b) cyfweld y bobl oedd yn nghanol y digwyddiadau dy hun

Oherwydd os nad, rwyt tithau wedi darllen er mwyn cael dy wybodaeth. Ynteu wyt ti'n cael rhestr o ffeithiau gan y llywodraethau Eingl gogyfer pob antur militaraidd 'dyngarol' ac yn treulio dy amser yn ei ddadansoddi dy hun, gan gau pob dylanwad allanol amhur y tu allan i'r pen yna?

1. Fe wnaeth yr US of Ei wneud y sefyllfa'n llawer gwaeth pan oedd cadoediadau yn dechrau torri rhwng y lluoedd. Pwrpas eu antur oedd sicrhau fod yr ochr iawn yn ennill. Mae ceisio dweud fod lles y Somaliaid yn flaenllaw yn eu meddyliau yn pathetig, o ran tystiolaeth a rhesymeg. Rwyt ti'n gwybod nad oes unrhyw ystyriaeth o gwbl i bobl tu hwnt i'r ffin gan lywodraethau America ers Kennedy.
Strategaeth er budd economaidd a daearyddol er mwyn dominyddiaeth yw pwrpas popeth.

2. Nid oedd diddordeb gan America i gynnwys y CU yn y broses o 'sefydlogi'r' wlad. Nid o reidrwydd y lleiaf o ladd sy'n golygu'r buddianau, 'our interests', gorau. Sut fedri di gael y gwyneb i alw llofruddiaethau byddin America'n gamgymeriadau? Wyt ti'n gwybod pa mor hiliol ydi meddwl fod Americans mor uffernol o ddi-glem fel eu bod byth a beunydd yn mynd "wps, dwi di lladd hwnna. Wps, a hwnna hefyd, damia, do'n i ddim yn trio gwneud hynna x 300000"

Yndw, dwi yn rhy ddiog i gyfieithu miloedd o eiriau. A mi fyddai tan bydd gwaharddiad lwyr ar y Saesneg ar y maes. Credaf fod mynd at y gwirionedd yn ffactor pwysig yn fama, a mae dyfynnu tystiolaeth o ffynonellau nad wyt ti'n eu cydnabod na'u hoffi yn ran pwysig o hynna.

O ia, Sudan. Wyt ti'n cofio rhyw ddigwyddiad bach yn Sudan ar yr adeg pan oedd papurau America'n llyfu gweflau dros ryw sigar?
Ai camgymeriad oedd hwnnw? Lles pobl Sudan oedd ganddynt mewn golwg siwr o fod, nid agendas hunanol megis newid y newyddion a delwedd arlywyddol.
Roedd cenedl gyfan o bobl Sudan yn llai pwysig na un sigar.
In their cruise missile attack on Sudan, Clinton's generals targeted and destroyed a factory producing most of sub-Saharan Africa's pharmaceutical supplies. The German ambassador to Sudan reported: "It is difficult to assess how many people in this poor country died as a consequence . . . but several tens of thousands seems a reasonable guess."

http://www.antiwar.com/orig/pilger.php?articleid=2089
A dwi'n gweld hwn yn eitha perthnasol o'r un linc hefyd:
"It's a nice and convenient myth that liberals are the peacemakers and conservatives the warmongers," wrote the Guardian commentator Hywel Williams. "But the imperialism of the liberal may be more dangerous because of its open-ended nature – its conviction that it represents a superior form of life."

Mwy am Sudan a'r Americans dyngarol. Gan dy fod yn 'casau Pilger'.
http://www.fpp.co.uk/online/01/12/Clinton_Sudan.html
http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/africa/334733.stm
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Mer 02 Meh 2004 4:55 pm

Sioni Size a ddywedodd:
Oes gen ti safbwynt gwreiddiol yn dy ben o gwbwl, Sioni? Ta oes 'na jysd cysylltiad uniongyrchol rhwng dy ymenydd a Znet.

Ah, yr hen gneuen hon.
Dwi'n cymryd felly dy fod di wedi gwneud o leia un o'r canlynol:
a) mynd i Somalia yn 1992
b) cyfweld y bobl oedd yn nghanol y digwyddiadau dy hun

Oherwydd os nad, rwyt tithau wedi darllen er mwyn cael dy wybodaeth. Ynteu wyt ti'n cael rhestr o ffeithiau gan y llywodraethau Eingl gogyfer pob antur militaraidd 'dyngarol' ac yn treulio dy amser yn ei ddadansoddi dy hun, gan gau pob dylanwad allanol amhur y tu allan i'r pen yna?


Yndw, mi ydw inna'n dibynnu ar ffynonellau ail-law. Ond mi ydw i'n mynd at fwy nag un ffynhonell, er mwyn trio cael cytbwysedd, a mi ydw i'n ceisio dadansoddi os oes 'na dueddiad gwleidyddol yn llywio'r erthygl neu damaid o wybodaeth hwnw. Ti'n hapus i godi llith anferth yn uniogyrchol o Znet, dro ar ol tro.

Sioni Size a ddywedodd:1. Fe wnaeth yr US of Ei wneud y sefyllfa'n llawer gwaeth pan oedd cadoediadau yn dechrau torri rhwng y lluoedd. Pwrpas eu antur oedd sicrhau fod yr ochr iawn yn ennill. Mae ceisio dweud fod lles y Somaliaid yn flaenllaw yn eu meddyliau yn pathetig, o ran tystiolaeth a rhesymeg. Rwyt ti'n gwybod nad oes unrhyw ystyriaeth o gwbl i bobl tu hwnt i'r ffin gan lywodraethau America ers Kennedy.
Strategaeth er budd economaidd a daearyddol er mwyn dominyddiaeth yw pwrpas popeth.


Sut felly wyt ti'n esbonio'r ffaith eu bod nhw wedi tynnu eu milwyr yn ol ar ddechrau 1993, cyn gorfod dychwelyd er mwyn gwneud job y Pacistaniaid drostyn nhw?

Sioni Size a ddywedodd:2. Nid oedd diddordeb gan America i gynnwys y CU yn y broses o 'sefydlogi'r' wlad.


Felly ti'n honi mai celwydd ydi'r ffeithai dwi wedi eu rhestru uchod? Nad oedd Boutros Boutros-Ghali (sp.) wedi gofyn yn benodol i America ymyrrd, oherwydd fod 'na ddiffyg diddordeb ar ran gweddill y byd?

Sioni Size a ddywedodd: Nid o reidrwydd y lleiaf o ladd sy'n golygu'r buddianau, 'our interests', gorau. Sut fedri di gael y gwyneb i alw llofruddiaethau byddin America'n gamgymeriadau? Wyt ti'n gwybod pa mor hiliol ydi meddwl fod Americans mor uffernol o ddi-glem fel eu bod byth a beunydd yn mynd "wps, dwi di lladd hwnna. Wps, a hwnna hefyd, damia, do'n i ddim yn trio gwneud hynna x 300000"


Un beirniadaeth - llawer mwy teg - sydd wedi ei gwneud ydi fod Somalia yn trial-run ar gyfer llefydd eraill, megis Kosovo. Ffordd o ymarfer ymyrraeth ddyngarol mewn gwlad "hawdd" oedd yr ymgyrch i ladd Aideed. Sydd yn swnio'n oeraidd iawn, dwi'n gwybod. Ond dwi ddim yn meddwl fod hyn yn hiliol.

Sioni Size a ddywedodd:Yndw, dwi yn rhy ddiog i gyfieithu miloedd o eiriau. A mi fyddai tan bydd gwaharddiad lwyr ar y Saesneg ar y maes. Credaf fod mynd at y gwirionedd yn ffactor pwysig yn fama, a mae dyfynnu tystiolaeth o ffynonellau nad wyt ti'n eu cydnabod na'u hoffi yn ran pwysig o hynna.


Ond doedd 'na ddim mymrun o dystiolaeth yn yr hyn nes di ei bostio. Barn pobol eraill oedd o i gyd.

Sioni Size a ddywedodd:O ia, Sudan. Wyt ti'n cofio rhyw ddigwyddiad bach yn Sudan ar yr adeg pan oedd papurau America'n llyfu gweflau dros ryw sigar?
Ai camgymeriad oedd hwnnw? Lles pobl Sudan oedd ganddynt mewn golwg siwr o fod, nid agendas hunanol megis newid y newyddion a delwedd arlywyddol.
Roedd cenedl gyfan o bobl Sudan yn llai pwysig na un sigar.


Be? Mi gafodd 'na genedl gyfan ei lladd? Speculation llwyr ydi'r dyfyniad 'na gan y llysgenad Almaenaidd.

Fel mae'n digwydd, dwi'n cytuno efo chdi ar y pwynt yma. Mi oedd yr ymosodiad ar Sudan yn gwbwl warthus. Ond tydw i ddim yn meddwl fod un gweithred ddrwg yn meddwl fod pob gweithred arall sy'n cael ei chyflawni gan yr un person hefyd yn gorfod bod yn ddrwg.

[
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Mer 02 Meh 2004 6:24 pm

Yndw, mi ydw inna'n dibynnu ar ffynonellau ail-law. Ond mi ydw i'n mynd at fwy nag un ffynhonell, er mwyn trio cael cytbwysedd, a mi ydw i'n ceisio dadansoddi os oes 'na dueddiad gwleidyddol yn llywio'r erthygl neu damaid o wybodaeth hwnw. Ti'n hapus i godi llith anferth yn uniogyrchol o Znet, dro ar ol tro.

Ah - Gydbwysedd Gwych. Mae Du yn ddu medd un. Na, mae du yn wyn medd llall. Felly llwyd yw du. Diolch, fy meddwl cytbwys.

Sut felly wyt ti'n esbonio'r ffaith eu bod nhw wedi tynnu eu milwyr yn ol ar ddechrau 1993, cyn gorfod dychwelyd er mwyn gwneud job y Pacistaniaid drostyn nhw?

Does gen ti'm meddwl digon tactegol yn amlwg. Debyg fod y ffactorau'n ffafriol i'w buddianau pan oeddent yn gadael, ac yna yn newid, felly nol a ni i achub y bobl.

2. Nid oedd diddordeb gan America i gynnwys y CU yn y broses o 'sefydlogi'r' wlad.

Felly ti'n honi mai celwydd ydi'r ffeithai dwi wedi eu rhestru uchod? Nad oedd Boutros Boutros-Ghali (sp.) wedi gofyn yn benodol i America ymyrrd, oherwydd fod 'na ddiffyg diddordeb ar ran gweddill y byd?


Ymddangos fel nad wyt ti wedi darllen y geiriau 'America' a 'CU' yn y drefn gywir.


Ond doedd 'na ddim mymrun o dystiolaeth yn yr hyn nes di ei bostio. Barn pobol eraill oedd o i gyd.

Barn. Dyna ti'n galw hyn? Barn?
When some of the most senior members of Aideed's clan gathered in a building in Mogadishu to discuss a peace agreement with the United Nations, the US forces, misinformed as ever, blew them up, killing 54 people. Thus they succeeded in making enemies of all the Somalis. The special forces were harried by gunmen from all sides. In return, US troops in the UN compound began firing missiles at residential areas.

So the raid on one of Aideed's buildings on October 3rd 1993, which led to the destruction of two Black Hawk helicopters and the deaths of 18 American soldiers, was just another round of America's grudge match with the warlord. The troops who captured Aideed's officials were attacked by everyone: gunmen came even from the rival militias to avenge the deaths of the civilians the Americans had killed. The US special forces, with an understandable but ruthless regard for their own safety, locked Somali women and children into the house in which they were beseiged.

Rhyfedd pan fod lluoedd yr imperialwyr Eingl yn rhoi eu ffeithiau (fel WMD, beddi mawr Kosovo (dim o'r fath beth), ffatri drwg Sudan, nid barn ydynt ond ffaith. Tra fod tystiolaeth Pilger ac eraill yn fan a'r lle yn ddim ond barn. Cysgwch yn dawel bawb.
Be? Mi gafodd 'na genedl gyfan ei lladd?

Ddudis i hynna? Yn amlwg fod un sigar coll yn fwy pwysig na pawb yn Sudan ddwedais ondefe/
Speculation llwyr ydi'r dyfyniad 'na gan y llysgenad Almaenaidd.

Wel, yn amlwg. Lwcus nad oes neb yn cyfrif ynde. Os ydi miloedd ar filoedd o bobl yn ddibynnol ar feddyginiaeth sy'n dod o un ffatri i aros yn fyw, sbeciwleshyn llwyr ydi meddwl fod dinistrio'r ffatri yna yn mynd i arwain at eu marwolaeth. Llwyr. Ella fod nhw i gyd di deinig i Lundain a bellach yn iach fel cneuen ar ol manteisio ar yr NHS ac wrthi'n dwyn ein jobs a'n gwragedd/gwyr fel ryda ni'n siarad.
Fel mae'n digwydd, dwi'n cytuno efo chdi ar y pwynt yma. Mi oedd yr ymosodiad ar Sudan yn gwbwl warthus. Ond tydw i ddim yn meddwl fod un gweithred ddrwg yn meddwl fod pob gweithred arall sy'n cael ei chyflawni gan yr un person hefyd yn gorfod bod yn ddrwg.

Mae hyn fel dangos i bawb yr holl bobl na laddwyd gan Fred West i brofi nad oedd o'n ddrwg i gyd. Mae'r rhesymeg yn abysmal.
A mae hyn i gyd yn deillio o dy safiad aruthrol fod Irac yn gyfiawn. Dwi'm yn meddwl fod hyd yn oed Ret yn credu hynny bellach. Mae Irac yn gyfiawn, felly rhaid derbyn pob ymosodiad gan America ar ei rinweddau ei hun, gan anwybyddu unrhyw strategaeth hir dymor a hunanol. Ond eu bod yn medru ein darbwyllo'n ddigonol hefo'u celwydd di-stop a mae popeth yn blu.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Newt Gingrich » Sul 06 Meh 2004 12:18 am

Garnet Bowen a ddywedodd:Oes gen ti safbwynt gwreiddiol yn dy ben o gwbwl, Sioni?


Garnet, gad lonydd i Sioni! Be di'r pwynt dadlau gyda boi sy'n amlwg yn ffasgydd ac yn ffwl?

'Useful idiot' a dim arall ydi Sioni. Os am wybod fy mod yn iawn ar UNRHYW bwnc yr oll sydd angen ei wnedu yw sicrhau fy mod yn meddwl yn groes i Sioni bach. Wedi'r cyfan, Sioni, y boi sydd o blaid lleiafrifoedd ym mhob man sydd wedi datgan mewn edefyn arall y byddai'n mwynhau byw tan unben.

Sioni - mae Gogledd Korea yn dy ddisgwyl :D

Ond a bod yn deg, does dim bai arno ei fod yn ganlyniad 'in-breeding' ym Mhen LLyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan Ramirez » Sul 06 Meh 2004 12:26 am

Newt Gingrich a ddywedodd:Ond a bod yn deg, does dim bai arno ei fod yn ganlyniad 'in-breeding' ym Mhen LLyn.


Sod off.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan Newt Gingrich » Sul 06 Meh 2004 12:42 am

Ramirez a ddywedodd:
Newt Gingrich a ddywedodd:Ond a bod yn deg, does dim bai arno ei fod yn ganlyniad 'in-breeding' ym Mhen LLyn.


Sod off.


Be, chdi hefyd? :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan Cwlcymro » Maw 08 Meh 2004 1:46 pm

Newt, darllena'r rheola, dealla'r rheola, a cadwa iddy nhw.
Tan bo chdi'n neud hunna, paid a'n annoio i efo posts mor bathetig.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Ramirez » Maw 08 Meh 2004 2:06 pm

Newt Gingrich a ddywedodd:
Ramirez a ddywedodd:
Newt Gingrich a ddywedodd:Ond a bod yn deg, does dim bai arno ei fod yn ganlyniad 'in-breeding' ym Mhen LLyn.


Sod off.


Be, chdi hefyd? :lol:


O sori. Ha. Ha. Ha. :?
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron