Ffrindiau yn y fyddin

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ffrindiau yn y fyddin

Postiogan buck turgidson » Gwe 13 Awst 2004 12:35 pm

Dwi'm yn siwr os ydi'r cwestiwn yma wed cael ei ofyn oblaen, ond....Be mae'r pobl oedd yn erbyn y rhyfel ag Irac yn gwneud (neu syt ydech chi'n meddwl ddylsed ymated) pan yn cyfarfod hen ffrind ysgol sydd wedi bod allan yn ymladd? Bod yn gwrtais a ddim dod ar pwnc i fyny? Blancio nhw'n hollol? Ta mynd yn hollol nuts efo nhw? Or none of the above?
Viva La Conffetista!
Rhithffurf defnyddiwr
buck turgidson
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 3:42 pm
Lleoliad: yn hicho lawr i prague

Re: Ffrindiau yn y fyddin

Postiogan Sioni Size » Gwe 13 Awst 2004 1:06 pm

buck turgidson a ddywedodd:Dwi'm yn siwr os ydi'r cwestiwn yma wed cael ei ofyn oblaen, ond....Be mae'r pobl oedd yn erbyn y rhyfel ag Irac yn gwneud (neu syt ydech chi'n meddwl ddylsed ymated) pan yn cyfarfod hen ffrind ysgol sydd wedi bod allan yn ymladd? Bod yn gwrtais a ddim dod ar pwnc i fyny? Blancio nhw'n hollol? Ta mynd yn hollol nuts efo nhw? Or none of the above?


Hwn yn gwestin uffernol o anodd. Fel arfer mae nhw mor ddwl fel nad oes unrhyw bwrpas rhesymu. Roedd un yn deud mai arweiniwr Israel oedd Saddam Hussein.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Sleepflower » Gwe 13 Awst 2004 1:09 pm

Ma'n hanner brawd i yn y fyddin. Mae e'n deall sut yr wyf i'n teimlo am Irac, ac i ddweud y gwir, mae e'n eitha drwgdybis am y peth ei hunan. Mae e yna i wneud swydd, dyna ni.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Lletwad Manaw [gynt] » Gwe 13 Awst 2004 1:17 pm

Y Fyddin Brydeinig yw yr arf gore sydd dal gan y Sacsoniaid i intigreiddio Cymry cyffredin ai brenwashio nhw i fod yn Frits bach!!!!

Ond pwy yw'r rhai cynta i gael eu lladd mewn unrhyw anghydfod/rhyfel.................ie y Cymry, ne Sgotyn o bosib. Ma'n rhaid creu argraff gyfeillion ym mhennau darpar "squaddies"fod ymuno a Byddin Prydain ru'n fath troi'n Sais garwr!!!!!
BETH AM BOBI FASNED O DE!!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Lletwad Manaw [gynt]
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 257
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 12:46 pm
Lleoliad: Falle draw fynco rhywle.........

Postiogan Sleepflower » Gwe 13 Awst 2004 1:30 pm

Lletwad Manaw a ddywedodd:Ond pwy yw'r rhai cynta i gael eu lladd mewn unrhyw anghydfod/rhyfel.................ie y Cymry, ne Sgotyn o bosib. Ma'n rhaid creu argraff gyfeillion ym mhennau darpar "squaddies"fod ymuno a Byddin Prydain ru'n fath troi'n Sais garwr!!!!!


O dere mlan, dyw hwnna ddim yn wir rhagor.

Sneb y llai o Brydeinwr na fi, ond dylid herio'r cynllunwyr polisi'n gyntaf nid y byddinoedd. Offeryn yw byddin, gall cael i ddefnyddio mewn unrhyw fordd a mae'r cynllunwyr polisi yn dymuno. Y ffordd anghywir yn achos Irac.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Lletwad Manaw [gynt] » Gwe 13 Awst 2004 1:35 pm

Noda ffordd gywir i fi te Sleepflower. Ma Cymry ifanc di-freintiedig yn ymuno ar fyddin i gael ychydig o "action", ti'n gwbod hynny yn iawn.

Peiriant lladd yw byddin, dim arall. Os ma dyn moyn ymuno a llu cadw heddwch wel ma' llu cadw'r heddwch y Cenhedloedd Unedig i gael. Er ei bod nhw'n iwsless.
BETH AM BOBI FASNED O DE!!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Lletwad Manaw [gynt]
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 257
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 12:46 pm
Lleoliad: Falle draw fynco rhywle.........

Postiogan bartiddu » Gwe 13 Awst 2004 1:38 pm

Lletwad Manaw a ddywedodd:Ond pwy yw'r rhai cynta i gael eu lladd mewn unrhyw anghydfod/rhyfel.................ie y Cymry, ne Sgotyn o bosib. Ma'n rhaid creu argraff gyfeillion ym mhennau darpar "squaddies"fod ymuno a Byddin Prydain ru'n fath troi'n Sais garwr!!!!!


Dwi o'r 'r un farn i radde, byddem wedi cytuno cant y cant ychydig flynydoedd yn ol, ond ers darllen yn y llyfre (rhyfeloedd lloeger / ffrainc)bod y Cymry tlawd yn amal hefo dim dewis ond ymuno i gael eu bara menyn ayb. Er pryd hynny oedd na opsiwn i ymuno gyda'r Ffrancwyr ag Owain Lawgoch ayb (fydde well da fi se ni mofyn saethu arabs heddi ymuno 'da'r Catrawd Estron Ffrenig na fod yn canon fodder i byddin Lizzie) ond ma'r sefyllfa yn anfodus dal i fod yr un peth i rhai Cymry , does yna ddim swydd arall i droi iddi.

A'th cyfaill i fi allan i Iraq, roedd e'n gwbod yn iawn cyn mynd allan mae dwli oedd yr holl beth, ac mae e wedi ymadael ers hynny.
Ond cafodd e gyfle euraidd i rhoi sticer hysbyseb gwerthwr peirianne torri porfa o sir Aberteifi ar ffenset frynt Mr Chemical Ali...ag am wn i mae e dal yna heddi, dim yn siwr os yw'r gwr wedi derbyn unrhyw archebion am y QUALCAST EASI-LITE 28 HOVER LAWN MOWER o Basra eto!! :D
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Lletwad Manaw [gynt] » Gwe 13 Awst 2004 1:43 pm

Falch gweld Bartu fod rhywun arall yn seilio ei lofnod ar gynnyrch ffrwythlon adran gomedi HTV yr 80au. Stwff ar diawl yw carbolic!!!!
BETH AM BOBI FASNED O DE!!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Lletwad Manaw [gynt]
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 257
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 12:46 pm
Lleoliad: Falle draw fynco rhywle.........

Postiogan Sleepflower » Gwe 13 Awst 2004 1:49 pm

Fi'n cytuno da ti Lletwad. Ond Blair hoffwn i weld yn y doc am Irac, nid y milwyr.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan buck turgidson » Gwe 13 Awst 2004 2:01 pm

Mae hynna'n codi'r cwestiwn o sut ddyled milwyr sy'n anghytuno efo rhyfel neu frwydur penodol ymateb? unwaith mae nhw wedi ymuno a'r fyddin oes hawl ganndyn nhw leisio barn neu fod yn math o "conscientious objector," beth yw'r gosb am wneud hyn?
Viva La Conffetista!
Rhithffurf defnyddiwr
buck turgidson
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 3:42 pm
Lleoliad: yn hicho lawr i prague

Nesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron