Michael Moore ar ganlyniad yr etholiad

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dylan » Maw 09 Tach 2004 7:04 pm

Realydd a ddywedodd::) :) :) :) :) :) :) :)

(sori cardi)


?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Maw 09 Tach 2004 7:10 pm

Dylan a ddywedodd:
Realydd a ddywedodd::) :) :) :) :) :) :) :)

(sori cardi)


?


Dwi'n credu bod Cardi Bach wedi gyrru neges at Realydd yn gofyn iddo roi'r gorau i ymateb i bob neges gyda rhes o wenogluniau (mae tua 20 neges llawn ohonynt erbyn hyn). Yn amlwg tydi Realydd ddim wedi cymryd cyngor Cardi a actio'n aeddfed.

Mae Realydd yn hynach na fi, coeliwch neu beidio. Na, tydw i methu credu'r peth chwaith.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 09 Tach 2004 8:28 pm

Macsen a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:
Realydd a ddywedodd::) :) :) :) :) :) :) :)

(sori cardi)


?


Dwi'n credu bod Cardi Bach wedi gyrru neges at Realydd yn gofyn iddo roi'r gorau i ymateb i bob neges gyda rhes o wenogluniau (mae tua 20 neges llawn ohonynt erbyn hyn). Yn amlwg tydi Realydd ddim wedi cymryd cyngor Cardi a actio'n aeddfed.

Mae Realydd yn hynach na fi, coeliwch neu beidio. Na, tydw i methu credu'r peth chwaith.


Cytunaf yn llwyr gyda sylwadau Aran, Cardi ac Euseibio. Mae ceisio trafod a dadlai gyda Realydd, fel ceisio dadlai gyda plentyn bach sboilt! Dwi'n amau'n fawr os wnaf i foddran dadlai gyda fe rhagor. Does dim pwynt. Mae fel cael dadl gyda fy nai tair mlwydd oed!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Melfin » Iau 11 Tach 2004 4:22 pm

Mae democratiaeth wedi marw. Darllenwch erthygl Phillip Pullman yn G2 Sadwrn dwetha i darllen mwy am theocracy, mae'n hynod diddordol. Yr hyn sy'n brawychu fi, yw bod ni'n byw mewn rhith sy'n neud ni meddwl bod ni'n rhydd (fi'n swnio yn paranoid nagyf fi?)

Ar ol i fi darllen beth ddywedodd Moore yn ei ddatganiad doeddwn i ddim yn credu ei fod yn gweithio yn bersonol. Sensationalism llwyr. I fi, naeth y bobl yna ddewis mynd i frwydro - i bod yn milwyr. Beth fyddai wedi tori fy calon bydd gweld enwau holl menwod a dynion a plant irac mewn rhestr. Cytuno hefyd bod e'n hy i fe rhoi geiriau yn ceg y bobl hyn.

Mae Bush yn ennill yn hunllef i pobl sy eisiau yr amgylchedd, yn newyddion drwg iawn i Blair os ti'n gofyn i fi, Ond fi yn rantio nawr. Felly hei! A does neb yn gofyn i fi chwaith.
Rhithffurf defnyddiwr
Melfin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 33
Ymunwyd: Iau 11 Tach 2004 2:38 pm
Lleoliad: Trealaw

Postiogan ffwrchamotobeics » Gwe 12 Tach 2004 1:09 am

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Postiogan Realydd » Gwe 12 Tach 2004 6:06 pm

Melfin a ddywedodd:I fi, naeth y bobl yna ddewis mynd i frwydro - i bod yn milwyr. Beth fyddai wedi tori fy calon bydd gweld enwau holl menwod a dynion a plant irac mewn rhestr. Cytuno hefyd bod e'n hy i fe rhoi geiriau yn ceg y bobl hyn.



Dwi'n cytuno, gen i wastad fwy o sympathi tuag at bobl diniwed i.e. dim milwyr, sydd yn cael eu dal yn y crossfire. Tra'n son am bobl ddiniwed, rhaid i ni beidio anghofio'r holl bobl ddiniwed a wnaeth ddioddef yn 9/11.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Cawslyd » Llun 22 Tach 2004 3:00 pm

Realydd a ddywedodd:Dwi'n cytuno, gen i wastad fwy o sympathi tuag at bobl diniwed i.e. dim milwyr, sydd yn cael eu dal yn y crossfire. Tra'n son am bobl ddiniwed, rhaid i ni beidio anghofio'r holl bobl ddiniwed a wnaeth ddioddef yn 9/11.

Ia, ond doedd Medi 11eg ddim byd i wneud efo Saddam.

Yr argraff dwi'n gael gan lot o bobl ydi bod y 3,000 o fywydau a gollwyd yn Efrog Newydd a Washington yn fwy o golled na'r miloedd ar filoedd yn Irac ac Affganistan.

Peidiwch a fy nghamddallt i, dwi'm yn gefnogol at Al Caida ayyb, ond mae'r wasg yn gneud ffys am farwolaethau milwyr, ond nid y werin.
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Postiogan Gowpi » Iau 25 Tach 2004 2:57 pm

Dyma farn Americanwyr eraill: http://72.3.131.10/gallery/1/
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Postiogan Realydd » Iau 25 Tach 2004 11:15 pm

Cawslyd a ddywedodd:
Yr argraff dwi'n gael gan lot o bobl ydi bod y 3,000 o fywydau a gollwyd yn Efrog Newydd a Washington yn fwy o golled na'r miloedd ar filoedd yn Irac ac Affganistan.


Pobl ddiniwed oedd y 3000 yn y twin towers, ddim soldiwrs, ddim terfysgwyr. Fe ymosododd y terfysgwyr, heb rybudd, yn gachwraidd, ar bobl ddiniwed oedd yn mynd i wneud diwrnod o waith hefo dim ffordd o amddiffyn eu hunain. Falle dyna pam fod mwy o sympathi, dwi'n ffeindio'r peth yn ddigon rhesymol- ti ddim?

Wedyn ti'n dweud

ond mae'r wasg yn gneud ffys am farwolaethau milwyr, ond nid y werin
.

:?:
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan GT » Iau 25 Tach 2004 11:32 pm

Realydd a ddywedodd:
Cawslyd a ddywedodd:
Yr argraff dwi'n gael gan lot o bobl ydi bod y 3,000 o fywydau a gollwyd yn Efrog Newydd a Washington yn fwy o golled na'r miloedd ar filoedd yn Irac ac Affganistan.


Pobl ddiniwed oedd y 3000 yn y twin towers, ddim soldiwrs, ddim terfysgwyr. Fe ymosododd y terfysgwyr, heb rybudd, yn gachwraidd, ar bobl ddiniwed oedd yn mynd i wneud diwrnod o waith hefo dim ffordd o amddiffyn eu hunain. Falle dyna pam fod mwy o sympathi, dwi'n ffeindio'r peth yn ddigon rhesymol- ti ddim?

Wedyn ti'n dweud

ond mae'r wasg yn gneud ffys am farwolaethau milwyr, ond nid y werin
.

:?:


Ymddengys mai pobl ddi niwed ydi llawer o'r 100,000+ o Iraciaid mae'r Lancet yn amcangyfrif sydd wedi eu lladd ers ymyraeth Prydain ac America. Gweler.'Doedd ganddynt hwythau chwaith fawr o gyfle i amddiffyn eu hunain.

Yn bersonol 'dwi'n cydymdeimlo efo'r di niwed a laddwyd yn y ddwy wlad.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai

cron