A'n gwaredo...

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan eusebio » Maw 09 Tach 2004 4:12 pm

Realydd a ddywedodd:Ti'n hapus i Iran ddatblygu arfau niwclear felly?


Wyt ti'n hapus i Israel gael arfau niwclear?
Gwlad sydd yn fodlon ymosod ar wledydd cyfagos gan feddianu tir - gwlad sydd wedi anwybyddu swmp o UN resolutions ...
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Garnet Bowen » Maw 09 Tach 2004 4:26 pm

eusebio a ddywedodd:
Realydd a ddywedodd:Ti'n hapus i Iran ddatblygu arfau niwclear felly?


Wyt ti'n hapus i Israel gael arfau niwclear?
Gwlad sydd yn fodlon ymosod ar wledydd cyfagos gan feddianu tir - gwlad sydd wedi anwybyddu swmp o UN resolutions ...



Nacdw. Mi fysa'n well gen i tasa neb yn meddianu arfau niwcliar. Ond dwi ddim yn meddwl mai'r ffordd o warchod y byd ydi adeiladu mwy ohonyn nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dylan » Maw 09 Tach 2004 5:41 pm

Mae sefyllfa Iran yn un ddiddorol. 'Dw i'n rhagweld rhyw fath o chwyldro boblogaidd yno ym mhen diwedd y degawd beth bynnag, felly cadw allan fydda orau.

C'MON STIWDANTS IRAN Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Sioni Size » Mer 10 Tach 2004 1:24 am

Garnet Bowen a ddywedodd:Ond y ddadl ti'n ei gwneud ydi dadl deterrence, sef yr union beth a arweiniodd at y rhyfel oer. Weithia dwi'n ama' os wyt ti'n meddwl cyn dechra teipio. Ac ar adegau eraill dwi'n ama' os wyt ti'n meddwl o gwbwl.

'Detterence' yn gweithio yn erbyn bwli. Dyma di'r ffaith amlwg mae Irac/Gogledd Corea rwan yn ddangos Garnet. Dwi ddim yn son am be dwi 'isho'. Ti'n siarad drwy dy din.
A phetawn i'n dod o Iran rwan mi fyddwn yn gobeithio'n arw fod posib stopio America mewn unrhyw ffordd posib. Hyll ond gwir. Ynteu a fyddan nhw'n croesawu 'rhyddid' fel mae pobl Falluja wrthi'n gwneud?
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Mer 10 Tach 2004 9:37 am

Sioni Size a ddywedodd:'Detterence' yn gweithio yn erbyn bwli. Dyma di'r ffaith amlwg mae Irac/Gogledd Corea rwan yn ddangos Garnet. Dwi ddim yn son am be dwi 'isho'. Ti'n siarad drwy dy din.
A phetawn i'n dod o Iran rwan mi fyddwn yn gobeithio'n arw fod posib stopio America mewn unrhyw ffordd posib. Hyll ond gwir. Ynteu a fyddan nhw'n croesawu 'rhyddid' fel mae pobl Falluja wrthi'n gwneud?


Wrth gwrs fod meddu ar arfau niwcliar yn mynd i gryfhau safle Iran/Gogledd Corea, ond ar pa gost? Ydi hi werth aberthu diogelwch y byd cyfan, er mwyn amddiffyn dwy wlad?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Iau 11 Tach 2004 10:25 pm

Ydi America am stopio ymosod ar bobl a gwledydd er mwyn eu heconomi? Oes raid i fi ateb yr un un cwestiwn? Llai o arfau niwclear y gorau, ond tra fod America'n dal bron pob un o'r arfau ac yn gwneud fel a mynno dyma yw'r unig obaith sydd gan wledydd dan fygythiad parhaol. Mater o ffaith yw hyn, ac America sydd wedi creu'r sefyllfa. Mae Iran am achub ei hun. Dydi fi'n gobeithio neu ddim am iddynt ddatblygu arfau aruthrol yn newid dim ar hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Nôl

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron