A'n gwaredo...

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A'n gwaredo...

Postiogan Treforian » Gwe 05 Tach 2004 5:10 pm

Gyda Bush yn ôl yn y Ty Gwyn, be nesa i'r byd o ran sefyllfa rhyfel?
Lle mae o'n debygol o'i fomio nesa?


:ofn: :(
Treforian
 

Postiogan Cardi Bach » Gwe 05 Tach 2004 5:26 pm

Syria neu mwy na thebyg Iran.

Fel sydd wedi ei ddweud ar y maes yma tipyn o weithiau bellach, mae'r mod y mae'r Ty Gwyn yn siarad am Iran nawr yn debyg iawn i'r ffordd oedden nhw'n siarad am Irac ddwy flynedd yn ol.

Mae yna bosibilrwydd erchyll serch hynny y bydd Israel yn ymosod ar Iran. Byddai ddim y tro cyntaf.

Mae Iran o fewn dwy flynedd i fedru gael 'Y Bom', felly paid a synnu os fydd yna ymosodiad ar y wlad o fewn y ddwy flynedd nesa. Ma Iran wedi dysgu wrth Gogledd Crea yn hynny o beth. Cyn i Og Corea ddatgan eu bont wedi cael 'Y Bom' roedd son mawr am 'pre-emptive strike' ar y wlad, ac ati. Nawr fod ganddynt dechnoleg bom niwclear does dim son o gwbwl - mae Iran ar hast ishe y bom, byddan nhw ddim o dan unrhyw fygythiad wedyn - yn eu tyb nhw (sydd yn cefnogi y ddadl am arfau niwclear a roddwyd ger ein ron yn yr wythdegau - sydd yn rwtsh llwyr!).
Os bydd ymosodiad ar Iran hefyd, yomosod ar y llefydd yma sydd yn datblygu arfau niwclear fyddan nhw. Os hynny bydd yr 'falloyt' yn ddychrynllyd. Dim ilwyr tir - neu ychydig iawn iawn, ond bomio o'r awyr ac o beltter fydd hi. Dim camerau na criwiau ffilmio, dim tystiolaeth yma na lluniau - byddwn ni'n ddibynol ar deledu o Iran a phethau ar y we.

Dychrynllyd.

Ond dyw e heb ddigwydd eto, ac mae dyletswydd arno ni i weithredu yn erbyn hyn :D
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: A'n gwaredo...

Postiogan sanddef » Llun 08 Tach 2004 10:47 am

Treforian a ddywedodd:Gyda Bush yn ôl yn y Ty Gwyn, be nesa i'r byd o ran sefyllfa rhyfel?
Lle mae o'n debygol o'i fomio nesa?


:ofn: :(


wel,NID Gogledd Corea(rhy agos i Tseina),a dylai osgoi Iran o achos methiant diogelwch yn Irac a maint daearyddol Iran.Syria?(gallai anfon y palesteiniaid fanna wedyn a felly cael heddwch yn israel...!)
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Realydd » Llun 08 Tach 2004 9:35 pm

Ond dyw e heb ddigwydd eto, ac mae dyletswydd arno ni i weithredu yn erbyn hyn


Ti'n hapus i Iran ddatblygu arfau niwclear felly?
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Sioni Size » Maw 09 Tach 2004 12:01 am

Yr un mor hapus i weld America ac Israel yn eu dal. Peth ydi, mae'n syniad eithriadol o dda i wledydd fel Iran ddatblygu arfau niwclear gan ei fod yn ymddangos mai hynny yw'r unig beth wnaiff stopio Amercia Bush eu meddianu. Wele Gogledd Corea.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Maw 09 Tach 2004 11:13 am

Sioni Size a ddywedodd:Yr un mor hapus i weld America ac Israel yn eu dal. Peth ydi, mae'n syniad eithriadol o dda i wledydd fel Iran ddatblygu arfau niwclear gan ei fod yn ymddangos mai hynny yw'r unig beth wnaiff stopio Amercia Bush eu meddianu. Wele Gogledd Corea.


Wyt ti felly yn teimlo fod cael mwy o arfau niwcliar yn y byd yn bris sy'n werth ei dalu er mwyn amddiffyn buddianau Iran a Gogledd Corea? Ydi diogelu y gwledydd yma rhag ymosodiad Americanaidd yn bwysicach na diogelu'r byd rhag y bygythiad o ryfel niwcliar?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Maw 09 Tach 2004 11:37 am

Wel mae'n amlwg fod Gogledd Corea wedi medru amddiffyn ei hun rhag ymsodiad oherwydd ei harfau, tra fod oddeutu 150,000 yn ol ffynhonellau diweddar o bobl Irac wedi marw yn sgil y rhyfel, ac yn parhau i farw ar raddfa eang. Petai gan Irac 'WMD' mi fyddai wedi bod yn saff. Pwy dwi i ddweud pwy na chaiff amddiffyn ei hun? Ai dim ond America, Prydain ac Israel ddylid feddu arfau Niwclear Garnet?
'Neb' ydi dy ateb ideolegol, ac wrth gwrs cywir. Ond pan mae gang mor ffiaidd a'r americanwyr yn gwneud fel a mynnont mae hanes diweddar yn dangos mai arfogi eu hunain i'r eithaf ydi'r unig beth sy'n gweithio, fel mae Iran yn ei ddarganfod. Os fedran nhw gael yr arfau mewn pryd, fe fydden yn saff. Os nad, bydd America yn eu 'rhyddhau' o'u hadnoddau a bywydau niferoedd anferth ohonynt yn fuan iawn. Dyma di'r sefyllfa drychinebus mae llywodraethau Bush, Sharon a Blair wedi ei greu.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Maw 09 Tach 2004 3:43 pm

Sioni Size a ddywedodd:Wel mae'n amlwg fod Gogledd Corea wedi medru amddiffyn ei hun rhag ymsodiad oherwydd ei harfau, tra fod oddeutu 150,000 yn ol ffynhonellau diweddar o bobl Irac wedi marw yn sgil y rhyfel, ac yn parhau i farw ar raddfa eang.


100,000 wsnos dwytha, 150,000 wsnos yma. Mae petha'n waeth nag oeddwn i'n ei feddwl. :winc:

Sioni Size a ddywedodd:Petai gan Irac 'WMD' mi fyddai wedi bod yn saff. Pwy dwi i ddweud pwy na chaiff amddiffyn ei hun? Ai dim ond America, Prydain ac Israel ddylid feddu arfau Niwclear Garnet? 'Neb' ydi dy ateb ideolegol, ac wrth gwrs cywir. Ond pan mae gang mor ffiaidd a'r americanwyr yn gwneud fel a mynnont mae hanes diweddar yn dangos mai arfogi eu hunain i'r eithaf ydi'r unig beth sy'n gweithio, fel mae Iran yn ei ddarganfod.


Felly mi wyt ti'n ateb yn gadarnhaol i fy nghwestiwn i? Mae hi werth cael mwy o arfau niwcliar yn y byd, os ydyn nhw yn cael eu defnyddio i "stopio America"? Ai dyma'r wers y mae'r rhyfel oer wedi ei dysgu i ni? Fod cael nuclear detterent yn stopio America/Rwsia rhag ymddwyn y ffiaidd?

Onid ydi hi'n deg dadlau mai y deterrent yma a arweiniodd at warchae Ciwba, rhyfeloedd budur De America, cyflwr presenol Affrica, a'r rhyfeloedd yn Fietnam, Affganistan, Angola, Congo, ac......Irac ymysg llefydd eraill?

Wn i - be am i bob gwlad yn y byd gael arfau niwcliar? Wedyn, fysa 'na byth ryfel. Be ti'n feddwl, General Sioni "Ripper" Size?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Maw 09 Tach 2004 3:51 pm

O ti'n ges.
100,000 wsnos dwytha, 150,000 wsnos yma. Mae petha'n waeth nag oeddwn i'n ei feddwl
.
Pobl ddiniwed yn 100,000 yn ol yr ymchwil + y milwyr - oddeutu 50-60 mil yn ol amcangyfrifon ar ol i'r 'rhyfel' orffen.
Yr unig beth ydw i'n ddadlau, a'r dadansoddiad hollol amlwg i unrhyw idiot ei weld, ydi fod Irac wedi ei oresgyn OHERWYDD nad oedd arfau gorffwyll ganddynt. Nawn nhw ddim meiddio ymosod ar Gogledd Corea.
Dwi di ateb dy gwestiwn yn barod ynglyn ac arfau niwclear. Neb i'w cael yn ddelfrydol, ond mae America'n ceisio symud at fyd lle mai hi a hi'n unig sy'n dal yr arfau mwyaf dinistriol - a phwer tyngedfenol llawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Maw 09 Tach 2004 4:06 pm

Ond y ddadl ti'n ei gwneud ydi dadl deterrence, sef yr union beth a arweiniodd at y rhyfel oer. Weithia dwi'n ama' os wyt ti'n meddwl cyn dechra teipio. Ac ar adegau eraill dwi'n ama' os wyt ti'n meddwl o gwbwl.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Nesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron