Brwydr Fallujah

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pwy chi'n cefnogi yn Fallujah?

Yr Americanwyr
7
28%
Yr Iraciaid dan warchae
9
36%
Neb - dwi'n heddychwr!
9
36%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 25

Postiogan Sioni Size » Maw 16 Tach 2004 5:35 pm

Dwi dal yn clapio am dy neges aruthrol epic Mr Iesu - yn bleser llwyr.

Clinton flynyddyddoedd nol mewn darlith da'r BBC, (cyn Sep11th), y dylai fod yn fwriad gyda ni (y Gorllewin, democrataidd hahaha) i wneud y byd yn ddiogel i ddemocratiaeth, drwy waredu ar y pethe sy'n bygwth democratiaeth. Siarad am rhyw fath o lywodraeth bydol odd e. A cherddoriaeth Tpau

Cael 'China in (y)our hands' efallai?

Sanddef, rwyt yn gwneud y camgymeriad amlwg o wrando gormod ar y pennau coc American/Saesneg Fox News a Richard Littlejohn sy'n pardduo pawb sy'n cwffio yn erbyn America fel eithafwyr gorffwyll o stabl y mwslemiaid mwyaf gwallgo. Mae na gymaint o garfannau wedi uno i ymladd yr americaniaid oherwydd cyn gymaint o resymau. A deud y gwir dwi'n dechrau mynd yn hollol eitrhriadol o pisd off fod rhaid esbonio hyn hyd yn oed ag ystyried y swm enfawr o bobl sydd wedi eu llofruddio gan America y wlad. Callia. Dydi o ddim yn anodd - rho dy hun yn eu hesgidiau nhw a meddylia am fedru ystyried cefnogi'r goresgwynwyr. Wyt ti'n lecio rywun yn y byd yma? Dy deulu? Gweithia fo mas. Pregethu am ddemocratiaeth i bobl sy'n dioddef cymaint, mwy nac erioed o'r blaen, tra'n dinistrio eu dinas a lladd mwy. Felly rho'r gorau, wir dduw, i dy nonsens white man's burden, ti'n swnio fatha garnet. Esgus er mwyn dominyddiaeth yw'r 'hybu democratiaeth' yma, does dim ffliwjan o ddiddordeb ganddyn nhw.
http://www.guardian.co.uk/Iraq/Story/0, ... 40,00.html
Erthygl oleuedig gan elyn i Saddam Hussein. Yn cynnwys:
Blair once again misled parliament this week by branding the resistance in Falluja as Zarqawi-style terrorists out to destroy the prospects for democracy. It was he and Bush who last year rejected the calls for early free and fair elections from those who rejected the occupation, including Ayatollah Sistani, Moqtada al-Sadr, the resistance and the widely supported Iraqi National Foundation Congress. Bush and Blair are terrified of the Iraqi people voting for anti-occupation leaders. They will accept nothing short of the legitimisation, through sham elections supervised by the occupation authorities, of an Allawi-style puppet regime.

More than 100,000 Iraqis are estimated to have been been killed since the US-led invasion; the country's infrastructure has all but been destroyed; people are exposed to the danger of US and British depleted-uranium shells; hospitals have been reduced to impotence in the face of mounting injuries and disease; the centre of Najaf and entire neighbourhoods of several cities have been razed. How much more should the Iraqi people be subjected to for Bush and Blair to have their "democratically" chosen puppets installed in Baghdad?
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Realydd » Maw 16 Tach 2004 6:42 pm

sanddef rhyferys a ddywedodd:Mae Fallujah ar ben erbyn hyn.Dw i eisoes wedi barnu'r UDA erbyn hyn ar edefyn arall,ond MAEN nhw yn Irac,a mae diogelwch a democratiaeth yno yn hollol ddibynnol ar lwyddiant byddin yr UDA erbyn hyn;Felly mae'n well gen i weld yr UDA yn cymryd Fallujah(fel sy wedi digwydd) na peidio.


Y nod yw cynnal etholiadau yn Irac ym mis Ionawr. Felly rhaid sortio allan llefydd fel Falluja rhag i'r terfysgwyr yno gael cyfle i amharu ar y broses ddemocrataidd.

Rhy syml i ti ddeall Sioni? Wedi'r cyfan, mae'n debyg dy fod yn gobeithio y byddai America yn colli'r frwydr yn Falluja, a ti ddim wedi ein darbwyllo ni dy fod o blaid gweld democratiaeth yn Irac.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Chwadan » Maw 16 Tach 2004 6:52 pm

Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig gwahaniaethu rhwng "means and end".

Ma pawb yma yn gweld democratiaeth fel rhywbeth da, ond does dim rhaid i ni fod o blaid y ffordd ma'i gael o. Dwi isho cael marc da yn y traethawd dwi fod yn sgwennu, ond di hynny ddim yn golygu mod i'n mynd i gopio un oddi ar y we jyst er mwyn cael y marc. Yn yr un modd, dwi'n meddwl basa democratiaeth yn dda yn Irac, ond di hynny ddim yn golygu mod i'n gweld fod y ffordd mae Prydain ac America yn mynd o'i chwmpas hi'n iawn.

Ma'r ddadl yn un eitha syml RET felly sna fawr o bwynt i ti gyhuddo pawb sy'n meiddio deud wbath yn erbyn polisiau America o fod yn wrth-ddemocrataidd.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Realydd » Maw 16 Tach 2004 9:49 pm

Chwadan, drwy pa ddull fydde ti'n cael democratiaeth yn Irac?

Digon hawdd yw cwyno am y dull presennol, llawer anoddach cynnig dull arall gwell realistig.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Chwadan » Maw 16 Tach 2004 11:10 pm

Dwi'm yn dallt digon am be sy'n digwydd i gynnig gwell dull, ond dwi'n falch bo ti di sylweddoli mai'r dull a'r cymhellion ac nid yr amcan sy'n wallus.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Realydd » Maw 16 Tach 2004 11:42 pm

Felly ti'n cwyno am y dull ond ddim yn gallu cynnig dull gwell. OK.

Y drwg yw, mae nifer o bobl yn cwyno am y dull a defnyddio methianau y dull i danseilio'r amcan. Dyna pam dwi'n gwneud ymdrech i weld beth yn union yw motifs pobl dros ymosod ar y dull.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Sioni Size » Mer 17 Tach 2004 10:53 am

Iesu Nicky Grist
A'r ffacin tr'eni mwya yw -
Sanddef :
mae diogelwch a democratiaeth yno yn hollol ddibynnol ar lwyddiant byddin yr UDA erbyn hyn

bod hyn yn hollol wir.

Rhoswch funud rwan bois. Mae na lot o lyncu'n mynd ymlaen yma. Disgwyl dim gwell gan Retalydd wrth gwrs, ond we bach.

Sbiwch sut yda chi di cael eich cyflyrru. Mae gwlad anferth yn ymosod ar wlad llawer llai pwerus ar ol blynyddoedd o'i gwanhau yn fwriadol er mwyn yr ymosod. Maent yn defnyddio esgus fod y wlad llai yma'n dal arfau anhygoel o ddinistriol ac yn barod i'w defnyddio unrhyw funud. Ar ol y goresgyn, lle amddiffynwyd y storfeydd olew yn syth, daw hi'n fater o ffaith fel oedd pawb heblaw Ret yn gwybod p'run bynnag, nad oedd y ffasiwn arfau mewn bodolaeth. Er mwyn ceisio cyfiawnhau y goresgyn mae'r wlad fawr yn gweiddi'n groch ei bod am sefydlu DEMOCRATIAETH, fyddai'n cynnwys dewis eang o ymgeiswyr o'r 10 Iraci oedd wedi helpu buddianau America yn y gorffennol (fel y "prif weinidog" presennol).

Ond mae'r gwrthwyneb yn wir. Mae America wedi gwneud eu gorau glas i ohirio unrhyw etholiad er mwyn sicrhau y byddai ryw ddarlun ffug o ganlyniad fyddai'n ffafriol iddyn nhw. Yn rhan o'r strategaeth yma mae ymosod yn frwnt ac yn giaidd ar rannau poblog Irac gan greu llanast, marwolaeth ar raddfa eang a gwrthwynebiad ffyrnig i'w presenoldeb. Yna maent yn labelu pawb sydd yn eu herbyn yn 'derfysgwyr', yn 'Foreign Fighters (sydd, pob clod, yn bowldrwydd o'r radd mwyaf arbennig)' ac yn bwysicach na phopeth....yn WRTH-DDEMOCRATAIDD!
O, y ffasiwn greaduriaid erchyll, ffiaidd, cyntefig ynte. A dyma chi, yn mynnu mai'r unig ffordd i greu Irac sefydlog yw i America ladd eu gwrthwynebwyr, sef pawb sy'n codi gwn yn erbyn llofruddwyr 100,000 o'u cyd dinasyddion diniwed mewn gwlad o 22 miliwn (a'n lleihau). O mor hawdd yw cyflyrru.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan sanddef » Mer 17 Tach 2004 11:37 am

Sioni Size a ddywedodd:
Sanddef, rwyt yn gwneud y camgymeriad amlwg o wrando gormod ar y pennau coc American/Saesneg Fox News a Richard Littlejohn sy'n pardduo pawb sy'n cwffio yn erbyn America fel eithafwyr gorffwyll o stabl y mwslemiaid mwyaf gwallgo.


Pwy?nac ydw,dweud fy marn fy hun oeddwn i.ces i fy magu yn y lluoedd arfog,felly dw'i'n edrych ar y sefyllfa o safbwynt milwrol ar un llaw,fel hanesydd dw'i'n edrych arni gyda golwg ar y tymor hir,ac fel dyn (hanner-)ddeallus dw i'n ceisio osgoi cymryd safbwynt du-a-gwyn.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Sioni Size » Mer 17 Tach 2004 12:01 pm

Wel dyna be wyt ti'n neud. America=democratiaeth a sefydlogrwydd - dyna be ti'n ddeud ynde Sanddef. Ymddangos yn ddu a gwyn a bolocs i fi.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan sanddef » Mer 17 Tach 2004 12:58 pm

Sioni Size a ddywedodd:Wel dyna be wyt ti'n neud. America=democratiaeth a sefydlogrwydd - dyna be ti'n ddeud ynde Sanddef. Ymddangos yn ddu a gwyn a bolocs i fi.


dw i wedi dweud bod democratiaeth yn Irac yn hollol ddybyniadwy ar yr UDA ar hyn o bryd,a felly y mae.Nid du a gwyn ydy hyn ond ffaith,dim ots pa mor ddrwg ydy'r UDA.paid a malu fy ngeiriau os gweli di'n dda.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 33 gwestai

cron