Brwydr Fallujah

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pwy chi'n cefnogi yn Fallujah?

Yr Americanwyr
7
28%
Yr Iraciaid dan warchae
9
36%
Neb - dwi'n heddychwr!
9
36%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 25

Postiogan Sioni Size » Mer 17 Tach 2004 3:44 pm

Democratiaeth ar bob cyfrif yn de Sanddef.
http://www.guardian.co.uk/Iraq/Story/0, ... 67,00.html
Yn cynnwys:
To meet a responsibility to someone, you must have something on offer that they want. Certainly, the people of Iraq want electricity, running water and other material assistance. The US should supply it.

Perhaps - it's hard to find out - they also want democracy. But democracy cannot be shipped to Iraq on a tanker. It is a home-grown construct that must flow from the will of the people involved. The expression of that will is, in fact, what democracy is.

But today the US seeks to impose a government on Iraq in the teeth of an increasingly powerful popular opposition. The result of this policy can be seen in the shameful attacks from the air on the cordoned-off city of Falluja.

The more the US tries to force what it insists on calling democracy on Iraq, the more the people of Iraq will hate the US and even, perhaps, the name of democracy. There is no definition of an obligation that includes attacking the supposed beneficiaries' cities with F-16s and AC-130 gunships.

President Bush said recently of the Iraqis, "It's going to take a while for them to understand what freedom is all about." Hachim Hassani, a representative of the Iraqi Islamic party, a leading Sunni Muslim group on the so-called governing council, might have been answering him when he commented to the Los Angeles Times, "The Iraqi people now equate democracy with bloodshed."
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Cardi Bach » Mer 17 Tach 2004 4:19 pm

sanddef rhyferys a ddywedodd:
Sioni Size a ddywedodd:Wel dyna be wyt ti'n neud. America=democratiaeth a sefydlogrwydd - dyna be ti'n ddeud ynde Sanddef. Ymddangos yn ddu a gwyn a bolocs i fi.


dw i wedi dweud bod democratiaeth yn Irac yn hollol ddybyniadwy ar yr UDA ar hyn o bryd,a felly y mae.Nid du a gwyn ydy hyn ond ffaith,dim ots pa mor ddrwg ydy'r UDA.paid a malu fy ngeiriau os gweli di'n dda.


Alla i ddim cytuno.
Mae'r prif bleidiau Sunni a chlerigwyr Sunni wedi datgan na fyddant yn cymryd rhan yn yr etholiadau, ac n galw ar bobl Irac i beidio a chymryd rhan yn yr etholiadau OHERWYDD fod America yn ymosod ar Fallujah.

Dyw democratiaeth yn Irac byth wedi bod yn ddibynol ar America a dyw hi ddim yn nawr chwaith. Mae America wedi ac yn profi i fod yn fwy o fwrn i ddemocratiaeth.

Sori i fynd ymlaen am hyn, ond mi roedd democratiaeth yn bodoli yn Irac cyn i Saddam ddod i rym - mae yna draddodiad cryf no, a does dim angen America i ddysgu i Irac. Democratiaeth yw ewyllys y bobl, ond eto mi oedd America yn anog Saddam i ymosod yn erbyn Iran emwyn cael gwared ar yr arweinyddiaeth yno. Rhagrithiol braidd, onid e? (ciw Pogon).

Pwrpas democratiaeth yw hawl y bobl i benderfynnu. Felly gall Irac ddim fod yn ddibynol ar America am ddemocratiaeth nawr, yn fwy na gall unrhyw wlad sydd gyda byddin militaraidd enfawr yn dal drylliau.

Dechmyga pebai Lloegr yn datgan fod Cmru am fod yn annibynol. Mae'n amlwg fod Llywodraeth Lloegr yn cefnogi Dai Hughes i fod yn Brif Weinidog Cymru, ac mae ganddyn nhw fyddin enfawr yma, yn bomio'r shit allan ohono ni, ac yn dweud ei fod er ein lles ni. Gyntaf a fyddet yn pleidleisio? A hyd yn oed pebait, pwy fydde ti'n debygol o roi pleidlais iddo? Y bwli sydd wastad yn ennill am mae'r bwli sydd wastad fwyaf ac yn bygwth gwneud niwed a thaflu tantrym os nad yw'n ennill.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Selador » Mer 17 Tach 2004 4:45 pm

Ma'r byd ma wastad wedi bod yn anghyfiawn ac anfoesol, ond dyna yw natur ddynol, "The strong do what they must". Yr unig beth dwi ddim yn ddeall ydi cymhelliant tymor hir America dros orchfygu Irac. Mi ellwch chi ddeud mai olew ydio, ac mai esgus yw'r propaganda gwrth-derfysgaeth a.y.y.b, ond os yw hyn yn wir a mai rhesymau economaidd sydd tu ol i'r penderfyniad, nid yw'n gwneud synnwyr. Y rheswm am hyn ydi bod gorchfygu gwlad Ddwyrain-canol a hinsawdd y byd fel mae o ar y funud, yn syniad twp. Dwi'n meddwl na prifwenidog Morocco ddudodd
Before you invade Iraq, there is one Osama Bin Laden. After you invade, there will be a hundred.

Ac gan gymryd bod hyn yn wir gan ei fod yn gwneud perffaith synnwyr, nid yw'r fantais economaidd mae America wedi ei gael o orchfygu Irac yn bodoli, i'r gwrthwyneb, dachi gyd yn gwbod be ddigwyddodd i'r economi ar ol 9/11.
Dwim yn gweld bod dod a Democratiaeth i Irac yn reswm coeliadwy chwaith, pam ddim gwneud cynt? Doedd IRac ddim mwy o fygythiad flwyddyn dwytha na mai wedi bod ers blynyddoedd + mae llawer iawn o wledydd peryclach yn y byd, fel Lybia a Gogledd Korea.
Hefyd allai ddim credu y stance o foesoldeb, gan fod America wedi bod ar ochr Irac ar adegau pan wnaeth Saddam gyflawni ei 'atrocoties' gwaetha.
Dwi'n gobeithio'n fawr bod y bobol sy'n rheoli'r byd ma lot clyfrach na fi ac yn gwbod lot fawr o betha dwi ddim.
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste

Postiogan Garnet Bowen » Mer 17 Tach 2004 5:08 pm

Selador a ddywedodd:Yr unig beth dwi ddim yn ddeall ydi cymhelliant tymor hir America dros orchfygu Irac. Mi ellwch chi ddeud mai olew ydio, ac mai esgus yw'r propaganda gwrth-derfysgaeth a.y.y.b, ond os yw hyn yn wir a mai rhesymau economaidd sydd tu ol i'r penderfyniad, nid yw'n gwneud synnwyr.


Mae olew yn ffactor. Nid yn y modd y mae rhai yn ei gredu - h.y. nid am fod America am ddwyn olew Irac, er mwyn llenwi eu pocedi eu hunain. Ers 1973, a'r streic olew a ddilynodd rhyfel Yom Kippur, mae llywodraethau'r gorllewin yn dealld fod gan olew y gallu i gael effaith anferthol ar economi'r byd. Os yda ni am gael economi sefydlog - rhywbeth sydd o fudd i bawb - rhaid wrth bris olew sefydlog.

Selador a ddywedodd:Dwim yn gweld bod dod a Democratiaeth i Irac yn reswm coeliadwy chwaith, pam ddim gwneud cynt? Doedd IRac ddim mwy o fygythiad flwyddyn dwytha na mai wedi bod ers blynyddoedd + mae llawer iawn o wledydd peryclach yn y byd, fel Lybia a Gogledd Korea.
Hefyd allai ddim credu y stance o foesoldeb, gan fod America wedi bod ar ochr Irac ar adegau pan wnaeth Saddam gyflawni ei 'atrocoties' gwaetha.
Dwi'n gobeithio'n fawr bod y bobol sy'n rheoli'r byd ma lot clyfrach na fi ac yn gwbod lot fawr o betha dwi ddim.


Cyn Medi'r 11eg 2001, mi oedd hi'n gred yn Washington - yn enwedig ymysg y gweriniaethwyr traddodiadol - fod hi'n bwysicach i America gyngrheirio yn gyda pwy bynnag a oedd yn rhannu eu diddordebau hwy, heb ystyried beth oedd credoau na dulliau gwleidyddol y bobol hynny. Dyna oedd wedi bod wrth wraidd eu polisi yn Irac ac Affganistan. Ond fe gafodd ffaeleddau'r strategaeth yma eu profi ar Fedi'r 11eg, pan benderfynnodd rhai o hen gyfeillion yr UDA y byddai'n syniad fflio dwy awyren i mewn i'r World Trade Centre.

Wedi Medi'r 11eg, mae hi wedi dod yn amlwg fod yr hen ffordd o feddwl yn un ffaeledig. Wrth gwrs, tydi America ddim yn mynd i ymddwyn yn groes i'w buddianau hwy eu hunain. Ond mae 'na rai sydd yn sylweddoli nad oes rhaid dewis rhwng buddianau America a buddianau gweddill y byd - fod y ddau beth yn medru cyd-fyw. Felly mae'r rhyfel yn Irac yn helpu economi America (a gweddill y byd) drwy sicrhau pris olew sefydlog. A'r gobaith ydi y bydd sefydlu democratiaeth yn debygol o arwain at fywyd gwell i'r Iraciaid, yn y gobaith na wnawn nhw ddim penderfynnu eu bod nhw hefyd ffansi fflio awyrennau i mewn i adeiladau mawr America.

(Dyma'r theori, beth bynnag. Trueni fod celwydd y gwleidyddion, a strategaeth filwrol fethedig, mewn perygl o danseilio'r cwbwl.)
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Iau 18 Tach 2004 2:49 pm

Garnet Bowen a ddywedodd: Felly mae'r rhyfel yn Irac yn helpu economi America (a gweddill y byd) drwy sicrhau pris olew sefydlog. A'r gobaith ydi y bydd sefydlu democratiaeth yn debygol o arwain at fywyd gwell i'r Iraciaid, yn y gobaith na wnawn nhw ddim penderfynnu eu bod nhw hefyd ffansi fflio awyrennau i mewn i adeiladau mawr America.

(Dyma'r theori, beth bynnag.


Theori pwy? Dy un di? Tony Blair?
Economi sefydlog! Wehei!
"How the war in Iraq might affect your mortgage".
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Iesu Nicky Grist » Iau 18 Tach 2004 3:22 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Dyw democratiaeth yn Irac byth wedi bod yn ddibynol ar America a dyw hi ddim yn nawr chwaith. Mae America wedi ac yn profi i fod yn fwy o fwrn i ddemocratiaeth.

Sori i fynd ymlaen am hyn, ond mi roedd democratiaeth yn bodoli yn Irac cyn i Saddam ddod i rym - mae yna draddodiad cryf no, a does dim angen America i ddysgu i Irac. Democratiaeth yw ewyllys y bobl, ond eto mi oedd America yn anog Saddam i ymosod yn erbyn Iran emwyn cael gwared ar yr arweinyddiaeth yno. Rhagrithiol braidd, onid e?


Sdim ishe ymddiheurio am fynd mla'n am y ffaith bod democratiaeth yn bodoli'n Irac cyn Saddam Cardi Bach. Ishe hysbysu'r ffaith sydd angen. Dyw hi'm yn gwneud sens fod y Gorllewin yn ceisio hybu democratiaeth trwy fomio'r cach mas o wlad sy'n meddu ar ddosbarth canol mawr, addysgiedig, a honni mai sefydlu democratiaeth yw'u bwriad. Fydde ti'n meddwl fod cynnal sgwrs am y peth yn fwy addas. Rhagrithiol yw polisi America ers dechre'r frwydr o geisio gwneud y byd yn "saff" i ddemocratiaeth. A dros y byd, ma tystiolaeth o ymyrraeth Americanaidd o fewn gwleidyddiaeth a "democratiaeth" gwladwriaethau eraill yn ymddangos nad hybu "democratiaeth" yw eu bwriad A bodola phopeth ar eu tylerau hwy - wastad.

Dyna pam wnes i gytuno ar eiriau Sanddef yn gynharach - bod "democratiaeth" yn Irac yn ddibynnol ar America - achos ma'r model sy di ca'l i ddefnyddio dros y byd - bomo'r shit mas o nhw, wedyn sefydlu democratiaeth. Fi'n teimlo'n dost 'to.
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan sanddef » Iau 18 Tach 2004 3:45 pm

Cardi Bach a ddywedodd:
sanddef rhyferys a ddywedodd:
dw i wedi dweud bod democratiaeth yn Irac yn hollol ddybyniadwy ar yr UDA ar hyn o bryd,a felly y mae.Nid du a gwyn ydy hyn ond ffaith,dim ots pa mor ddrwg ydy'r UDA.paid a malu fy ngeiriau os gweli di'n dda.


Alla i ddim cytuno.
Mae'r prif bleidiau Sunni a chlerigwyr Sunni wedi datgan na fyddant yn cymryd rhan yn yr etholiadau, ac n galw ar bobl Irac i beidio a chymryd rhan yn yr etholiadau OHERWYDD fod America yn ymosod ar Fallujah.

Dyw democratiaeth yn Irac byth wedi bod yn ddibynol ar America a dyw hi ddim yn nawr chwaith. Mae America wedi ac yn profi i fod yn fwy o fwrn i ddemocratiaeth.



Petai'r UDA yn ymadael Irac byddai'r rhyfel yn parhau.Na fydd dim democratiaeth ond brwydr am rym.Felly,gan nad oes gan unrhywun arall le yn y sefyllfa BRESENNOL, mae democratiaeth yn Irac yn ddibynnol ar yr UDA.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Cardi Bach » Iau 18 Tach 2004 4:11 pm

sanddef rhyferys a ddywedodd:
Petai'r UDA yn ymadael Irac byddai'r rhyfel yn parhau.Na fydd dim democratiaeth ond brwydr am rym.Felly,gan nad oes gan unrhywun arall le yn y sefyllfa BRESENNOL, mae democratiaeth yn Irac yn ddibynnol ar yr UDA.


Sori, ond wy ddim yn siwr os odw i'n dy ddeall di'n llawn.

Ond beth bynnag, ti'n iawn, os bydd yr UDA yn gadel Irac, yna byddai brwydro yn parhau rhwng cenhedloedd mewnol Irac. Mae hynny yn bosibiliad gwirioneddol. Ond beth sydd yn digwydd nawr? Mae'r ymladd yn parhau (fel sydd wedi ei nodi mewn edefyn arall, mewn ffordd eironig mae presenoldeb America yn uno cenhedloedd Irac am y tro cyntaf ers degawdau).

Brwydyr am rym yw hi nawr - dyna pam fod yna ymladd. Beth yw e os nad brwydyr am rym? Os nad am rym, yna pam fod America yn brwydro o gwbwl? 'Democratiaeth' mae America yn ei alw, ac yn ceisio creu darlun mai criw o farbariaid byddai'n ymladd eu gilydd am oruchafiaeth fyddai'r sefyllfa hebddyn nhw (fel wyt ti'n ensynio uchod)- ond dyna yn union sy'n digwydd nawr, achos esgus yw democratiaeth. Pwy bynnag fydd America yn gefnogi fydd yn ennill yr etholiad. Pypet. Dyw e ddim yn ddemocratiaeth os oes (neu ydyw'n ymddangos fel petai) dryll yn pwyso yn erbyn dy ben.

Mae America ishe cael llywodraeth y gallan nhw ei reoli yn Irac. Ermwyn gwneud hynny mae'n rhaid iddyn nhw gael gwared ar y bygythiad.

Y peth gwaethaf y gall yr Iraciaid wneud mewn gwirionedd yw ymladd yn ol. Ond pwy all eu beio? Mae byw yng nghanol y bomiau, y bwledi, yn tanciau, y lluoedd arfog tramor, yn eu gwthio i'r terfyn, ac mae'n nhw'n teimlo fel nad oes dewis ganddyn nhw.

Trueni mawr iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Garnet Bowen » Iau 18 Tach 2004 4:32 pm

Cardi Bach a ddywedodd:
Ond beth bynnag, ti'n iawn, os bydd yr UDA yn gadel Irac, yna byddai brwydro yn parhau rhwng cenhedloedd mewnol Irac. Mae hynny yn bosibiliad gwirioneddol. Ond beth sydd yn digwydd nawr? Mae'r ymladd yn parhau (fel sydd wedi ei nodi mewn edefyn arall, mewn ffordd eironig mae presenoldeb America yn uno cenhedloedd Irac am y tro cyntaf ers degawdau).


Nid ymladd yn erbyn eu gilydd mae'r gwahanol garfannau. Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn paratoi eu hunain ar gyfer yr etholiad. Mae be' mae Sanddef yn ei ddeud ynglyn a'r Sunni yn eithaf gwir - mae nhw'n leiafrif bach o fewn Irac sydd wedi dal grym dros y 40 mlynedd dwytha. Mi fydd yr etholiadau yma yn newid byd anferth iddyn nhw, gan eu troi o fod yn elite llywodraethol i fod yn lleiafrif bach, heb fawr o ddylanwad gwleidyddol. Y rhai sydd a mwya i golli drwy etholiadau ydi'r rhai sy'n dal i ymladd.

Cardi Bach a ddywedodd:Brwydyr am rym yw hi nawr - dyna pam fod yna ymladd. Beth yw e os nad brwydyr am rym? Os nad am rym, yna pam fod America yn brwydro o gwbwl? 'Democratiaeth' mae America yn ei alw, ac yn ceisio creu darlun mai criw o farbariaid byddai'n ymladd eu gilydd am oruchafiaeth fyddai'r sefyllfa hebddyn nhw (fel wyt ti'n ensynio uchod)- ond dyna yn union sy'n digwydd nawr, achos esgus yw democratiaeth. Pwy bynnag fydd America yn gefnogi fydd yn ennill yr etholiad. Pypet. Dyw e ddim yn ddemocratiaeth os oes (neu ydyw'n ymddangos fel petai) dryll yn pwyso yn erbyn dy ben.


Beth am beidio condemnio'r etholiadau cyn iddyn nhw ddigwydd? Fedrith neb ohona ni ddeud beth sy'n mynd i ddigwydd gyda sicrwydd perffaith. Gwell byddai disgwyl i weld beth fydd y canlyniadau, a beirniadu wedyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 19 Tach 2004 10:06 am

Sioni Size a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd: Felly mae'r rhyfel yn Irac yn helpu economi America (a gweddill y byd) drwy sicrhau pris olew sefydlog. A'r gobaith ydi y bydd sefydlu democratiaeth yn debygol o arwain at fywyd gwell i'r Iraciaid, yn y gobaith na wnawn nhw ddim penderfynnu eu bod nhw hefyd ffansi fflio awyrennau i mewn i adeiladau mawr America.

(Dyma'r theori, beth bynnag.


Theori pwy? Dy un di? Tony Blair?
Economi sefydlog! Wehei!
"How the war in Iraq might affect your mortgage".


Theori pwy?

Paul Wolfowitz, Prospect, Rhagfyr 2004 a ddywedodd:We're so much better off with a Japan as a strong trading partner than with Japan as a basket case. If people want to redefine the word "empire" to mean this as an empire, then it's just semantics. We are not trying to control these countries so that we can exploit their resources. We are trying to enable these countries to stand on their own two feet, and our experience says that when they do, we're better off.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron