Brwydr Fallujah

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pwy chi'n cefnogi yn Fallujah?

Yr Americanwyr
7
28%
Yr Iraciaid dan warchae
9
36%
Neb - dwi'n heddychwr!
9
36%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 25

Postiogan sanddef » Maw 16 Tach 2004 1:03 pm

Sioni Size a ddywedodd:Agwedd hollol nawddoglyd, imperialaidd, dall a chelwyddog. Os wyt ti'n meddwl mai democratiaeth yw pwrpas America yn irac dwyt ti ddim yn deall ystyr y gair.
Yr unig beth mae ein harweinwyr gwych yn gorfod ei weiddi i gyfiawnhau troi dinas yr un maint a Chaerdydd i lwch gan ladd pawb heblaw'r ychydig gafodd eu dal o flaen camera (nid fod camera'n ddigon i stopio hwy saethu pobl heb arf pob tro) ydi DEMOCRATIAETH. Wyt ti wirioneddol yn rhy ddall i weld drwy hyn Sanddef?
mae diogelwch a democratiaeth yno yn hollol ddibynnol ar lwyddiant byddin yr UDA erbyn hyn

Maddeuwch y cyfog.


wnes i ddweud unrhywbeth am bwrpas america?hold ior horses,sioni! does dim siawns o ddemocratiaeth yn nwylo eithafwyr crefyddol,felly MAE YN dibynnu ar yr UDA.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Sioni Size » Maw 16 Tach 2004 1:34 pm

Ia, gwych, ella bydd democratiaeth pan fydd tua 300 o bobl ar ol yn y wlad. A mi fydd na ddewis mor eang.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan sanddef » Maw 16 Tach 2004 2:49 pm

Sioni Size a ddywedodd:Ia, gwych, ella bydd democratiaeth pan fydd tua 300 o bobl ar ol yn y wlad. A mi fydd na ddewis mor eang.


Dw i ddim isio gweld y sefyllfa mewn du a gwyn,dyna'r cwbl.Rhaid cofio bod y lleiafrif Sunni a reolodd Irac dan Saddam ydy'r rhain sy'n gwrthryfelu yn erbyn yr UDA a'r DU a lladd Iraciaid hefyd,a hynny am eu hagenda eu hun,yn bendant NID er lles pobl Irac.Nhw sydd wedi achosi'r sefyllfa lle mae'n rheidiol i fyddin yr UDA ymosod ar Fallujah,a Nhw sydd am ddinistrio unrhyw siawns o gael democratiaeth yn Irac.Gellir beirniadu America am ei bwriadau yno,fel cael olew ac yn y blaen,ond dydy sefydlu democratiaeth ddim yn groes i'r bwriadau hyn,i'r gwrthwyneb! mae'n hanfodol ar lefel ariannol!
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Iesu Nicky Grist » Maw 16 Tach 2004 2:56 pm

Sioni Size a ddywedodd: Os wyt ti'n meddwl mai democratiaeth yw pwrpas America yn irac dwyt ti ddim yn deall ystyr y gair.
Yr unig beth mae ein harweinwyr gwych yn gorfod ei weiddi i gyfiawnhau troi dinas yr un maint a Chaerdydd i lwch gan ladd pawb heblaw'r ychydig gafodd eu dal o flaen camera (nid fod camera'n ddigon i stopio hwy saethu pobl heb arf pob tro) ydi DEMOCRATIAETH. Wyt ti wirioneddol yn rhy ddall i weld drwy hyn Sanddef?


Calm down lefty. Wy'n cytuno 'da ti, ond wow funed, gad i lefty arall siarad bollocks.

Ar un law, wy'n cytuno 'da ti ei bod hi'n bur amlwg mai nid democratiaeth o'dd "ar y cardie", gyda bomo'r shit mas o wlad gyda dosbarth canol mawr, addysgiedig (a ddylai wedi syrffedu ar eu unben ffacin mental anyway - wow, canu cloch?), gan honni mai eu bwriad oedd democrateiddio'r wlad.
Ond, ar y llaw arall, d'wedodd Bill "o cym on, o'dd e bach o lej achos roiodd ei goc yng ngheg y minger, ond a yw pawb yn anghofio a'th e i ryfel i gwoto hyn?" Clinton flynyddyddoedd nol mewn darlith da'r BBC, (cyn Sep11th), y dylai fod yn fwriad gyda ni (y Gorllewin, democrataidd hahaha) i wneud y byd yn ddiogel i ddemocratiaeth, drwy waredu ar y pethe sy'n bygwth democratiaeth. Siarad am rhyw fath o lywodraeth bydol odd e. A cherddoriaeth Tpau. Terms & conditions pwy, sain siwr? O ie ie, world police n all that jazz. BAD COPS, BAD COPS!

Ma dweud yn union beth yw democratiaeth yn ffacin job a hanner. Ie, gret, demos a cratos, y bobl yn rheoli yada yada yada - ta fel ti'n diffinio fe, ma'n ca'l 'i is-raddio bob dydd i token gestures shit, wel, wy'n credu 'ny. Ac er y medrwch ddweud mai protest sy' 'di dod a newid ym Mhrydain ers erioed, pur amlwg nad oedd y protestiadau yn erbyn y rhyfel wedi achosi unrhyw effaith ar benderfyniad ein llywodraeth ni. Mind you, ai dyna pwrpas ein llywodraeth? - nhw sy'n gwneud 'i busnes fel bo fi'n gallu ca'l cwpwl o beints nos Wener ar ol wasto w'thnos arall yn y gwaith (ie, Cwango) a eto heb gyflawni unrhywbeth o fudd i'm gwlad oni bai mod i'n cadw'r peiriant i fynd.

Pam nad yw'n system etholiadol ni wedi'i newid ers oes pys? Chi'n gweld ni'n protestio am hyn? (na, sain gweld Lib Dems yn aml!!) Er bo ni wedi ca'l ein brainwash-o da shit cyfryngol ers 1945, ni dal i gredu news sy'n cael ei reoli gan lywodraeth, a unrhyw gachu arall sy 'on the go' yn y byr dymor fel This Morning. Ni'n diolch i'r wasg am gadw ein llywodraethau 'in check', ond yn methu gweld bo nhw mond yn trafod cachu er mwyn wasto ein hamser da bollocks.

Brwydr Fallujah? Ma'r BBC website yn dangos llunie cartwn shwd ma cico'r shit mas o terrosrists. Brwydyr y bandie? Who gives a shit? Bomb the fuckers. Beth yw'r ots? Ni di gweld fel ni'n medru cyfiawnhau rhyfel yn y gorffennol, newn i e 'to. Ma gwleidyddiaeth yn ddu a gwyn, aparentli.
Ife'r joc ore yw bod y wasg yn wrthbwysedd i lywodraeth?

Ma democratiaeth Prydain yn chwedl. Ma pawb yn gwybod hyn. Elective dictatorship & all that jazz. A ma America 'run peth da pob Arlywydd yn potsian da stwff tu fas y wlad achos bo gormod o "fess" tu fewn hi. A lets face it, pa Arlywydd Americanaidd sy heb fecso am "tu fas"?

Ma gwybod beth yn union odd da Clinton mewn golwg, pan wedodd e bod e mo'yn byd saff i ddemocratiaeth mond yn neud fi fwy cymysglyd. RED ALERT, RED ALERT!

Wedi Sept11th, ni di llyncu cachu bod terfysgwyr yn network-o!! mond un teip sydd!! a ma ishe ca'l gwared ar Saddam!! What the fuck?

Ma hanes yn ail adrodd. Ma terfysgaeth yn gomiwnyddiaeth. Llawer haws pan ma' pethe'n ddu a gwyn. Goodies a baddies. Cowbois a Arabs. Allai switcho off wedyn a meddwl am rhoi bys i rhyw ferch yn y Jolly Tar, neu'r ffordd ma wyau pasg siocled mor llyfn.

Joien i weud bo fi'n wleidyddol "active", a dweud mod i ddim yn diodde o apathi. Ond allai'm.

A sain deall sut yn y byd ma pobol Prydain mor dawel am ryfel Irac - i ni wedi anghofio eu bod hi'n ryfel anghyfreithlon? I ni'n hapus 'da'r ffaith bod ein gwlad ni'n potsian da gwlad arall? A fydde well gennyn ni fod fel Ffrainc, a jocan bod a moesau, a aros mas tu fas ffinie Irac yn aros er mwyn ca'l gaf'el ar y slops? Pa hawl sy' da ni be bynnag? Fel i ni dal yn medru cyfiawnhau rhyfel? Ti'n cofio pan odd rhyfel yn ryfel go iawn, a'r baddie yn foi byr da tache odd yn casau Iddewon? Odd pethe'n ddu a gwyn pryd 'ny. A ma'r cwestiynne'n ddi-ddiwedd. A be i fi'n bwriadu gwneud? Torch o babis gwyn mate.

Wy ti wir yn teimlo fel tase ti'n ran o ddemocratiaeth?
Sa i yn. Er dyma beth "yw" democratiaeth - 'drych, fi'n medru dweud fy nweud. Beth odd y point? Sain siwr.

A'r ffacin tr'eni mwya yw -
Sanddef a ddywedodd:mae diogelwch a democratiaeth yno yn hollol ddibynnol ar lwyddiant byddin yr UDA erbyn hyn


bod hyn yn hollol wir. Eto ma grym milwrol yn dod a newidiadau hiwj byr dymor, sy mond yn troi mas fel cach enfawr wedyn, a bydd e'n cario mla'n fel y rest, i fod yn wast arian mowr, sy ar yr un pryd werth lot fowr o arian. Progress.


Diolch byth am law a choc. Reit te, wanc.
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan sanddef » Maw 16 Tach 2004 3:21 pm

Iesu Nicky Grist a ddywedodd:
A'r ffacin tr'eni mwya yw -
Sanddef a ddywedodd:mae diogelwch a democratiaeth yno yn hollol ddibynnol ar lwyddiant byddin yr UDA erbyn hyn


bod hyn yn hollol wir. Eto ma grym milwrol yn dod a newidiadau hiwj byr dymor, sy mond yn troi mas fel cach enfawr wedyn, a bydd e'n cario mla'n fel y rest, i fod yn wast arian mowr, sy ar yr un pryd werth lot fowr o arian. Progress.



ti'n llygad dy le am ddemocratiaeth yn dy neges.ar ddiwedd y dydd am ddiogelwch cymdeithas a'r unigolyn yr ydym yn siarad,nid am yr hawl i ddewis byd gwell.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Iesu Nicky Grist » Maw 16 Tach 2004 3:45 pm

sanddef rhyferys a ddywedodd:ti'n llygad dy le am ddemocratiaeth yn dy neges.ar ddiwedd y dydd am ddiogelwch cymdeithas a'r unigolyn yr ydym yn siarad,nid am yr hawl i ddewis byd gwell.


Sain siwr beth yw dy bwynt di? O'n i'n siarad am democratiaeth, y joke. Mae'r hyn ni'n hyrwyddo dramor (a llofruddio pobol drwy wneud hynny) yn methu adref. A'r unig ffordd ni'n gwybod sut i sefydlu "democratiaeth", neu'n hytrach y math o lywodraeth ni ishe 'na, yw trwy ryfel. Achos 'na'r unig ffordd ma nhw'n gw'bo' shwt ma gwneud!

Sain ry hoff o sut ma'r byd yn 'datblygu', dyna'i gyd.
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan sanddef » Maw 16 Tach 2004 4:05 pm

Iesu Nicky Grist a ddywedodd:
sanddef rhyferys a ddywedodd:ti'n llygad dy le am ddemocratiaeth yn dy neges.ar ddiwedd y dydd am ddiogelwch cymdeithas a'r unigolyn yr ydym yn siarad,nid am yr hawl i ddewis byd gwell.


Sain siwr beth yw dy bwynt di?


??? Fy mhwynt oedd 'mod i'n cytuno efo chdi am ddemocratiaeth,y joke,a bod wrth siarad am ddemocratiaeth yn gyffredin yr ydym mewn gwirionedd yn siarad am ddiogelwch ac yn y blaen...
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Iesu Nicky Grist » Maw 16 Tach 2004 4:28 pm

Fi'n slow. Sai dal yn deall yn iawn.
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan sanddef » Maw 16 Tach 2004 4:47 pm

Iesu Nicky Grist a ddywedodd:Fi'n slow. Sai dal yn deall yn iawn.


1.dw'i'n cytuno efo chdi am ddemocratiaeth,y joke
2.wrth drafod rhinweddau democratiaeth(yn gyffredinol),mae pobl mewn gwirionedd yn siarad NID am y rhyddid i ddewis y dyfodol OND am ddiogelwch cymdeithas a'r unigolyn
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Iesu Nicky Grist » Maw 16 Tach 2004 4:56 pm

Ti di llwyddo ail-ddweud 'run peth dro ar ol tro 'an! A finne siwr o fod!

Ie, gret, ti'n cytuno da fi bod democratiaeth yn joc.

Ond ti'n dweud uchod.....pan ma pobl yn trafod democratiaeth yn gyffredinol, nid siarad am etholiadau ma nhw, ond am ddiogelwch. Dyma be sain ddeall.
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron