Coffau'r Diniwed

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Sioni Size » Maw 14 Rhag 2004 1:32 pm

O diar annwyl dad.
Dwi'n rhyw amau fod dy gymhariaeth braidd yn anffodus. A throedig. Clodfori Churchill am weld fod Hitler yn ddyn drwg sy'n ymdebygu i frolio Shipman am wella dy annwyd fe dybiaf.
Yn ol dy logic di ddylai neb gondemnio Shipman/Churchill am ladd y diniwed os oes mwy o ddaioni'n gyffredinol yn eu bywyd yn grynswth. Mas a thi o'r carchar, Dr Harold.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Cardi Bach » Mer 15 Rhag 2004 4:01 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:ti di methu'r pwynt braidd.
felly yr unig reswm aeth Prydain i ryfel yn 1939 oedd fo Churchill yn ddyn drwg? petai dyn da wrth y llyw, ni fyddai prydain wedi mynd i ryfel?

Garnet Bowen a ddywedodd:mi oedd gan Churchill safbwyntiau atgas… Ond ydi hyn ots, pan 'da ni'n ystyried cyfraniad Churchill?

Mae galw Churchill yn ddyn drwg am arddel y syniadau (afiach) yma llawn mor ddwl a galw Hitler yn ddyn dda am ei fod o'n lysieuwr


Wy ddim cweit wedi gallu gweld dilyniant y ddadl yma.
Yn gynta, ie, dyna pam aeth Churchill i ryfel oedd am ei fod yn ddyn ‘drwg’ – yn wir mi oedd e’n ddyn ffiaidd. Roedd e’n ffrindiau pennaf a Mussolini, ac yn edmygwr mawr o Hitler. Roedd Hitler a Churchill yn arddel yr un daliadau.

Dyma rai enghreifftiau:
Yn 1910 roedd Churchill am ‘steraleisio’ degau ar ddegau os nad cannoedd o filoedd o bobl oedd a threfferthion meddwl – ‘mental degenerates’, gan ddanfon miloedd yn rhagor i ‘labour-camps’.

Meddai Churchill wrth Asquith yn 1910:

The unnatural and increasingly rapid growth of the feeble-minded and insane classes, coupled as it is with a steady restriction among the thrifty, energetic and superior stocks, constitutes a national and race danger which it is impossible to exaggerate ... I feel that the source from which the stream of madness is fed should be cut off and sealed up before another year has passed.’


Dyma oedd syniadau Hitler hefyd am iechyd hil.

Yn 1919, pan yn weinidog rhyfel, rhoddodd Churchill ganiatad i’r RAF i ddefnyddio arfau cemegol yn erbyn Arabiaid a Chwrdiaid.

"I am strongly in favor of using poisoned gas against uncivilized tribes…or any other method of warfare we have hitherto refrained from using."

Ac yna wrth drafod y Palesteiniad yn 1937:
"I do not agree that the dog in a manger has the final right to the manger even though he may have lain there for a very long time. I do not admit that right. I do not admit for instance, that a great wrong has been done to the Red Indians of America or the black people of Australia. I do not admit that a wrong has been done to these people by the fact that a stronger race, a higher-grade race, a more worldly wise race to put it that way, has come in and taken their place."


Wrth son am fomio’r diniwed:
"It's simply a question of fashion,...similar to that of whether short or long dresses are in."


Ac yna ei edmygedd o Hitler yn 1937:
‘One may dislike Hitler’s system and yet admire his patriotic achievement. If our country were defeated, I hope we should find a champion as indomitable to restore our courage and lead us back to our place among the nations.’

Dyma oedd Churchill, ond gan mae ef ysgrifennodd yr hanes cyntaf amdan ef ei hun, mae pobl yn dieddol o ddilyn hynny.

Mae’n felly rhyfedd gweld sgwrs sydd yn dadlau balanso pethau da i ffwrdd yn erbyn pethau drwg. I mi dyma yw rhesymeg y ddadl:
Roedd Hitler yn ddyn drwg. Ych. Mi laddodd e 6,000,000 o Iddewon.
Mae Hitler ar – 6 miliwn o bwyntiau.
Serch hynny mi gyflwynodd e’r Autobahn, ac mae hynny wedi gwirdroi teithio modern. Mae’n siwr fod hyn werth 1m o bwyntiau.
Nawr mae e ar – 5m.

Mae hwn yn naturiol yn ffiaidd! Mae gwerth bywydau pobl yn cael ei fesur yn ol pethau eraill ma nhw’, wneud. Yn sicr dyna sy’n cael ei ddweud am Churchill uchod.

Pebai Churchill wedi cael ei ffordd byddai miliynnau o Arabiaid, mwy o frodorion Awstralia a miliynnau eraill wedi cael eu lladd. Diolch i’r drefn ei fod yn byw o dan drefn mwy ryddfrydol! Roedd Churchill yn dal yr un daliadau a Hitler, dyna yw’r gwir, a byddai wedi gwneud yr un pethau. Rhaid i ni beidio ag anghofio hyn.

Fe ddof i nol at bwyntiau eraill.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan pogon_szczec » Mer 15 Rhag 2004 11:48 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Roedd e’n ffrindiau pennaf a Mussolini, ac yn edmygwr mawr o Hitler. Roedd Hitler a Churchill yn arddel yr un daliadau.


Mae galw Churchill yn 'edmygwr mawr o Hitler' yn mynd yn groes i'r dystiolaeth hanesyddol i gyd.

Roedd Churchill wedi rhybuddio am beryglon Hitler mor gynnar a 1930.

Ym 1932 gwrthododd Churchill gwrdd a Hitler pan oeddynt ym Munich ar yr un pryd.

Y rheswm pam aeth Churchill yn brif weinidog ar ol Chamberlain gyda chefnogaeth y Blaid Lafur oedd y ffaith ei fod wedi gwrthwynebu Hitler ac appeasement mor gyson yn y tridegau, pan oedd ail-arfogi yn mynd yn groes i ysbryd yr oes.

http://history.acusd.edu/gen/ww2Timeline/churchill.html
http://www.afsi.org/OUTPOST/2000AUG-SEP/augsep10.htm

Mae Celwyddgi Cardi wedi dod o hyd i ddyfyniad o 'edmygedd' Churchill tuag at Hitler, ond wrth gwrs mae'n bosibl 'profi' bron unrhywbeth gyda dyfyniad ma's o gyd-destun.

Hyd y gwn nid oedd Churchill yn ffrind mawr i Mussolini chwaeth.

Wrth gwrs ffrindiau gorau Hitler yn y tri-degau ym Mhrydain oedd pobl yn debyg iawn i Gelwyddgi Cardi, dynion y Peace Pledge Union a chenedlaetholwyr Celtaidd fel Plaid Cymru a'r IRA.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 24 Rhag 2004 12:27 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Wy ddim cweit wedi gallu gweld dilyniant y ddadl yma.
Yn gynta, ie, dyna pam aeth Churchill i ryfel oedd am ei fod yn ddyn ‘drwg’ – yn wir mi oedd e’n ddyn ffiaidd. Roedd e’n ffrindiau pennaf a Mussolini, ac yn edmygwr mawr o Hitler. Roedd Hitler a Churchill yn arddel yr un daliadau.


Nagoedden wir. Mi oedd Churchill yn cefnogi rhai pethau digon ffiaidd, ond doedd o ddim yn Natsi o unrhyw ddisgrifiad. A'r gwahaniaeth pennaf, a'r un pwysicaf, oedd fod Hitler wedi gweithredu ei syniadau afiach o, tra bo mwyafrif llethol syniadau afiach Churchill wedi aros ar y drawing board.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan GT » Sad 25 Rhag 2004 12:29 am

Garnet Bowen a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:Wy ddim cweit wedi gallu gweld dilyniant y ddadl yma.
Yn gynta, ie, dyna pam aeth Churchill i ryfel oedd am ei fod yn ddyn ‘drwg’ – yn wir mi oedd e’n ddyn ffiaidd. Roedd e’n ffrindiau pennaf a Mussolini, ac yn edmygwr mawr o Hitler. Roedd Hitler a Churchill yn arddel yr un daliadau.


Nagoedden wir. Mi oedd Churchill yn cefnogi rhai pethau digon ffiaidd, ond doedd o ddim yn Natsi o unrhyw ddisgrifiad. A'r gwahaniaeth pennaf, a'r un pwysicaf, oedd fod Hitler wedi gweithredu ei syniadau afiach o, tra bo mwyafrif llethol syniadau afiach Churchill wedi aros ar y drawing board.


Bechod na fyddai pob dim wedi aros ar y drawing board chwadl tithau. Gweler
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Sioni Size » Llun 27 Rhag 2004 2:02 am

A dyna pam nad cymhariaeth Bush ohono'i hun i Winston Churchill yn wirion o gwbl. Mae bomio iraciaid a nwyon a gwenwyn i gael eu 'stability' yn rhan o'u hanes dewr a chlodwiw.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Mer 29 Rhag 2004 12:56 am

GT a ddywedodd:
Bechod na fyddai pob dim wedi aros ar y drawing board chwadl tithau. Gweler


1) Yn wahanol i be wyt ti'n ei honi, fe arosodd y syniad arbennig yma ar y drawing board. Tydw i erioed wedi dod o hyd i ffynhonell hanesyddol ddibynadwy sy'n cysylltu Churchill gyda'r defnydd o nwy gwenwynig yn erbyn yr Arabiaid.

2) Mae'r honiad arbennig yma yn deillio o un memo a sgwenwyd gan Churchill ym 1919, sydd yn cyfeirio yn benodol at lachrymatory gas. Hynny yw, tear gas, sef be mae ein heddlu ni yn ei saethu at bobl sy'n cymeryd rhan mewn terfysg stryd heddiw - annifyr, ond eithaf diniwed.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 29 Rhag 2004 1:38 am

Garnet Bowen a ddywedodd:
GT a ddywedodd:
Bechod na fyddai pob dim wedi aros ar y drawing board chwadl tithau. Gweler


1) Yn wahanol i be wyt ti'n ei honi, fe arosodd y syniad arbennig yma ar y drawing board. Tydw i erioed wedi dod o hyd i ffynhonell hanesyddol ddibynadwy sy'n cysylltu Churchill gyda'r defnydd o nwy gwenwynig yn erbyn yr Arabiaid.

2) Mae'r honiad arbennig yma yn deillio o un memo a sgwenwyd gan Churchill ym 1919, sydd yn cyfeirio yn benodol at lachrymatory gas. Hynny yw, tear gas, sef be mae ein heddlu ni yn ei saethu at bobl sy'n cymeryd rhan mewn terfysg stryd heddiw - annifyr, ond eithaf diniwed.


Diniwed :rolio:

Un pwynt holl bwysig yn y drafodaeth yma. Mae sawl un wedi son am 'appeasement' Chamberlain. Nid 'Appeasement' oedd be gwnaeth Chamberlain. Ystyr y gair ydy gweithio yn bositif dros Heddwch, nid gwneuyd dim! Roedd Chaberlain yn gachgi, wnaeth e DDIM. Fe wnaeth e yn bendant ddim gweithio sdros heddwch! Galw am weithio yn bositif dros heddwch ydw i a Cardi, NID dros gwneud dim!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Nôl

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron