Mr Gasyth a ddywedodd:ti di methu'r pwynt braidd.
felly yr unig reswm aeth Prydain i ryfel yn 1939 oedd fo Churchill yn ddyn drwg? petai dyn da wrth y llyw, ni fyddai prydain wedi mynd i ryfel?
Garnet Bowen a ddywedodd:mi oedd gan Churchill safbwyntiau atgas… Ond ydi hyn ots, pan 'da ni'n ystyried cyfraniad Churchill?
Mae galw Churchill yn ddyn drwg am arddel y syniadau (afiach) yma llawn mor ddwl a galw Hitler yn ddyn dda am ei fod o'n lysieuwr
Wy ddim cweit wedi gallu gweld dilyniant y ddadl yma.
Yn gynta, ie, dyna pam aeth Churchill i ryfel oedd am ei fod yn ddyn ‘drwg’ – yn wir mi oedd e’n ddyn ffiaidd. Roedd e’n ffrindiau pennaf a Mussolini, ac yn edmygwr mawr o Hitler. Roedd Hitler a Churchill yn arddel yr un daliadau.
Dyma rai enghreifftiau:
Yn 1910 roedd Churchill am ‘steraleisio’ degau ar ddegau os nad cannoedd o filoedd o bobl oedd a threfferthion meddwl – ‘mental degenerates’, gan ddanfon miloedd yn rhagor i ‘labour-camps’.
Meddai Churchill wrth Asquith yn 1910:
The unnatural and increasingly rapid growth of the feeble-minded and insane classes, coupled as it is with a steady restriction among the thrifty, energetic and superior stocks, constitutes a national and race danger which it is impossible to exaggerate ... I feel that the source from which the stream of madness is fed should be cut off and sealed up before another year has passed.’
Dyma oedd syniadau Hitler hefyd am iechyd hil.
Yn 1919, pan yn weinidog rhyfel, rhoddodd Churchill ganiatad i’r RAF i ddefnyddio arfau cemegol yn erbyn Arabiaid a Chwrdiaid.
"I am strongly in favor of using poisoned gas against uncivilized tribes…or any other method of warfare we have hitherto refrained from using."
Ac yna wrth drafod y Palesteiniad yn 1937:
"I do not agree that the dog in a manger has the final right to the manger even though he may have lain there for a very long time. I do not admit that right. I do not admit for instance, that a great wrong has been done to the Red Indians of America or the black people of Australia. I do not admit that a wrong has been done to these people by the fact that a stronger race, a higher-grade race, a more worldly wise race to put it that way, has come in and taken their place."
Wrth son am fomio’r diniwed:
"It's simply a question of fashion,...similar to that of whether short or long dresses are in."
Ac yna ei edmygedd o Hitler yn 1937:
‘One may dislike Hitler’s system and yet admire his patriotic achievement. If our country were defeated, I hope we should find a champion as indomitable to restore our courage and lead us back to our place among the nations.’
Dyma oedd Churchill, ond gan mae ef ysgrifennodd yr hanes cyntaf amdan ef ei hun, mae pobl yn dieddol o ddilyn hynny.
Mae’n felly rhyfedd gweld sgwrs sydd yn dadlau balanso pethau da i ffwrdd yn erbyn pethau drwg. I mi dyma yw rhesymeg y ddadl:
Roedd Hitler yn ddyn drwg. Ych. Mi laddodd e 6,000,000 o Iddewon.
Mae Hitler ar – 6 miliwn o bwyntiau.
Serch hynny mi gyflwynodd e’r Autobahn, ac mae hynny wedi gwirdroi teithio modern. Mae’n siwr fod hyn werth 1m o bwyntiau.
Nawr mae e ar – 5m.
Mae hwn yn naturiol yn ffiaidd! Mae gwerth bywydau pobl yn cael ei fesur yn ol pethau eraill ma nhw’, wneud. Yn sicr dyna sy’n cael ei ddweud am Churchill uchod.
Pebai Churchill wedi cael ei ffordd byddai miliynnau o Arabiaid, mwy o frodorion Awstralia a miliynnau eraill wedi cael eu lladd. Diolch i’r drefn ei fod yn byw o dan drefn mwy ryddfrydol! Roedd Churchill yn dal yr un daliadau a Hitler, dyna yw’r gwir, a byddai wedi gwneud yr un pethau. Rhaid i ni beidio ag anghofio hyn.
Fe ddof i nol at bwyntiau eraill.