Coffau'r Diniwed

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Mer 24 Tach 2004 7:38 pm

Dwi'n anwybyddu'r drafodaeth am ryfel a christnogaeth, gan fy mod i'n anffyddiwr llwyr, ond mi ydw i'n mynd i ymateb i'r pwynt am Ddenmarc.


Cardi Bach a ddywedodd:I ychwanegu, gan fod pobl yn aml yn troi ac yn son am dranc yr Iddewon o dan Hitler, dyma enghraifft o sut mae gwrthod cydweithio yn gweithio:

Denmark has become famous for her hospitality to Jews over the years, and this was seen most recently during the Second World War. Nazi occupiers planned a round up and transport of the Jews of Denmark to concentration camps in Europe. With the edict of the 'yellow star', the King of Denmark called to the citizens of his country to wear yellow stars in order to prevent the Nazis from being able to differentiate betwen Jews and non Jews. Later on the second day of Rosh Hashana 1943 (October 1) when special units of the Gestapo arrived simutaneously at the Great Synagogue of Copenhagen and other Jewish centers and homes, they found that the Jews of Denmark had vanished. They had been hidden in the homes of Danish families and during the following 10 days, the Jews were smuggled over the sea to Sweden.



Daw hon o wefan y World Union of Juish Students.


I lle wyt ti'n meddwl y gwnaeth yr Iddewon yma ddianc, Cardi? I Sweden niwtral? A lle wedyn? Lle aeth yr Iddewon yma pan orymdeithiodd yr Almaen drwy Sweden? Fel dwi 'di nodi yn barod, pasio eu cyfrifoldebau ymlaen i rywun arall wnaeth Denmarc a Sweden yn ystod yr ail ryfel byd. Do, fe helpo nhw'r Iddewon i ddianc. Ond dianc i wledydd y cyngrheiriaid wnaeth y rhan fwyaf ohonyn nhw, cyrchfanoedd a oedd yn cael eu gwarchod gyda arfau milwrol. Heb y gyrchfan yma, fe fyddai eu gweithred wedi bod yn un gyfangwbwl ddi-bwrpas.

Ti'n deud yn dy edefyn uchod y byddai "safiad yn erbyn lladd cyd-ddyn a sefyll yn erbyn gormes mewn modd heddychlon yn ddangos cariad lawer cryfach". Ond beth ydi gwerth y cariad yma, pan wyt ti'n cael dy gario i'r siambr nwy? Ydi o'n cynnig unrhywbeth i'r trueiniaid sy'n wynebu diwedd eu hoes am y rheswm syml eu bod nhw'n aelodau o'r hil anghywir?

Do, fe helpodd Denmarc i warchod eu poblogaeth Iddewig eu hunain. Ond fe warchododd Prydain, America a Rwsia boblogaeth Iddewig Ewrop gyfan. A drwy ddefnyddio grym milwrol y llwyddon nhw i wneud hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan pogon_szczec » Mer 24 Tach 2004 10:31 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
Wnaeth Almaen Hitler erioed "drio eu gorau" i orsegyn Denmar na' Sweden. Mi ddewison nhw i gyd-fyw a Sweden niwtral a Denmarc gyfeillgar am fod hyn yn haws i bawb. Doedd dim rhaid gwastraffu dynion yn meddianu'r gwledydd yma, pan y gellid defnyddio'r dynion hynny i ymladd y cyngrheiriaid. Tasa unrhyw un o'r ddwy wlad wedi gwneud unrhyw ymdrech deg i wrthsefyll polisiau'r Almaen, fe fyddent wedi cael eu sathru gan y fyddin Almaenig.





Ond cafodd Denmark eu sathru a'i feddianu gan y fyddin Almaenig ym '40.
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Cardi Bach » Iau 25 Tach 2004 11:03 am

Mr Gasyth a ddywedodd:Plis paid rhoi geirie yn fy ngheg i. Dwi'n anghtuno efo beth sydd yn mynd ymlaen yn Irac ac Affganistan gymaint ag wyt ti, ond fy mod i yn ei wrthwynebu am ei fod yn ryfel imperialaidd, anghyfiawn, di-angen tra rwyt ti'n ei wrthwynebu am ei fod yn ryfel.

Wrth gwrs fod rhyfel yn beth erchyll, ond hyd nes bydd y ddynoliaeth yn berffaith a daw gwir 'megis yn y nef felly ar y ddaear hefyd' mae hefyd ar adegau yn beth angenrheidiol sydd yn gallu arwain at fyd gwell yn ei sgil. Dyw hyn ddim bob amser yn wir, mae'r rhyfel prsennol wedi gwneud y byd yn le gwaeth, ond does gen i ddim amheuaeth fod bywyd rhan helyw pobl Ewrop wedi bod yn well yn sgil yr Ail Ryfel Byd nag y byddai wedi bod petai Hitler wedi llwyddo yn ei ymgais i goncro'r cyfandir. Do, bu miloedd farw yn y rhyfel, ond byddai miloedd wedi marw hebddo hefyd.

Cardi Bach a ddywedodd:
ond mae'n gwestiwn rhethregol eto



Ti'n siwr na ddim cwestiwn anodd ti'n feddwl? Ti bron cyn waethed a Realydd

Sori Mistar, wy ddim yn trial rhoi geirie yn dy geg, mond nodi beth yw rhyfel ydw i. Achos fod anghytuno gwleidyddol, dyw hynny ddim yn cyfiawnhau bomio cannoedd o filoedd o bobl (Dresden a Hiroshima/Nakasaki yw’r enghreifftiau mwyaf amlwg sy’n dod o’r Ail Ryfel Byd). Fel wedes i ynghynt nid byddin o beiriannau oedd byddin y Naziaid, na chwaith unrhyw fyddin arall sydd wedi bodoli mewn hanes, casgliad o unigolion sydd a’u ewyllys rydd eu hunen yw’r fyddin, ac mae’r dewis ganddyn nhw i beidio a chydweithredu (neu ymuno yn y lle cynta). Iawn, rodd Hitler yn gont drwg. Ond pam y bu i’r degau o filoedd o Almaenwyr cyffredin ymuno a’i fyddin? Oedd pob un ohonyn nhw yn gontiaid drwg? Yw hyn yn golygu fod yr hil Almaenig yn hil o gontiaid drwg? Nagyw siwr Pam wnaethon nhw ymuno felly? Pam wnaethon gydfynd a’r holl beth? Onid yw’n bwysicach i ni, yn y lle cyntaf, holi’r cwestiynnau creiddiol a holl bwysig yma, a ffeindio atebion ar eu cyfer er mwyn sicrhau nad yw rhywbeth cyffelyb yn digwydd eto? Un dyn oedd Hitler. Un cont drwg. Ond roedd degau ar ddegau o filoedd o bobl wedi cydsynio iddo yn gyntaf, ac wedyn trwy rym ‘politics of fear (le ydw i wedi clywed hwnna’n ddiweddar tybed?) mi wnaeth eraill uno o dan ‘peer pressure’, ofn, awydd cydymffurfio.

Mae’n rhaid i ni ystyried hyn oll. Odi, mae’n hawdd – ac yn ddiog – di-ystyried y cwbwl gan rhoi un ateb stoc hawdd iw ddeall a mynnu nad oes neb yn ei gwestiynnu. Dyna yw’r trafferth fod neb wedi cwestiynnu rhyfel ddigon, ac yn derbyn y cwbwl gan mai rhyfel yw e – yr un digwyddiad anferthol hwnnw sydd yn lladd miloedd ar filoedd o bobl ac yn mynd heb gael ei herio!

Pam y bu i Hitler gyrraedd lle y gwnaeth e?
Pam y derbyniwyd areithiau cyntaf Hitler yn y cyfarfodydd cynar hynny?
Pam y caniatawyd i Hitler a’i fyddin brifat i dra-arglwyddiaethu dros ddinasyddion?
Pam oedd pobl yr Almaen yn barod i dderbyn ei neges?
Pam y caniatawyd i’r Reichstag gael ei losgi?
Pam oedd pobl cyffredin yr Almaen yn barod i uno a’i fyddin?
Pam oedd pobl cyffredin yn barod i ladd miliynnau o Iddewon diniwed?

Mae’r rhestr yn un hirfaith a mond y canrhan lleiaf yw hwn. Gallwn ni ddim ag anwybyddu’r cwestiynnau yma rhagor – mae’n rhaid cael atebion. Mae’n rhaid deall meddylfryd y bobl oedd yn byw o dan gysgod Hitler.
Pam wyt ti’n meddwl y bu i “Karl Eichmann” (random enw Almaenig) ymuno a byddin Hitler? Paham wyt ti’n meddwl i Herr Eichmann gydsynio i ofalu am wersyll lladd ger Lublin?

Am y cwestiwn, yndi mae’n gwestiwn anodd, amhosib, ond wy wedi cynnig yr ateb y byddwn i’n cynnig fy hun, os yw hwnna’n ddigon da.

Garnet Bowen a ddywedodd:I lle wyt ti'n meddwl y gwnaeth yr Iddewon yma ddianc, Cardi? I Sweden niwtral? A lle wedyn? Lle aeth yr Iddewon yma pan orymdeithiodd yr Almaen drwy Sweden? Fel dwi 'di nodi yn barod, pasio eu cyfrifoldebau ymlaen i rywun arall wnaeth Denmarc a Sweden yn ystod yr ail ryfel byd. Do, fe helpo nhw'r Iddewon i ddianc. Ond dianc i wledydd y cyngrheiriaid wnaeth y rhan fwyaf ohonyn nhw, cyrchfanoedd a oedd yn cael eu gwarchod gyda arfau milwrol. Heb y gyrchfan yma, fe fyddai eu gweithred wedi bod yn un gyfangwbwl ddi-bwrpas.

Ti'n deud yn dy edefyn uchod y byddai "safiad yn erbyn lladd cyd-ddyn a sefyll yn erbyn gormes mewn modd heddychlon yn ddangos cariad lawer cryfach". Ond beth ydi gwerth y cariad yma, pan wyt ti'n cael dy gario i'r siambr nwy? Ydi o'n cynnig unrhywbeth i'r trueiniaid sy'n wynebu diwedd eu hoes am y rheswm syml eu bod nhw'n aelodau o'r hil anghywir?

Do, fe helpodd Denmarc i warchod eu poblogaeth Iddewig eu hunain. Ond fe warchododd Prydain, America a Rwsia boblogaeth Iddewig Ewrop gyfan. A drwy ddefnyddio grym milwrol y llwyddon nhw i wneud hynny.


Beth yw gwerth cariad? Cwestwin dyrys. Y gwerth mwya.
Mae dy ateb yn colli’r pwynt braidd. Pe bai pobl yn uno i rwystro eu llafur a chydweithrediad ar draws ffiniau, ar draws cenhedloedd, yna byddai’r ‘awdurdodau’ yn gallu gwneud dim. Dyma yn elfenol beth yw streic. Rodd sosialwyr mawr y ganrif ddiwethaf yn hyderus na fyddai gweithiwr yn mynd i ryfel yn erbyn gweithiwr. Roedd meddylwyr mawr y mudiadau sosialaidd Ewropeaidd wedi rhagweld streic cyffredinol Ewropeaidd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gredu a dadlau mai rhyfel a dadl y dosbarth uchaf oedd hi, ac nad oedd achos i gymrawd fynd i ladd cymrawd. Fe’u dadruthiwyd yn llwyr wrth gwrs wrth fod gweithiwr ar ol gweithiwr yn cwympo o dan hyd propaganda Kitchener a’i gyffelyb ac yn mynd i’r ffosydd – ond mae y syniad gwreiddiol hwnnw yn dal yr un mor addas heddiw. Ac mae hyn felly yn clymu i fewn gyda’r cwestiynnau uchod.

Ti hefyd yn dadlau “pasio cyfrifoldeb” wnaeth Sweden a Denmarc. Dyma yn wir yw sylfaen dy ddadl. Os wyt ti mor daer am hyn, ac yn wirioneddol gredu yn dy ddadl dy hun, yna ymuna a’r fyddin dy hun. Yr hyn wyt ti’n wneud nawr yw pasio dy gyfrifoldeb di i warchod dy genedl ymlaen at bobl eraill. Mae’n siwr y gwneu di ddadlau fod dyletswyddau eraill gyda ti sydd hefyd yn bwysig at ‘yr achos’ – llwfr fyddai hyn. Os wyt ti wirioneddol yn gredu yn yr hyn wyt ti’n ddweud pam na ei di i wneud stint yn Irac gyda’r Welsh Dragoons – chwarae dy ran i amddiffyn dy dir, dy ddemocratiaeth, dy ffordd o fyw. Wyt ti ofn? Mae angen dynion ifanc, iach, galluog ar y fyddin Brydeinig ( i gyflenwi am y rhai syd wedi cael eu lladd mwn).
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Garnet Bowen » Iau 25 Tach 2004 11:30 am

Cardi Bach a ddywedodd:Beth yw gwerth cariad? Cwestwin dyrys. Y gwerth mwya.


Ym mha ffordd? Tydi'r ffaith dy fod ti'n dtagan fod cariad "o'r gwerth mwya" ddim yn golygo fod hynny'n wir. Mi fedrai ddatgan fod blancmange o'r gwrth mwyaf i ddynoliaeth. Tan medra i ddangos sut mae blancmange o werth i ddynoliaeth, mae fy natganiad yn un diystyr. Sut mae "cariad" yn helpu Iddew sydd ar fin cael ei ddineddio am fod yn aelod o'r hil anghywir?

Cardi Bach a ddywedodd:Mae dy ateb yn colli’r pwynt braidd. Pe bai pobl yn uno i rwystro eu llafur a chydweithrediad ar draws ffiniau, ar draws cenhedloedd, yna byddai’r ‘awdurdodau’ yn gallu gwneud dim.


Unwaith eto, mae dy ddadl di yn seliedig ar "pe bai". Dwi ddim yn dadlau mai rhyfel ydi'r ffordd orau o wneud rhywbeth. Dadlau ydw i fod rhaid wrth ryfel pan mae pob un "pe bai" wedi methu. Pan mae Hitler mewn grym, pan mae byddin y Natsiaid yn gorymdeithio ar draws Ewrop, pan mae Iddewon yn cael eu dienyddio. Beth wyt ti'n ei wneud bryd hynny, Cardi? Datgan mai fel hyn neu fel arall y dylsem ni fod wedi gwneud petha? Pa ddefnydd ymarferol ydi hyn? Mae rhyfel yn rhywbeth y dylid ei osgoi pan mae ffordd arall, llai poenus, o ddatrus problem. Ond weithia - pan mae'r ffyrdd eraill wedi methu, a mi wyt ti wedi methu a dal pen rheswm gyda gelyn - mae rhyfel yn achosi llai o boen na heddychiaeth.

Cardi Bach a ddywedodd:Ti hefyd yn dadlau “pasio cyfrifoldeb” wnaeth Sweden a Denmarc. Dyma yn wir yw sylfaen dy ddadl. Os wyt ti mor daer am hyn, ac yn wirioneddol gredu yn dy ddadl dy hun, yna ymuna a’r fyddin dy hun. Yr hyn wyt ti’n wneud nawr yw pasio dy gyfrifoldeb di i warchod dy genedl ymlaen at bobl eraill. Mae’n siwr y gwneu di ddadlau fod dyletswyddau eraill gyda ti sydd hefyd yn bwysig at ‘yr achos’ – llwfr fyddai hyn. Os wyt ti wirioneddol yn gredu yn yr hyn wyt ti’n ddweud pam na ei di i wneud stint yn Irac gyda’r Welsh Dragoons – chwarae dy ran i amddiffyn dy dir, dy ddemocratiaeth, dy ffordd o fyw. Wyt ti ofn? Mae angen dynion ifanc, iach, galluog ar y fyddin Brydeinig ( i gyflenwi am y rhai syd wedi cael eu lladd mwn).


1) Mi fyswn i'n filwr cachu. Fyswn i ddim para pum munud mewn ffeit yn y dafarn, heb son am frwydr go iawn. A mae gen i asma, sy'n golygu na chai ymuno efo'r fyddin. Coelia neu beidio, dwi wedi gwneud ymholiada.

2) Tydi'r gymhariaeth ddim yn un deg. Mi oedd y cyngrheiriaid yn yr Ail Ryfel Byd angen help Denmarc a Sweden. Mi oedd yr Almaen yn llwyddo i drechu eu byddinoedd, ac mi oedd 'na angen cymorth arnyn nhw. Tydi byddin Prydain yn Irac ddim fy angen i.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Iau 25 Tach 2004 1:30 pm

"Ond awn i ailadfer bro-ooo,
aaawn i ailgodi'r to-ooo,
ail oleuwn y ti-iiir,
pwy a saif gyda garnet"
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan eusebio » Iau 25 Tach 2004 1:47 pm

Realydd a ddywedodd:Neges hirwyntog arall gan Cardi ...


RET ti'n dysgu dim - wyt ti am feirniadu pogon am 'sgwennu neges hirach na neges Cardi? Mam bach, weithiau nid yw'n bosib 'sgwennu negeseuon sydd yn egluro safbwynt rhywun mewn brawddeg neu ddau.
:rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Mr Gasyth » Iau 25 Tach 2004 1:58 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Pam y bu i Hitler gyrraedd lle y gwnaeth e?
Pam y derbyniwyd areithiau cyntaf Hitler yn y cyfarfodydd cynar hynny?
Pam y caniatawyd i Hitler a’i fyddin brifat i dra-arglwyddiaethu dros ddinasyddion?
Pam oedd pobl yr Almaen yn barod i dderbyn ei neges?
Pam y caniatawyd i’r Reichstag gael ei losgi?
Pam oedd pobl cyffredin yr Almaen yn barod i uno a’i fyddin?
Pam oedd pobl cyffredin yn barod i ladd miliynnau o Iddewon diniwed?

Mae’r rhestr yn un hirfaith a mond y canrhan lleiaf yw hwn. Gallwn ni ddim ag anwybyddu’r cwestiynnau yma rhagor – mae’n rhaid cael atebion. Mae’n rhaid deall meddylfryd y bobl oedd yn byw o dan gysgod Hitler.
Pam wyt ti’n meddwl y bu i “Karl Eichmann” (random enw Almaenig) ymuno a byddin Hitler? Paham wyt ti’n meddwl i Herr Eichmann gydsynio i ofalu am wersyll lladd ger Lublin?


Brain-washing, ffug-obaith, tlodi, charisma Hitler, conscription... ma'r atebion posib hefyd yn hirfaith, ond tydw i ddim cweit yn deall dy bwynt ti. Ai dweud wyt ti fod bai ar bob Almaenwr am be wnaeth Hitler, fod pob Almaenwr nad oedd digon dewr iw neud be rwyt ti yn dweud y dylen nhw felly yn cyd-synio gyda hil-laddiad yr Iddewon a'r weldigaeth Natsiaidd yn ei chyfanrwydd? Os felly, faswn i'n dadlau dy fod yn anghywir, mae ymddygiad torfol yn gallu bod yn drech na rhesymeg unigolyn ac yn arbennig felly pan mae brain-washio yn mynd ymlaen ar y fath raddfa ag yr ydoedd yn yr Almaen bryd hynny.

Ond yn fwy na hyn, hyd yn oed petai Churchill ei hun yn gwybod yr atebion i'r holl gwestiynnau rwyt ti'n eu gofyn uchod, byddai dal wedi newid dim ar y sefyllfa fel ag yr oedd hi - ni allai fynd yn ol a dad-wneud yr holl ffactorau a digwyddiadau oedd wedi arwain at fod y Natsiaid o fewn dim i oresgyn Prydain. Dwi'n cytuno'n llwyur efo Garnet yma, mai fel opsiwn ola, pan mae pobpeth arall wedi methu y dylid mynd i ryfel - yn 1939 doedd dim opsiwn arall (cofia cytundeb Munich 1936?).

Yn ol dy farn di hefyd Cardi, doed bron pob un o'r hen dywysogion Cymreig yn ddim mwy na rhyfelwyr dieflig. Yn sicir mae'n rhaid fod Llywelyn ein llyw Olaf ac Owain Glyndwr yn wrthun i ti, a dwi'n cymryd nad wyt yn cymryd unrhyw falchder yn eu hymdrechion i gadw rhyddid Cymru? Gwarth o beth felly ydi'r holl ddigwyddiadau coffau Glyndrw ma sydd wedi bod yn ddiweddar ynte?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Cardi Bach » Iau 25 Tach 2004 4:39 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Ym mha ffordd? Tydi'r ffaith dy fod ti'n dtagan fod cariad "o'r gwerth mwya" ddim yn golygo fod hynny'n wir. Mi fedrai ddatgan fod blancmange o'r gwrth mwyaf i ddynoliaeth. Tan medra i ddangos sut mae blancmange o werth i ddynoliaeth, mae fy natganiad yn un diystyr. Sut mae "cariad" yn helpu Iddew sydd ar fin cael ei ddineddio am fod yn aelod o'r hil anghywir?

Dyma eto gymysgu hanes a ffeithiau hanesyddol – yn fwriadol neu anfwriadol. Cofier nad ermwyn gwarchod yr Iddewon yr ymladdwyd y rhyfel. Roedd Iddewon yn cael eu gormesi ymhell cyn i’r rhyfel ddechrau. Ystyria deddfau Nuremberg a roddwyd gan y Naziaid yn 1933-35?
· Jews and Christians not permitted to eat together.
· Jews not allowed do hold public office.
· Jewish books such as the Talmud to be burned.
· Christians not permitted to patronize Jewish doctors.
· Christians not permitted to attend Jewish ceremonies.
· Jews not permitted to act as agents in the conclusion of contracts, especially marriage contracts between Christians.


Roedd Ffrainc yn gwrthod derbyn Iddewon. Roedd Iddewon yn cael eu camdrin yn ddifrifol ymhell cyn y rhyfel. Yn yr un modd hoywon a Sipsiwn. Peidied a chymysgu ffeithiau hanesyddol i fyny i gyfiawnhau rhyfeloedd.

Garnet Bowen a ddywedodd:Unwaith eto, mae dy ddadl di yn seliedig ar "pe bai". Dwi ddim yn dadlau mai rhyfel ydi'r ffordd orau o wneud rhywbeth. Dadlau ydw i fod rhaid wrth ryfel pan mae pob un "pe bai" wedi methu. Pan mae Hitler mewn grym, pan mae byddin y Natsiaid yn gorymdeithio ar draws Ewrop, pan mae Iddewon yn cael eu dienyddio. Beth wyt ti'n ei wneud bryd hynny, Cardi? Datgan mai fel hyn neu fel arall y dylsem ni fod wedi gwneud petha? Pa ddefnydd ymarferol ydi hyn? Mae rhyfel yn rhywbeth y dylid ei osgoi pan mae ffordd arall, llai poenus, o ddatrus problem. Ond weithia - pan mae'r ffyrdd eraill wedi methu, a mi wyt ti wedi methu a dal pen rheswm gyda gelyn - mae rhyfel yn achosi llai o boen na heddychiaeth.


Dyma ddyfyniad difyr sydd yn clymu i fewn i gyfraniad Mr Gasyth:

Richard Rubenstein, The Cunning of History a ddywedodd:The process was a highly complex series of acts which started simply with the bureaucratic definition of who was a Jew. Once defined as a Jew by the German state bureaucracy, a person was progressively deprived of all personal property and citizen rights. The final step in the process came when the Jew was eliminated altogether.

The destruction process required the cooperation of every sector of German society. The bureaucrats drew up the definitions and decrees; the churches gave evidence of Aryan descent; the postal authorities carried the messages of definition, expropriation, denaturalization and deportation. Business corporations dismissed their Jewish employees employees and took over 'Aryanized' properties; the railroads carried the victims to their place of execution. The operation required and received the participation of every major social, political and religious institution of the German Reich.


Fi wedi cynnig ateb sawl gwaith bellach, ac mae’r ateb yma yn cael ei atgyfnerthu gan y dyfyniad uchod – sef gwrthod cydweithio, atal dy lafur. Wy ddim yn gwadu ei fod yn anodd achos fel dywed Freud:

Sigmund Freud, Group Psychology and the Analysis of the Ego a ddywedodd:Men permit themselves cruelties and immoralities as members of a cohesive group which they do not allow themselves as individuals. In group behavior there is a regression to the primitive, illogical, magical thinking and immediate satisfaction of drives that characterizes the world of the infant. This world remains an archaic inheritance of the unconscious throughout life. When the going gets rough, the sleeping infantile monster awakens to its career of destruction and cruelty.

Ond mae ganddom ni ewyllys rydd, a’r gallu i wneud penderfyniadau a chymryd cyfrifoldeb dros ein gweithgareddau. Dwyt ti ddim wedi ymgeisio i ateb y cwestiynnau creiddiol sydd yn hanfodol iw hateb i sicrhau nad ydym yn cyrraedd sefylffa fel yna eto.

Garnet Bowen a ddywedodd:2) Tydi'r gymhariaeth ddim yn un deg. Mi oedd y cyngrheiriaid yn yr Ail Ryfel Byd angen help Denmarc a Sweden. Mi oedd yr Almaen yn llwyddo i drechu eu byddinoedd, ac mi oedd 'na angen cymorth arnyn nhw. Tydi byddin Prydain yn Irac ddim fy angen i.

Na falle ddim yn Irac, ond ermwyn gallu cyflawni’r ymgyrch rhagorol yma o waredu’r byd o ‘evil’ a chyflwyno democratiaeth i’r barbariaid bydd y fyddin yn cael ei wasgaru yn dennau iawn. Bydd milwyr yn Irac, Affganistan, Sudan, Indonesia, Iwcran, Cote Divoir,…ayb oll yn cael lladd despots ac ambell i sifiliad.

Asma? Shit! Treni na wnaeth y 40miliwn o filwyr sydd wedi marw ar draws y byd yn ystod y 100 mlynedd ddiwetha gael papur doctor yn dweud fod asma arnyn nhw.

Mr Gasyth a ddywedodd:Brain-washing, ffug-obaith, tlodi, charisma Hitler, conscription... ma'r atebion posib hefyd yn hirfaith, ond tydw i ddim cweit yn deall dy bwynt ti. Ai dweud wyt ti fod bai ar bob Almaenwr am be wnaeth Hitler, fod pob Almaenwr nad oedd digon dewr iw neud be rwyt ti yn dweud y dylen nhw felly yn cyd-synio gyda hil-laddiad yr Iddewon a'r weldigaeth Natsiaidd yn ei chyfanrwydd? Os felly, faswn i'n dadlau dy fod yn anghywir, mae ymddygiad torfol yn gallu bod yn drech na rhesymeg unigolyn ac yn arbennig felly pan mae brain-washio yn mynd ymlaen ar y fath raddfa ag yr ydoedd yn yr Almaen bryd hynny.

Ond yn fwy na hyn, hyd yn oed petai Churchill ei hun yn gwybod yr atebion i'r holl gwestiynnau rwyt ti'n eu gofyn uchod, byddai dal wedi newid dim ar y sefyllfa fel ag yr oedd hi - ni allai fynd yn ol a dad-wneud yr holl ffactorau a digwyddiadau oedd wedi arwain at fod y Natsiaid o fewn dim i oresgyn Prydain. Dwi'n cytuno'n llwyur efo Garnet yma, mai fel opsiwn ola, pan mae pobpeth arall wedi methu y dylid mynd i ryfel - yn 1939 doedd dim opsiwn arall (cofia cytundeb Munich 1936?).


Wath ti heb a ddwyn Churchill mewn i’r peth – ma ‘da fi gyment o barch at y boi yma ag sydd gyda fi at gonorrhea. Na gallau ddim wedi gwneud dim am y ffactorau i’r rhyfel hynny, ond gallau wedi gwrthod cydweithio ayb, a hefyd dysgu ermwyn peidio creu sefyllfa arall fyddai’n arwain at ryfel. Yr eironi yw fod fwy o ryfeloedd wedi bod yn y ganrif ddiwetha, er gwaetha’r ‘War to end all Wars’ nag mewn unrhyw gyfnod arall mewn hanes.

Mr Gasyth a ddywedodd:Yn ol dy farn di hefyd Cardi, doed bron pob un o'r hen dywysogion Cymreig yn ddim mwy na rhyfelwyr dieflig. Yn sicir mae'n rhaid fod Llywelyn ein llyw Olaf ac Owain Glyndwr yn wrthun i ti, a dwi'n cymryd nad wyt yn cymryd unrhyw falchder yn eu hymdrechion i gadw rhyddid Cymru? Gwarth o beth felly ydi'r holl ddigwyddiadau coffau Glyndrw ma sydd wedi bod yn ddiweddar ynte?


Mae dau bwynt penodol yma. Mae posib cefnogi achos heb gefnogi gweithred. Rwy’n cefnogi achos y Palesteiniad, ond rwy ddim yn cefnogi y gweithredoedd terfysgol. Rwy’n cefnogi achos y Gwyddelod Gweriniaethol Cenedlaetholgar yng Ngogledd Iwerddon ond dwy ddim yn cefnogi’r gweithredoedd terfysgol. Rwy’n cefnogi’r achos oedd gan Castro a Guevara, ond ddim y gweithredoedd rhyfelgar. Rwy’n cefnogi achos Glyndwr a Gwenllian ond dwy ddim yn cefnogi’r defnydd o drais.

Dyma’r ateb syml.
Ond mae gosodiad fel uchod yn diystyrru ac anwybyddu amgylchiadau unigryw hanesyddol. Mae’n rhaid ystyried y rhain achos mond hanner y stori sydd ffordd arall.
Er enghraifft roedd yr egwys yng Nghyfnod Glyndwr yn cyfiawnhau trais. Pan ystyri di mai ond yr addysgiedig oedd yn gallu darllen y Beibl Lladin a Groegedd, ac mond y mwyaf addysgiedig – o’r eglwys a mynachod – oedd yn gallu dehongli cyd-destun testunau y beibl – yna gellir gweld yn glir sut fyddai pobl lleyg a brenhinol fel eu gilydd wedi gallu defnyddio trais. Roedd y rhai oedd yn deall yn dweud ei fod yn iawn, a fod Duw yn dweud ei fod yn iawn. Nid dim ond fod Duw yn dweud ei fod yn iawn, ond fod Duw yn anog y defnydd o drais. Cafodd Glyndwr gefnogaeth esgob Bangor a Phab Avignon – roedd cyfiawnhad wedi dod wrth gynrychiolaeth Duw ar y ddaear i ddefnyddio trais. Dyna oedd yr amgylchiadau bryd hynny, ac yn y cyd-destun hynny mae’n amharchus, yn anghywir, ac yn ffol i ni farnu ar sail ein dealltwriaeth gyfoes.

Bellach mae pethau wedi newid mae testunau beiblaidd ar gael mewn sawl iaith, mae’r efengyl yn cael ei bregethu yn y mwyafrif o ieithoedd, mae llyfrau testun a thrafod o bob math ar gael mewn sawl iaith – does dim llawer o esgusodion ar gael nawr i ddweud ein bod ni wedi camddeall ‘Na Ladd’, ‘Car dy gymydog’.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Mr Gasyth » Iau 25 Tach 2004 6:02 pm

Neges hir-wyntog arall gan Cardi :rolio: :winc:

Cardi Bach a ddywedodd:Dwyt ti ddim wedi ymgeisio i ateb y cwestiynnau creiddiol sydd yn hanfodol iw hateb i sicrhau nad ydym yn cyrraedd sefylffa fel yna eto.


Sori, pa gwestiynnau? Ataf fi ma hwn wedi'w gyfeirio ynteu Garnet? Ella mai cwestiynau rhethregol oedden nhw?

Cardi Bach a ddywedodd:Na gallau ddim wedi gwneud dim am y ffactorau i’r rhyfel hynny, ond gallau wedi gwrthod cydweithio ayb


Os dwi'n cofio'n iawn 'peidio cyd-weithio' oedd polisi Chamberlain - appeasment fel y'i gelwid a lot o les wnaeth i bawb hefyd. Felly petaet yn lle Churchill (neu'n Brif Weinidog dychmygol Cymru annibynnol) byddet ti wedi eistedd yn ol, gadael Hitler a'i fyddinoedd i mewn yn ddi-wrthwynebiad, anog dy bobl i 'beidio cyd-weithio' a'u gwylio'n cael eu lladd am eu trafferth. Felly yn lle miliwn neu ddau yn marw byddai'r boblogaeth gyfan (gan gymeryd eu bod yn dilyn dy orchymun) unai'n farw neu'n gaethweision, bendigedig!

Cardi Bach a ddywedodd:a hefyd dysgu ermwyn peidio creu sefyllfa arall fyddai’n arwain at ryfel


Unwaith eto cardi, ti unai'n edrych yn ol i weld sut ellid newid y gorffenol neu'n edrych ymlaen i weld sut mae osgoi y rhyfel nesa. Weithiau rhaid gwneud penderfyniad ar sail y sefyllfa fel y mae y funud yma.

Cardi Bach a ddywedodd:Dyma’r ateb syml.
Ond mae gosodiad fel uchod yn diystyrru ac anwybyddu amgylchiadau unigryw hanesyddol. Mae’n rhaid ystyried y rhain achos mond hanner y stori sydd ffordd arall.
Er enghraifft roedd yr egwys yng Nghyfnod Glyndwr yn cyfiawnhau trais. Pan ystyri di mai ond yr addysgiedig oedd yn gallu darllen y Beibl Lladin a Groegedd, ac mond y mwyaf addysgiedig – o’r eglwys a mynachod – oedd yn gallu dehongli cyd-destun testunau y beibl – yna gellir gweld yn glir sut fyddai pobl lleyg a brenhinol fel eu gilydd wedi gallu defnyddio trais. Roedd y rhai oedd yn deall yn dweud ei fod yn iawn, a fod Duw yn dweud ei fod yn iawn. Nid dim ond fod Duw yn dweud ei fod yn iawn, ond fod Duw yn anog y defnydd o drais. Cafodd Glyndwr gefnogaeth esgob Bangor a Phab Avignon – roedd cyfiawnhad wedi dod wrth gynrychiolaeth Duw ar y ddaear i ddefnyddio trais. Dyna oedd yr amgylchiadau bryd hynny, ac yn y cyd-destun hynny mae’n amharchus, yn anghywir, ac yn ffol i ni farnu ar sail ein dealltwriaeth gyfoes.

Bellach mae pethau wedi newid mae testunau beiblaidd ar gael mewn sawl iaith, mae’r efengyl yn cael ei bregethu yn y mwyafrif o ieithoedd, mae llyfrau testun a thrafod o bob math ar gael mewn sawl iaith – does dim llawer o esgusodion ar gael nawr i ddweud ein bod ni wedi camddeall ‘Na Ladd’, ‘Car dy gymydog’.


Dwi'n siwr fod pob genhedlaeth o ddynol ryw sydd wedi troedio'r ddaear yma wedi credu ei bod yn fwy goleuedig, yn fwy gwaraidd na'r rhai aeth o'i blaen. ond yn anffodus, fydd natur ddynol fyth yn berffaith Cardi, a tra bydd pobl bydd twyll, anghyfiawnder, llofruddiaeth, gwrthdarao, trais a rhyfel yn rhywle ar y ddaear yma.

Mae'r eglwys yn cefnogi rhyfel hyd heddiw Cardi. Heb os roeddynt yn gefnodol i'r ddau Ryfel Byd. Petai'r Eglwys a'r Capeli yn cefnogi rhyfel Irac, fyddai hynny'n ei wneud yn iawn efo ti? Ac yn esgusodi'r rhai sy'n gyfrifol amdano?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Realydd » Iau 25 Tach 2004 10:58 pm

cwestiwn nid yw GT wedi ei ateb a ddywedodd:Hoffet ti ddweud wrthym pwy oedd pobl Plaid Cymru yn ei gefnogi yn WW2 GT?


Cardi, pryd ti am ymuno a'r byd real? Dwi'n siwr dy fod yn ddigon diffuant yn dy ddyhead am gael heddwch i'r byd, ond wneith o ddim dod trwy wneud dim a gadael i bobl EVIL gerdded dros bobl dda. Nid oes peiriant amser yn bodoli i ni gael mynd nol i'r gorffenol a newid pethau. Oes, rhaid dysgu gwersi, rhaid gwneud pethau'n well o hyd, rhaid trio ffyrdd heddychlon o ddatrys problemau, ond hefyd rhaid cael y dewrder i fynd i ryfel pan mae'n raid i ddileu'r rhai sydd yn EVIL.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 40 gwestai