Sioni Size a ddywedodd:Wel nid fi oedd yn brolio Churchill ddewr altruistaidd ddaionus am sefyll i fyny yn erbyn y Natsiaid. Roedd Churchill yn ffycar drwg imperialaidd ac yn gwneud ei job yn gampus, sef popeth er diben y British Empire a bols i bawb arall.
Unwaith eto, ti'n dewis anwybyddu'r pwynt. Nath 'na neb ddisgrifio Churchill fel dyn "altrwistaidd, daionus". Deud oeddwn i (a Mr Gasyth) fod bodau dynol yn gyfuniad o'r da a'r drwg. Ac, yn achos Churchill, fod canlyniadau ei weithredoedd yn mwy na gwneud yn iawn am unrhyw safbwyntiau hyll oedd o'n eu harddel.
Mi wyt ti, ar y llaw arall, yn fodlon di-ystyrru unrhyw gyfraniad y gwnaeth o am y rheswm syml ei fod yn "imperialaidd". "Popeth er diben y British Empire"? Felly wnaeth 'na neb ond hen imperialists cas fanteisio o ymyraeth Prydain yn yr Ail Ryfel Byd? Unwaith eto, mae byd Sioni Size yn un cyfan gwbwl ddu a gwyn.