Coffau'r Diniwed

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Coffau'r Diniwed

Postiogan Cardi Bach » Maw 09 Tach 2004 2:45 pm

Mae Cyngor Tref Aberystwyth wedi cytuno i gynnal gwasanaeth dawel a chyflwyno torch o babi gwyn ger y cofgolofn rhyfel wedi'r munud o dawelwch ar ddydd coffa, Dydd Iau, 11am, 11 Tachwedd.

Mae croeso i bawb ymuo.

Bydd y Cyngor Tref wedyn yn cyflwyno torch o babi coch ar ddydd sul coffa.

Y pwrpas yw i goffau pawb sydd wedi diodde a marw yn ystod rhyfel.

Yn y ganrif ddiwethaf mae 100miliwn o bobl wedi marw mewn rhyfeloedd.
Roedd 40 miliwn yn filwyr.
Roedd 60miliwn yn ddinasyddion diniwed.
Dim ond miwyr Prydeinig sy'n cael eu coffau gyda'r pabi coch.

Mae'r pabi gwyn felly i goffau pob un o'r rhain, a'r milwyr, a phawb sydd wedi godde o ryfel. Mae unrhyw elw a wneir o werthiant y pabi gwyn yn mynd at ymgyrchoedd i hybu heddwch.

y Peace Pledge Union

Mae'n arbennig o bwysig nawr wrth fod ein trethu ni yn cael ei wario ar ryfel Irac, a'r cyrch anferthol sydd yn digwydd yn Fallujah nawr.

Ymunwch yn y wasanaethi i ddangos cefnogaeth a pharch i bawb.

Cyngor Tref Aberystwyth yw'r Cyngor cyntaf drwy Gymru a gwledydd Prydain i gynnal gweithred o'r fath.
Mae Leeds a East Renfrewshire wedi prynnu pabi gwyn ond, hyd y gwyr pobl, heb gyflwyno torch.
Gobeithio y bydd eraill yn dilyn.[/url]
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Melfin » Gwe 12 Tach 2004 11:14 am

Roedd i'n cytuno yn llwyr gyda y pobl oedd wedi rhoi y blodau gwyn hefyd yn personol. Mae lot fawr o pobl wedi cael ei dal fel rhan o y ymladd creulon yn y byd, ac mae angen i ni peidio wastad roi e yn context mwlriadol (yfe dyna yr air?). Cafodd llawer o sylwad ar y teledu roedd fi'n meddwl.

Llongyfarchiadau i grwp heddwch Aberaeron, rwy'n dweud.
Rhithffurf defnyddiwr
Melfin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 33
Ymunwyd: Iau 11 Tach 2004 2:38 pm
Lleoliad: Trealaw

Postiogan bogel » Gwe 12 Tach 2004 5:14 pm

Unrhyw syniad pa siope sy'n gwerthu'r pabis gwyn?
Rhithffurf defnyddiwr
bogel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 6
Ymunwyd: Iau 02 Medi 2004 2:12 pm

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 12 Tach 2004 5:16 pm

bogel a ddywedodd:Unrhyw syniad pa siope sy'n gwerthu'r pabis gwyn?


Mae gen i lond bag o babis gwynion (swyddogol y Pleace Pledge Union). Sgen i ddim mo'u hagen nhw bellach, wertha i nhw i chdi am bris rhesymol iawn. :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 12 Tach 2004 5:17 pm

Wps
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Realydd » Sul 14 Tach 2004 12:51 pm

Mae hyn fwy i'w wneud hefo hybu gyrfa wleidyddol rhai unigolion na dim byd arall.

Mae unrhyw elw a wneir o werthiant y pabi gwyn yn mynd at ymgyrchoedd i hybu heddwch.


Ddim yn deall, falle wnei di egluro, ond mae'n swnio i fi fel fod yr elw yma'n mynd i ariannu protestiadau ac ati?

Dyma beth mae arian o'r popi coch yn mynd at:

The Royal British Legion is the UK's leading charity providing financial, social and emotional support to millions who have served and are currently serving in the Armed Forces, and their dependants. Currently, nearly 11 million people are eligible for our support and we receive around 300,000 calls for help every year.


Achos teilwng iawn yn fy marn i.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan pogon_szczec » Sul 14 Tach 2004 5:14 pm

Mudiad a ffurfiwyd yn ym 1934 yw'r Peace Pledge Union i gefnogi'r rhai oedd o blaid peidio a gwrthsefyll Hitler.

http://www.ppu.org.uk/ppu/ppu_histx.html

Tasen nhw wedi llwyddo atal Prydain rhag ddiarfogi, ni fase democratiaeth yn Ewrop heddiw, a ni fase hawl gan dwpsinod fel Cardi a'i deip sgwenu bolycs llwyr ar negesfordydd.

Wrth feddwl treuni na llwyddon nhw, sen i'n fodlon byw dan y Nasis 'se ddim rhaid i fi ddioddef y drivel mae e'n sgwenu.
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Realydd » Sul 14 Tach 2004 6:21 pm

Pogon: fe fuasai'n ddifyr clywed Cardi a'i debyg yn egluro i ni sut yn union fuasai Prydain wedi gallu stopio byddin Hitler os na fuasai ganddom arfau a/neu ddim yn bwriadu cwffio rhyfel?

(Dwi'n gwneud yr assumption fan hyn fod Cardi a'i debyg am weld Hitler yn cael ei drechu, falle mod i'n anghywir yn meddwl hyn, mae'r safbwynt yna'n wahanol i rai nifer o genedlaetholwyr Cymreig ar y pryd)
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Sul 14 Tach 2004 6:26 pm

Chi 'di anwybyddu'r pwnc yn llwyr. Os chi am fynd i drolio, ewch i edefyn arall, er mwyn dyn. :rolio: Disgwyl dim gwell gan y ddau ohonoch chi.

Hefyd mae eich cymhariaeth â'r Almaen yn niwedd yr 1930au yn chwerthinllyd. Son yn gyffredinol mae Cardi am bob rhyfel, sydd yn arbennig o berthnasol o ystyried yr hyn sy'n digwydd yn Falluja ar hyn o bryd. Mae'n bathetig y ffordd chi'n defnyddio'r Ail Ryfel Byd fel esgus bob tro am ddefnyddio trais.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Realydd » Sul 14 Tach 2004 6:54 pm

GDG, a wnaeth Prydain y penderfyniad cywir ynglyn a bygythiad Hitler ddiwedd y 1930au?
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Nesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 30 gwestai

cron