Mae Cyngor Tref Aberystwyth wedi cytuno i gynnal gwasanaeth dawel a chyflwyno torch o babi gwyn ger y cofgolofn rhyfel wedi'r munud o dawelwch ar ddydd coffa, Dydd Iau, 11am, 11 Tachwedd.
Mae croeso i bawb ymuo.
Bydd y Cyngor Tref wedyn yn cyflwyno torch o babi coch ar ddydd sul coffa.
Y pwrpas yw i goffau pawb sydd wedi diodde a marw yn ystod rhyfel.
Yn y ganrif ddiwethaf mae 100miliwn o bobl wedi marw mewn rhyfeloedd.
Roedd 40 miliwn yn filwyr.
Roedd 60miliwn yn ddinasyddion diniwed.
Dim ond miwyr Prydeinig sy'n cael eu coffau gyda'r pabi coch.
Mae'r pabi gwyn felly i goffau pob un o'r rhain, a'r milwyr, a phawb sydd wedi godde o ryfel. Mae unrhyw elw a wneir o werthiant y pabi gwyn yn mynd at ymgyrchoedd i hybu heddwch.
y Peace Pledge Union
Mae'n arbennig o bwysig nawr wrth fod ein trethu ni yn cael ei wario ar ryfel Irac, a'r cyrch anferthol sydd yn digwydd yn Fallujah nawr.
Ymunwch yn y wasanaethi i ddangos cefnogaeth a pharch i bawb.
Cyngor Tref Aberystwyth yw'r Cyngor cyntaf drwy Gymru a gwledydd Prydain i gynnal gweithred o'r fath.
Mae Leeds a East Renfrewshire wedi prynnu pabi gwyn ond, hyd y gwyr pobl, heb gyflwyno torch.
Gobeithio y bydd eraill yn dilyn.[/url]