Coffau'r Diniwed

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Mer 08 Rhag 2004 12:46 pm

Sioni Size a ddywedodd:
Mr Gasyth
Pam aeth prydain i ryfel ta? Achos fod Churchill yn ddyn drwg?


Meddwl fod Winston "I am quite satisfied with my views on India, and I don't want them disturbed by any bloody Indians" Churchill yn ddyn da?

http://www.mises.org/fullstory.aspx?control=1450

In 1919, as Colonial Secretary Churchill advocated the use of chemical weapons on the "uncooperative Arabs" in the puppet state of Iraq. "I do not understand the squeamishness about the use of gas," he declared. "I am strongly in favor of using poison gas against uncivilized tribes." Some year’s later, gassing human beings to death would make other men infamous.

An example of Churchill's racial views are his comments made in 1937: "I do not admit that a great wrong has been done to the Red Indians of America or the black people of Australia. I do not admit that a wrong has been done to these people by the fact that a stronger race, a higher-grade race, a more worldly wise race, has come in and taken their place."


Oes 'na fath beth a person cyfangwbwl "dda" yn bodoli? Onid oes gennym ni gyd elfennau hyll i'n personoliaethau? Toes 'na ddim pwynt bod yn puritanical am y petha 'ma. Oedd, mi oedd gan Churchill safbwyntiau atgas. Mi oedd o hefyd yn gadfridog gwael, a wnaeth sawl penderfynniad - yn y rhyfel mawr yn ogystal a'r ail ryfel byd - a arweiniodd at nifer fawr o farwolaethau. Ond ydi hyn ots, pan 'da ni'n ystyried cyfraniad Churchill? Ydi'r petha yma yn ddigon i dynnu'r sglein oddi ar ei gyfraniad anferth i'r frwydr yn erbyn natsiaeth? Er mwyn medru canu clodydd dyn, oes rhaid iddo fo fod yn wynnach na gwyn?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Mer 08 Rhag 2004 1:30 pm

Be? Ychydig o dda a drwg ym mhawb? Oes debyg. Hitler yn glen i'w nain ac i anifeiliaid ayyb.
Ond mae trio labelu rhywun mor eithriadol hiliol ac ymerodrol a Churchill, oedd yn arddel defnyddio arfau cemegol i ladd hynny o bobl fyddai'n llesol i'r Empire fel 'da' ychydig bach yn ddadleuol ddweda ni.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Mer 08 Rhag 2004 1:53 pm

Sioni Size a ddywedodd:Be? Ychydig o dda a drwg ym mhawb? Oes debyg. Hitler yn glen i'w nain ac i anifeiliaid ayyb.
Ond mae trio labelu rhywun mor eithriadol hiliol ac ymerodrol a Churchill, oedd yn arddel defnyddio arfau cemegol i ladd hynny o bobl fyddai'n llesol i'r Empire fel 'da' ychydig bach yn ddadleuol ddweda ni.


Un elfen bitw o bersonoliaeth Churchill ydi'r un ti wedi ei nodi uchod. Un sydd prin gwerth ei chrybwyll, o ystyried y cyfraniad anferthol wnaeth o i hanes modern Ewrop. Mae galw Churchill yn ddyn drwg am arddel y syniadau (afiach) yma llawn mor ddwl a galw Hitler yn ddyn dda am ei fod o'n lysieuwr. Gad i ni farnu pobl ar sail yr hyn mae nhw wedi ei wneud i'r byd, a nid rhyw ychydig frawddegau di-nod mae nhw wedi eu hyngan.

Edrych ar hyn o'r ochr arall. Mi wnaeth David Lloyd George deithio i'r Almaen, ysgwyd llaw Hitler, a treulio peth amser yn sgwenu ac yn areithio am rinweddau'r Natsiaid. Ydi'r ffaith ei fod o wedi gwneud hynyn golygu ei fod o'n ddyn drwg? Ydi hi'n deg gadael i'r un peth ffol yma daflu ei gysgod dros y ffaith ei fod o wedi sefydlu y wladwriaeth les?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Mer 08 Rhag 2004 2:23 pm

Onibai fod Winston Churchill yna i arwain trigolion Blighty yn erbyn y Natsis mi fyddai Prydain wedi un ai ymuno hefo Hitler neu wedi rhoi eu dwylo i'r awyr a rhoi'r ffidil yn y Messerschmitt. Gyda phawb yn clodfori'r Natsiaid dim ond un dyn oedd ddigon dewr a doeth i weld beth oedd yn gyfiawn a gweithredu. Winston Churchill. Arwr.

http://www.guardian.co.uk/comment/story ... 08,00.html
Churchill was particularly keen on chemical weapons, suggesting they be used "against recalcitrant Arabs as an experiment". He dismissed objections as "unreasonable". "I am strongly in favour of using poisoned gas against uncivilised tribes _ [to] spread a lively terror _" In today's terms, "the Arab" needed to be shocked and awed. A good gassing might well do the job.


http://www.countercurrents.org/fisk121004.htm
"We have a terrific argument in House of Commons, and when we met in the division lobby afterwards, Churchill accused me of being pro-Arab. He said that Arabs were savages and that they ate nothing but camel dung. I could see that it was no good trying to persuade him to change his views.

http://www.globalpolicy.org/security/is ... tindex.htm
To understand the current Iraq crisis, we must look at events and interests that shaped the modern history of the country. This section looks particularly at how Western powers – notably the UK and the US – have used their military might and commercial prowess to dominate Iraq and control its oil resources. The story includes the secret battles between Britain and France over Iraqi oil in the World War I era, Winston Churchill’s 1920 plan to control colonial Iraq from airplanes armed with mustard gas bombs, and more recent developments such as Iraq's nationalization of its oil resources in the early 1970s, CIA support for the coup that first brought Saddam Hussein's Ba'ath Party to power, and the US supplies of chemical and biological warfare materials to Hussein's government in the 1980s.

Does dim llawer yn newid.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Mer 08 Rhag 2004 2:31 pm

Dwi ddim yn dallt be ti'n drio'i ddeud wrth bostio'r negas uchod. Ti 'di rhoi enghreifftia o syniadau atgas Churchill yn barod. Dwi 'di ymtaeb. Felly be ydi pwynt eu hail adrodd nhw?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Mr Gasyth » Mer 08 Rhag 2004 2:35 pm

Ai dyma'r edefyn mwyaf off-track erioed? Dechrau gyda gwahoddiad i bryny pabi gwyn a wedi troi mewn i drafodaeth ynglyn ag agwedd Chruchill at Arabiaid.

Eniwe, rhaid cofio fod y syniadau mae Sioni yn ei ddyfynu o eiddo Churchill yn perthyn i'w gyfnod. Nid ydynt ychwaith yn newid y ffaith iddo drechu Natsiaeth - peth da.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Sioni Size » Mer 08 Rhag 2004 4:07 pm

Roswch funud - mae Churchill yn dda oherwydd ei fod yn digwydd bod mewn grym pan oedd Prydain yn rhan o'r frwydr ryngwladol yn erbyn Hitler. Dydi o ddim ots am ddim arall wnaeth o na ddywedodd o erioed - mae'n ddyn da? Dyna ydych dadl? Mae'n dda am ei fod yn medru dweud fod lladd Iddewon yn rong a mi wnawn ni anghofio am ei flys mewn lladd arabs*? Dydi hynny'm yn cyfri?

* A Gwyddelod hefyd, fel oedd dy arwr David Lloyd George - mi sefydlodd o'r wladwriaeth les da chi'n gwybod, felly siawns fod digon yn y banc ganddo i fedru lladd unrhyw faint o wyddelod a ddymunai. Dynion da. Siort orau. Mae hyn fel siarad hefo Pogon.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Mr Gasyth » Mer 08 Rhag 2004 4:17 pm

Tydw i ddim yn deud fo Churchill na Lloyd George yn dda i gyd, ond tydyn nhw ddim yn ddrwg i gyd chwaith fel wyt ti'n honni.

Mae da a drwg ym mhawb, a mae'n debyg fod Churchill a Lloyd George yn bobol eitha normal o ran y scale da/drwg faswn i'n tybio, yn ddim mor wahanol a hynne i ni.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Garnet Bowen » Mer 08 Rhag 2004 4:24 pm

Sioni Size a ddywedodd:Roswch funud - mae Churchill yn dda oherwydd ei fod yn digwydd bod mewn grym pan oedd Prydain yn rhan o'r frwydr ryngwladol yn erbyn Hitler.


Nid "digwydd bod mewn grym" oedd Churchill pan aeth Prydain i ryfel a'r Almaen. Fo oedd y llais amlycaf a oedd yn dadlau dros fynd i ryfel a Hitler, a fo a arweiniodd y frwydr yn erbyn appeasment.

Sioni Size a ddywedodd:Dydi o ddim ots am ddim arall wnaeth o na ddywedodd o erioed - mae'n ddyn da? Dyna ydych dadl? Mae'n dda am ei fod yn medru dweud fod lladd Iddewon yn rong a mi wnawn ni anghofio am ei flys mewn lladd arabs*? Dydi hynny'm yn cyfri?


Deud ydw i fod rhaid i chdi fesur uniogolion yn ol eu dylanwad. Un rhan fach bitw o Churchill oedd ei sylwadau gwrth-Arabaidd. Fedri di ddim cymharu y niwed a wnaed gan ei wrth-Arabiaeth gyda'r daioni a wnaed gan ei wrth-Hitleriaeth.

Sioni Size a ddywedodd:* A Gwyddelod hefyd, fel oedd dy arwr David Lloyd George - mi sefydlodd o'r wladwriaeth les da chi'n gwybod, felly siawns fod digon yn y banc ganddo i fedru lladd unrhyw faint o wyddelod a ddymunai.


Mae pobl yn betha amherffaith. Oedd, mi fuo llywodraeth Lloyd George yn gyfrifol am erchyllderau y Black and Tans yn Iwerddon. A nid hon oedd ei unig drosedd. Ond fe wnaeth o ddaioni enfawr hefyd. Dwi'n meddwl fod y daioni yn mynd rhywfaint o'r ffordd at wneud yn iawn am y troseddau.

Ti'n deud fod Lloyd George yn arwr i mi. Wel, mae o'n ddyn dwi'n ei edmygu yn fawr, am fod rhai o'i bolisiau wedi lleihau dioddefaint miliynau o bobl gyffredin dros y ganrif ddwytha. Ond dwi ddim yn meddwl fod arwr yn iawn doeth i'w ddenfyddio. Os mai chwilio am arwyr wyt ti, yna dwi'n awgrymu bo chdi'n prynnu comic. Toes 'na'm llawer ohonyn nhw yn bodoli ym myd gwleidyddiaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Mer 08 Rhag 2004 5:14 pm

Wel nid fi oedd yn brolio Churchill ddewr altruistaidd ddaionus am sefyll i fyny yn erbyn y Natsiaid. Roedd Churchill yn ffycar drwg imperialaidd ac yn gwneud ei job yn gampus, sef popeth er diben y British Empire a bols i bawb arall.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron