Coffau'r Diniwed

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Mer 08 Rhag 2004 5:27 pm

Sioni Size a ddywedodd:Wel nid fi oedd yn brolio Churchill ddewr altruistaidd ddaionus am sefyll i fyny yn erbyn y Natsiaid. Roedd Churchill yn ffycar drwg imperialaidd ac yn gwneud ei job yn gampus, sef popeth er diben y British Empire a bols i bawb arall.


Unwaith eto, ti'n dewis anwybyddu'r pwynt. Nath 'na neb ddisgrifio Churchill fel dyn "altrwistaidd, daionus". Deud oeddwn i (a Mr Gasyth) fod bodau dynol yn gyfuniad o'r da a'r drwg. Ac, yn achos Churchill, fod canlyniadau ei weithredoedd yn mwy na gwneud yn iawn am unrhyw safbwyntiau hyll oedd o'n eu harddel.

Mi wyt ti, ar y llaw arall, yn fodlon di-ystyrru unrhyw gyfraniad y gwnaeth o am y rheswm syml ei fod yn "imperialaidd". "Popeth er diben y British Empire"? Felly wnaeth 'na neb ond hen imperialists cas fanteisio o ymyraeth Prydain yn yr Ail Ryfel Byd? Unwaith eto, mae byd Sioni Size yn un cyfan gwbwl ddu a gwyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Iau 09 Rhag 2004 11:49 am

Mr Gasyth
Pam aeth prydain i ryfel ta? Achos fod Churchill yn ddyn drwg?

Cyfeiriaf y clyfryn at y datganiad uchod.

Ac ynglyn a Phrydain yn yr ail ryfel byd, fe aethpwyd ati i gwffio nid dros y Pwyliaid a'r Iddewon, ond pan sylweddolwyd maint cynlluniau'r Almaen i ddominyddu. Cymhellion ac yn y blaen ynde.

Cyfuniad o dda a drwg....yndi, gwirionedd yn hynna debyg. Methu gweld ydw i pam fod llofruddwyr normal yn cael eu dedfrydu i garchar tra fod llofruddwyr eraill fel Churchill yn cael cloriannu eu cyfraniadau. Mae Blair/Churchill/George yn cael eu clodfori gennyt ti am wahanol fuddianau maent wedi ei wneud i Brydain ac felly dylid maddau eu llofruddiaethau.

Mae rhai arweinwyr gwledydd yn medru mynd trwy eu gyrfa heb ladd neb diniwed. Nid fod hynny'n dweud eu bod yn well pobol na Churchill wrth gwrs.
:?:
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan ceribethlem » Iau 09 Rhag 2004 11:52 am

Garnet Bowen a ddywedodd:Oes 'na fath beth a person cyfangwbwl "dda" yn bodoli?

Ghandi!
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Garnet Bowen » Iau 09 Rhag 2004 12:08 pm

Sioni Size a ddywedodd:
Mr Gasyth
Pam aeth prydain i ryfel ta? Achos fod Churchill yn ddyn drwg?

Cyfeiriaf y clyfryn at y datganiad uchod.

Ac ynglyn a Phrydain yn yr ail ryfel byd, fe aethpwyd ati i gwffio nid dros y Pwyliaid a'r Iddewon, ond pan sylweddolwyd maint cynlluniau'r Almaen i ddominyddu. Cymhellion ac yn y blaen ynde.


Dyma'r union bwynt o'n i'n ei wneud fisoedd lawer yn ol pan gafon ni drafodaeth faith am gymhellion a chanlyniadau gweithredoedd rhyfelgar. Wrth gwrs bod Prydain wedi mynd i mewn i'r Ail Ryfel Byd am resymau hunanol. Ti'n berffaith iawn pan ti'n deud mai imperialydd hunanol oedd Churchill. Ond er fod Prydain wedi ymladd am resymau hunanol, roedd canlyniadau y weithred hono yn rhai hynod o bositif, a gafodd effaith anferth ar fywydau miliynau o bobl ar draws y byd.

Sioni Size a ddywedodd:Cyfuniad o dda a drwg....yndi, gwirionedd yn hynna debyg. Methu gweld ydw i pam fod llofruddwyr normal yn cael eu dedfrydu i garchar tra fod llofruddwyr eraill fel Churchill yn cael cloriannu eu cyfraniadau. Mae Blair/Churchill/George yn cael eu clodfori gennyt ti am wahanol fuddianau maent wedi ei wneud i Brydain ac felly dylid maddau eu llofruddiaethau.


Dwi ddim yn mynd i esbonio fy safbwynt i ar Bush a Blair, neu fel arall mae bob un trafodaeth yn mynd i lawr yr un lon - i son am Irac. Nid dyna yda ni'n drafod.

Sioni Size a ddywedodd:Mae rhai arweinwyr gwledydd yn medru mynd trwy eu gyrfa heb ladd neb diniwed.


Digon gwir. Ac mae eraill, fel Churchill, yn sylweddoli bod rhaid mynd i ryfel weithia. A dyma ni yn ol at ddechrau(ish) y drafodaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Iau 09 Rhag 2004 12:11 pm

Ia, ia.
Rhaid bomio'r Cwrdiaid ac Iraciaid yn yr 20au ydoedd? Rhaid gyrru'r Black and Tans i Iwerddon?
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Iau 09 Rhag 2004 12:16 pm

Weitha, medda fi.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Llun 13 Rhag 2004 4:32 pm

Felly dydi'r ffaith fod arweinydd yn rhyfela weithia heb fod raid, ac yn lladd pobl ddiniwed, ddim yn ei wneud yn ddyn drwg o reidrwydd?
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Llun 13 Rhag 2004 4:41 pm

Sioni Size a ddywedodd:Felly dydi'r ffaith fod arweinydd yn rhyfela weithia heb fod raid, ac yn lladd pobl ddiniwed, ddim yn ei wneud yn ddyn drwg o reidrwydd?



Ydw i'n meddwl fod Churchill wedi gwneud petha drwg? Yndw. Ydw i'n meddwl fod y petha drwg yma yn tanseilio yr un peth da wnaeth o, sef tynnu Prydain i mewn i'r Ail Ryfel Byd? Nacdw. Dwi'n deud hyn am un rheswm syml - mae dylanwad ei weithred dda fo llawer iawn mwy na dylanwad ei weithedoedd drwg.

Mae condemnio Churchill am fomio'r Cwrdiaid fatha clodfori Dr. Harold Shipman am wella dy anwyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dan Dean » Llun 13 Rhag 2004 4:47 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Mae condemnio Churchill am fomio'r Cwrdiaid fatha clodfori Dr. Harold Shipman am wella dy anwyd.

Nadi. Os ydi dy annwyd di wedi gwella gan Harold Shipman, yna diolch byth nath o ddim dy ladd di. Os oedd Churchill wedi chwalu'r Cwrdiaid ac ddim yn rhoi toss amdanynt, yna ddylai'r Cwrdiaid ddiolch byth am... be?
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Garnet Bowen » Llun 13 Rhag 2004 4:56 pm

Be o'n i'n drio awgrymu oedd bod rhywun sy'n canu clodydd Shipman am ei fod o'n medru gwella anwyd wedi methu'r pwynt. Methu'r pwynt? Hang on..........
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron