Mr Gasyth a ddywedodd:Sori, pa gwestiynnau? Ataf fi ma hwn wedi'w gyfeirio ynteu Garnet? Ella mai cwestiynau rhethregol oedden nhw?
At Garnet - dyna oedd y cyd-destun. Sori mod i heb neud e'n glir.
Mr Gasyth a ddywedodd:
Os dwi'n cofio'n iawn 'peidio cyd-weithio' oedd polisi Chamberlain - appeasment fel y'i gelwid a lot o les wnaeth i bawb hefyd. Felly petaet yn lle Churchill (neu'n Brif Weinidog dychmygol Cymru annibynnol) byddet ti wedi eistedd yn ol, gadael Hitler a'i fyddinoedd i mewn yn ddi-wrthwynebiad, anog dy bobl i 'beidio cyd-weithio' a'u gwylio'n cael eu lladd am eu trafferth. Felly yn lle miliwn neu ddau yn marw byddai'r boblogaeth gyfan (gan gymeryd eu bod yn dilyn dy orchymun) unai'n farw neu'n gaethweision, bendigedig!
Na nid 'peidio cydweithio' oedd polisi Chamberlain, ond peidio ymyrryd - 'non-interventonist', syniadaeth greiddiol Rhyddfrydiaeth - yn enwedig rhyddfrydiaeth ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Fel wy wedi dweud sawl gwaith mewn edeifion eraill mai 'gwlad' ond yn mynd i ryfel os yw o fydd personol iddyn nhw. Dodd Chamberlain ddim yn gweld bydd o ryfela, ac yn darllen y sefyllfa - yn hollol resymegol a dealladwy o gadw cyd-destun hanesyddol - mai ymerodraeth i'r dwyrain, tua'r Iwcran, oedd uchelgais Hitler. Doedd dim awgrym ei fod yn fygythiad i Brydain. Os rhywbeth roedd gweld Bolsheviks y Dwyrain a Nazis yr Almaen yn ymladd ond yn agor drysau i bolisi tramor Prydain. Yn wir hyd yn oed ar ol i’r Almaen oresgyn Ffrainc, roedd ymwyafrif o Brydain (yn cynnwys Lloyd George a Beaverbrook) yn credu y dylai Prydain amddiffyn ei ymerodraeth, amddiffyn yn ffyrnig ac yna dod i delerau.
Unwaith eto, mae Hanes yn cael ei droi a'i gamddefnydio a chamddehongli er mwyn cyfiawnhau rhyfel:
Churchill a ddywedodd:History will not look kindly on Neville Chamberlain - I know, I shall write it.
A Churchill ysgrifennodd yr hanes gynhwysfawr cyntaf o'r rhyfel - oedd wrth gwrs yn ei roi ef mewn golau arbennig o dda
Dyma oedd sail bron pob adroddiad hanesyddol a ddilynodd.
Byddwn i’n lico gweld fod pobl yn gwrthod cydweithredu, byddwn. Ond ar ba sail wyt ti’n gallu dweud “yn lle miliwn neu ddau yn marw byddai’r boblogaeth gyfan…unai’n farw neu gaethweisio” – pa dystiolaeth sydd o hyn? Propoganda yw gosodiad o’r fath. Bu i tua 50miliwn farw yn ystod yr ail ryfel byd. Unwaith eto rhaid edrych ar Ddenmarc. Mae adroddiadau yn gymysg ond bu i tua 400,000 golli eu bywydau o Brydain yn yr ail Ryfel Byd. Bu i Denmarc golli tua 7,000 o fywydau. Dyw’r ffugurau ddim yn cefnogi’r honiadau.
Gyda llaw ffaith ddifyr arall sy'n cael ei anghofio yn gyfleus wrth drafod yr ail ryfel byd yw fod tua 3,000,000 o Almaenwyr diniwed wedi cael eu lladd
am eu bod yn Almaenwyr (dyw hyn ddim yn cynnwys bomio dinasoedd a cyrchoedd o’r fath). Na, dyw e ddim yn gymaint ag Iddewon, ond dyw hynny ddim yn ei wneud yn ‘llai drwg’.
mr Gasyth a ddywedodd:Cardi Bach a ddywedodd:a hefyd dysgu ermwyn peidio creu sefyllfa arall fyddai’n arwain at ryfel
Unwaith eto cardi, ti unai'n edrych yn ol i weld sut ellid newid y gorffenol neu'n edrych ymlaen i weld sut mae osgoi y rhyfel nesa. Weithiau rhaid gwneud penderfyniad ar sail y sefyllfa fel y mae y funud yma.
Ac wy wedi ateb hynny sawl gwaith bellach.
Mr Gasyth a ddywedodd:
Dwi'n siwr fod pob genhedlaeth o ddynol ryw sydd wedi troedio'r ddaear yma wedi credu ei bod yn fwy goleuedig, yn fwy gwaraidd na'r rhai aeth o'i blaen. ond yn anffodus, fydd natur ddynol fyth yn berffaith Cardi, a tra bydd pobl bydd twyll, anghyfiawnder, llofruddiaeth, gwrthdarao, trais a rhyfel yn rhywle ar y ddaear yma.
Mae'r eglwys yn cefnogi rhyfel hyd heddiw Cardi. Heb os roeddynt yn gefnodol i'r ddau Ryfel Byd. Petai'r Eglwys a'r Capeli yn cefnogi rhyfel Irac, fyddai hynny'n ei wneud yn iawn efo ti? Ac yn esgusodi'r rhai sy'n gyfrifol amdano?
Wyt ti’n credu nad y’n ni’n fwy goleuedig?
O ran ffaeleddau dynol-ryw, ti’n iawn, mae nhw’n niferus.
Dyw e ddim yn golygu ein bod ni ddim yn ceisio addysgu ein plant i beidio a dwyn, lladd, ac ati. Pe tai ti’n magu plentyn ai dyma’r agwedd fyddai gyda ti? “Beth yw’r pwynt dweud wrtho i beidio a dwyn losin, achos mae rhywun yn dwyn losin rhwle bob dydd. Beth yw’r pwynt dysgu i Gasyth bach i beidio a bwlio achos mae rhywun yn rhywle yn cael ei fwlio drwy’r amser. Dyw e ddim yn ddadl mewn gwirionedd yn nagyw.
Falle achos bod fy negeseuon ar yr ochr hir dy fod ti’n sgim-ddarllen ac yn colli ambell i bwynt, ond mi wnes i nodi fod pethau wedi symud ymlaen ers dyddiau y beibl Groegaidd, Hebraeg a Lladinaidd ac fod astudiaethau o destunau’r Beibl ar gael mewn amryw iaith bellach yn rhywdd iw ddarllen i’r lleiaf addysgiedig. Yn wir mae’r Beibl ar gael mewn amryw iaith (y Gymraeg yn un, ers 1588 ‘would you believe it!’
), ac felly yn rhoi cyfle i bobl weld dros eu hunen gofynion y Bod Mawr. Felly,na, byddai bod Eglwysi a Chapeli heddiw yn cefnogi’r rhyfel ddim yn gwneud y rhyfel yn un 'iawn' achos ei fod yn bosib i’r aelodaeth i herio’r daliadau hynny gan ddyfynnu o’r beibl ac astudiaethau o’r beibl eu hunen – sydd yn llawer mwy goleuedig a gwaraidd.