Diwrnod Rhyngwladol Menywod dros Heddwch a Diarfogi

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Diwrnod Rhyngwladol Menywod dros Heddwch a Diarfogi

Postiogan Cardi Bach » Iau 22 Mai 2003 12:58 pm

(Bydd hwn hefyd o dan Digwyddiadau)

Dydd Sadwrn, 24ain Mai yw Diwrnod Rhyngwladol Menywod dros Heddwch a Di-Arfogi.

Mae Rhwydwaith Heddwch Aberystwyth yn gweithredu yn Aber fore ddydd Sadwrn i bwysleisio hyn.

Bydd cryw yn ymgynnull y tua allan i Siop y Pethe am 11yb ac yn'n mynd a 3 arch i banc Lloyds TSB. Rydym ni'n gweithredu yn erbyn Lloyds TSB gan mai nhw yw'r gwaethaf o ran polisi egwyddorol yn erbyn buddsoddi mewn arfau ayb.

Dyma'r llenyddiaeth y byddwn ni'n rhoi allan:

Mae hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol Merched dros Heddwch a Diarfogi:
Gweithredwch dros heddwch heddiw

Mae’r rhyfel yn Irac wedi dangos unwaith eto fod atal problem yn well na’i ddatrys. Nawr yw’r amser i feddwl am wreiddiau gwrthdaro, a ble gwell i ddechrau nac edrych ar beth ydych chi’n ei ariannu trwy eich banc.

Arfau

Does gan Lloyds ddim polisi ar ariannu cwmnïau arfau. Mae hyn yn feddwl y gallai eich arian gael ei ddefnyddio i fuddsoddi mewn allforio i unrhyw wlad cyn belled nad oes ganddyn nhw waharddiad ar arfau. Mae hyn yn cynnwys gwledydd fel Saudi Arabia, ble mae eu record cyfiawnder dynol yn ofnadwy. Mae Abbey National yn dweud fod ganddyn nhw ganllawiau arbennig sydd yn tanlinellu rhai ardaloedd (gan gynnwys y sector amddiffyn) ble mae gofal arbennig yn cael ei gymryd wrth asesu cynigion buddsoddi, (sydd yn feddwl dim byd, mewn gwirionedd). Mae HSBC yn “gynyddol yn tynnu’n ôl o ariannu gwerthiant cyfarpar amddiffyn”, sydd yn newyddion gwych (er y byddai terfyn amser yn ddefnyddiol), ac mae Barclays yn dweud ei fod yn cysidro pob cynnig yn unigol a ddim yn cyllido masnach mewn arfau niwclear, cemegol, biolegol nac arfau eang-ddinistr eraill, nac mewn ffrwydron tir (land mines) na chyfarpar sydd wedi ei ddylunio i arteithio. Mae hyn yn dal yn gadael llawer o arfau y byddan nhw’n gallu ei gyllido, ac mae eu rôl fel bancwr i BAe Systems, (un o gwmnïau lleiaf moesol Prydain, sydd wedi cyflenwi arfau i Indonesia, Israel, India a Saudi Arabia, ymysg eraill) a Rolls Royce, (sydd yn gwneud rhannau tanwydd i longau tanfor niwclear Trident, ac wedi darparu cyfleusterau aero-injan tyrbin nwy i 100 llu arfog, gan gynnwys llywodraethau sy’n euog o gam-drin hawliau dynol fel China, Indonesia, Saudi Arabia a Twrci) yn feddwl efallai na fydd eich arian yn cael ei ddefnyddio yn union sut yr hoffech chi.

Cyfundrefnau Gormesol

Mae gan Lloyds TSB weithrediad yng Ngholombia; mae gan HSBC weithrediadau yn Angola, China, Indonesia, Pakistan a Saudi Arabia; Mae gan Barclays weithrediadau yn China, yr Aifft ac India; ac mae Abbey National yn dweud unwaith eto eu bod yn cymeryd gofal arbennig yn y maes hyn. ‘Dyw Cymdeithasau Adeiladu yn gyffredinol ond yn cynnig gwasanaeth benthyg yn genedlaethol felly tydi hyn ddim fel arfer yn berthnasol iddyn nhw.

Dyled y Trydydd Byd

Mae tlodi ac anghyfiawnder yn cyfrannu at wrthdaro, ac mae’r banciau hynny sydd yn dal dyled y trydydd byd yn cyfrannu at hyn. Y banciau hyn ydi: Lloyds TSB, Barclays, HSBC, Abbey National a Bank of Scotland.

Felly Beth Wna i yn Awr?

Newidiwch eich cyfrif: Ar gyfer cyfrifon cyfredol, mae cylchgrawn Ethical Consumer yn cymeradwyo’r Co-operative Bank (http://www.co-operativebank.co.uk, 0800 905 090) Gellir ei ddefnyddio trwy’r swyddfa bost, a chymdeithasau adeiladu cydfuddiannol sydd ddim yn benthyg yn fasnachol, fel y Coventry (0845 766 5522),
Yorkshire (01274 740 740), Leeds a Holbeck (0113 225 2000) a Portman (01202 292 444). Mae gan y Co-op hefyd wasanaeth bancio o’r enw Smile ar y rhyngrwyd http://www.smile.co.uk Ar gyfer cyfrifon cynilo a chynnyrch megis ISAs, edrychwch ar Ecology Building Society (0845 674 5566), Triodos Bank (0500 008 720) neu Unity Trust Bank (0800 783 7053). Gallai cymdeithasau adeiladu ac undebau credyd hefyd fod yn ddewis. Peidiwch ac anghofio dweud wrth eich banc pam eich bod chi’n gweithredu.

I weithredu ymhellach cysylltwch a rhwydwaith heddwch Aberystwyth: e-bost aberstopthewar@hotmail.com, ymunwch gyda’n rhestr e-bost trwy yrru neges wag i heddwch-subscribe@yahoogroups.co.uk, neu dewch i’n cyfarfodydd ar nosweithiau Mercher am 6.30 i fynnu grisiau yn y Cwps.
Mae’r holl wybodaeth uchod yn dod o http://www.eiris.org/pages/PersonalFinance/Bank.htm, Ymgyrch yn Erbyn y Farchnad Arfau http://www.caat.org.uk ac Ethical Consumer Magazine Awst/Medi 2001

Ymunwch gyda ni a dewch draw i'n cefnogi!
Pwy fydd yno?
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron