Arabiata a ddywedodd:Mewn gwlad ddiffaith a thlawd, dach i'n berson sy'n byw o ddydd i ddydd yn chwilio am y pryd nesa, yn gweddio bum gwaith y diwrnod i Allah ac yn ceisio gwneud bywoliaeth gyda'ch mul yn cario'r cynnyrch i'r pentref nesaf.
Nid gwlad diffaith a thlawd mo Irac. Mae'r syniad o Iraciaid fel criw o weision ffarm yn crwydro o gwmpas efo'u mulod mor bell o'r gwir fel ei fod yn chwerthinllyd.
Arabiata a ddywedodd:Dych chi ddim yn gwybod fawr ddim beth sy'n digwydd yn y byd oherwydd dydi'r papur newydd ddim yn cyrraedd ond dach i'n gwylio'r teledu o bryd iw gilydd.
Sut fedri di ddeud hyn, a honi nad wyt ti'n bod yn nawddoglyd?
Arabiata a ddywedodd:Ond yn sydyn un diwrnod fe ddaw awyrennau uwchben a gollwng bomiau ar hyd y lle gan ladd y teulu drws nesa mewn un trawiad (ar ddamwain meddai'r estroniaid). Yn anffodus, drwy anffawd fuoch chi yn byw dan lywodraeth bellennig oedd yn filwriaethus ond chi sy'n talu'r pris.
Eto, mae'r syniad o "lywodraeth bellenig" yn creu camargraff o fywyd yn Irac, yn enwedig wrth drafod y rhai sy'n rhan o'r gwrthryfel - carfan drefol/dinesig, yn aml efo cysylltiadau personol neu ethnig gyda'r hen lywodraeth.
Arabiata a ddywedodd:Yna, ymhen rhai diwrnodau tua'r gorwel rhua tanciau estron i'r ardal a daw milwyr o wareiddiad gwahanol a siarad yn filain mewn iaith estron gyda aelodau'r pentref ac yn ol pob son wedi camdrin llawer ohonynt. Beth fyddech chi yn ei wneud? Gwrthryfela neu dderbyn nhw gyda llawenydd?
Felly dim ond dau ddewis sy' 'na? Naill ai ti'n canu clodydd yr Americanwyr, neu ti'n eu saethu nhw? A mae pobl yn chwerthin ar ben George Bush am or-symleiddio.