Dychmygwch............

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Beth fyddech yn gwneud?

Ei derbyn nhw gyda llawenydd
1
8%
neu godi yn ei herbyn
12
92%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 13

Dychmygwch............

Postiogan Arabiata » Gwe 26 Tach 2004 10:33 pm

Mewn gwlad ddiffaith a thlawd, dach i'n berson sy'n byw o ddydd i ddydd yn chwilio am y pryd nesa, yn gweddio bum gwaith y diwrnod i Allah ac yn ceisio gwneud bywoliaeth gyda'ch mul yn cario'r cynnyrch i'r pentref nesaf. Dych chi ddim yn gwybod fawr ddim beth sy'n digwydd yn y byd oherwydd dydi'r papur newydd ddim yn cyrraedd ond dach i'n gwylio'r teledu o bryd iw gilydd. Ond yn sydyn un diwrnod fe ddaw awyrennau uwchben a gollwng bomiau ar hyd y lle gan ladd y teulu drws nesa mewn un trawiad (ar ddamwain meddai'r estroniaid). Yn anffodus, drwy anffawd fuoch chi yn byw dan lywodraeth bellennig oedd yn filwriaethus ond chi sy'n talu'r pris.Yna, ymhen rhai diwrnodau tua'r gorwel rhua tanciau estron i'r ardal a daw milwyr o wareiddiad gwahanol a siarad yn filain mewn iaith estron gyda aelodau'r pentref ac yn ol pob son wedi camdrin llawer ohonynt. Beth fyddech chi yn ei wneud? Gwrthryfela neu dderbyn nhw gyda llawenydd?
Arabiata
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 152
Ymunwyd: Sul 05 Hyd 2003 2:15 pm
Lleoliad: Caernarfon a bob man arall dwi'n landio

Postiogan GT » Gwe 26 Tach 2004 11:51 pm

Gofyn i Garnet.

Bydd yn dy sicrhau y dylai pwy bynnag rwyt yn son amdano fod yn ddiolchgar am ei ffawd.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Treforian » Sad 27 Tach 2004 12:08 am

Mmm, diolch, Arabiata.

Mae hwnna'n eithriadol o dda ac wedi rhoi petha mewn goleuni gwahanol i mi. Dwi'n meddwl dy fod ti wedi'i ddeud o mewn ffordd wych, a does gen i ddim byd mwy i'w ychwanegu ato fo - y cwbl wedi'i ddweud.

Gwych iawn - hwb i dy garma dwi'n meddwl :winc: .
Treforian
 

Postiogan Realydd » Sad 27 Tach 2004 12:59 am

dy bwynt Arabiata?
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Treforian » Sad 27 Tach 2004 1:44 pm

Dwi'n credu mai'r pwynt oedd na ddylem gollfarnu'r Iraciaid am eu gwrthryfela.
Treforian
 

Postiogan Ffinc Ffloyd » Sad 27 Tach 2004 5:41 pm

Cytuno. Yr unig ganlyniad a ddaw o fod wedi fflatno Irac ydi fod miloedd o bobl ddiniwed wedi dioddef, a fydd yn arwain at fwy o derfysgaeth. Mae dioddefaint yn creu casineb. Mae casineb yn creu terfysgaeth. Hafaliad digon syml, swn i'n deud, ond fedar neo-cons y Pentagon ddim ei weld o (dwi wedi meddwl yn ddwys am sarhad gwaeth na neo-con, ond fedra i'm meddwl am ddim un).

Penderfyniad hollol anghyfrifol gan lwyth o hawks rhyfelgar efo'u llygaid yn sgwar ar olew y Dwyrain Canol oedd rhyfel Irac.

Ydi diffyg perspectif yn rhywbeth sy'n dilyn yn naturiol o fod yn las o dy gorun i dy sawdl, RET? Neu jyst chdi sy'n sbesial?
Rhithffurf defnyddiwr
Ffinc Ffloyd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 558
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 10:48 am
Lleoliad: Dolgellau

Postiogan Selador » Sad 27 Tach 2004 6:20 pm

Dwi'n gweld be ti'n ddeud ac yn cytunno i radda, ond dydi be ti'n ddeud ddim yn wir yn anffodus. Ma pobl Irac yn dallt y sefyllfa lot gwell na ti'n awgrymu (dwi'n meddwl dy foti braidd yn patronising tuag atynt deud gwir), ti mond yn goro sbio ar y niws i weld llond y lle o bapura newydd, a gin rhan fwya o bobl yno set deledu.
Dydi dy ddadl di'n newid dim ar y ddadl o fynd i ryfel yn lle cynta chwaith oherwydd mi wnaeth America a Phrydain gymyd y dioddefaint odd y rhyfel yn mynd i achosi i ystyrieth (ond faint, dwnim).
Eto, allai ddallt pam bod yr Iraciaid yn gwrthryfela, eu gwlad Sofran wedi ei choncro yn anghyfreithlon gan super-power anghyfrifol, Gwrthryfela fysa unrhyw berson cenedlaetholgar mewn sefyllfa o'r fath.
Sa 99% o'r maes ma yn gwrthryfela yn os fysa nw yn yr un sefyllfa yn y marn i.
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste

Postiogan Ffinc Ffloyd » Sad 27 Tach 2004 7:29 pm

Digon teg, ond nes i'm dadla nad oedd pobl Irac yn dallt y sefyllfa. Dwi yn meddwl fod fy mhwyntia cynharach i'n sefyll - os rwbath swn i'n deud ei bod hi'n haws i'r Iraciaid weld mai'r Iancs sy ar fai am y sefyllfa. Don i'm yn trio ymddangos yn patronising tuag at yr Iracis - dwi yn cytuno eu bod nhw'n dallt y sefyllfa, ac yn sicr taswn i yn eu sgidia nhw mi faswn i'n barod iawn i feddwl y gwaetha o'r ymosodwyr.

Diwedd y gan ydi na ddylai'r Cynghreiriaid fod yna yn y lle cynta. Mae'r ddadl WMD wedi ei phrofi i fod yn gwbl ddi-sail (a dwi yn meddwl fod pobl sy'n dadlau nad ydi hynny'n wir yn unllygeidiog tros ben - toes 'na neb mor ddall a'r person sy ddim isio gweld) a dwi yn bersonol yn hollol yn erbyn y ddadl mai ymosod er mwyn rhyddhau'r Iraciaid wnaeth America. Does gan yr un wlad hawl i ddatgan eu bod nhw yn ymosod oherwydd eu bod nhw'm yn licio'r regime - dyna be ma'r UN da. (Ddim rwan ydi'r lle i drafod effeithiolrwydd yr UN - dwi'n cyfadda nad ydi o yn bob dim y gallai o fod, ond dydi hynny ddim yn newid fy mhwynt i). Nid plismon y byd mo America, a dydi hi ddim yn wlad sy'n parchu democratiaeth chwaith. Noder y ribidires o wledydd gyda llywodraethau DEMOCRATAIDD a gafodd eu tanseilio a'u dinistrio gan America, yn aml iawn gan achosi regimes gwaedlyd a chreulon tros ben i godi yn eu lle (Brazil (Goulart), Chile (Allende), El Salvador, Indonesia (Sukarno), Haiti, Cambodia (ddim yn cofio yr arweinydd, ond heb gefnogaeth America fyddai Pol Pot a'r Khmer Rouge heb ddod i rym) ac Irac (ia, Irac - America helpodd ddod a Saddam i rym yn 1968. Faint mor ironic ydi hynna??)). Mae America'n licio democratiaeth pan mae'r gyfundrefn dan sylw'n gwneud be mae America isio.

Dwi eto i ddod ar draws ddadl dros y rhyfel sy ddim yn sarhau fy neallusrwydd i. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at y dydd y sylweddolith Bush ei fod o wedi creu ail Vietnam.
Rhithffurf defnyddiwr
Ffinc Ffloyd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 558
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 10:48 am
Lleoliad: Dolgellau

Postiogan Realydd » Sad 27 Tach 2004 8:52 pm

Well gen chi saddam mewn pwer felly?
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Treforian » Sad 27 Tach 2004 9:24 pm

Nid dyna'r pwynt.

Y pwynt yw, hyd y gwela i, ydi y dylid ystyried sefyllfa'r Iraciaid cyn eu barnu nhw.

Mae'r ddadl ynglyn â rhagoriaeth Bush neu Saddam wedi rhygnu ymlaen hyd syrffed, ac mae hi'n amlwg nad oes ateb clir iddi.

Dwi'n gwybod bod hyn yn swnio'n ofnadwy o rhyfedd a gwirion a diystyriol, ond tybed oedd yna fwy o "sefydlogrwydd" i'r Iraciaid dan Saddam? Mi wn i bod hwnnw yn achosi dioddefaint ofnadwy, ond doedd o ddim yn bomio'r dinasoedd etc. yn nagoedd? Ai hynny yw'r gwahaniaeth?

Pam bod dynion gwallgo mewn grym mor aml??????? :rolio: :? :crio:
Treforian
 

Nesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai