gan Ffinc Ffloyd » Sad 27 Tach 2004 7:29 pm
Digon teg, ond nes i'm dadla nad oedd pobl Irac yn dallt y sefyllfa. Dwi yn meddwl fod fy mhwyntia cynharach i'n sefyll - os rwbath swn i'n deud ei bod hi'n haws i'r Iraciaid weld mai'r Iancs sy ar fai am y sefyllfa. Don i'm yn trio ymddangos yn patronising tuag at yr Iracis - dwi yn cytuno eu bod nhw'n dallt y sefyllfa, ac yn sicr taswn i yn eu sgidia nhw mi faswn i'n barod iawn i feddwl y gwaetha o'r ymosodwyr.
Diwedd y gan ydi na ddylai'r Cynghreiriaid fod yna yn y lle cynta. Mae'r ddadl WMD wedi ei phrofi i fod yn gwbl ddi-sail (a dwi yn meddwl fod pobl sy'n dadlau nad ydi hynny'n wir yn unllygeidiog tros ben - toes 'na neb mor ddall a'r person sy ddim isio gweld) a dwi yn bersonol yn hollol yn erbyn y ddadl mai ymosod er mwyn rhyddhau'r Iraciaid wnaeth America. Does gan yr un wlad hawl i ddatgan eu bod nhw yn ymosod oherwydd eu bod nhw'm yn licio'r regime - dyna be ma'r UN da. (Ddim rwan ydi'r lle i drafod effeithiolrwydd yr UN - dwi'n cyfadda nad ydi o yn bob dim y gallai o fod, ond dydi hynny ddim yn newid fy mhwynt i). Nid plismon y byd mo America, a dydi hi ddim yn wlad sy'n parchu democratiaeth chwaith. Noder y ribidires o wledydd gyda llywodraethau DEMOCRATAIDD a gafodd eu tanseilio a'u dinistrio gan America, yn aml iawn gan achosi regimes gwaedlyd a chreulon tros ben i godi yn eu lle (Brazil (Goulart), Chile (Allende), El Salvador, Indonesia (Sukarno), Haiti, Cambodia (ddim yn cofio yr arweinydd, ond heb gefnogaeth America fyddai Pol Pot a'r Khmer Rouge heb ddod i rym) ac Irac (ia, Irac - America helpodd ddod a Saddam i rym yn 1968. Faint mor ironic ydi hynna??)). Mae America'n licio democratiaeth pan mae'r gyfundrefn dan sylw'n gwneud be mae America isio.
Dwi eto i ddod ar draws ddadl dros y rhyfel sy ddim yn sarhau fy neallusrwydd i. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at y dydd y sylweddolith Bush ei fod o wedi creu ail Vietnam.