Gemau rhyfel

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gemau rhyfel

Postiogan Treforian » Sul 05 Rhag 2004 10:00 am

Dwi'n sgwennu hyn oherwydd mod i newydd ddod adra o rywle lle ro'n i ynghanol gema rhyfel a saethu a phetha afiach felly.
Doedd y gema ddim yn dangos dim o erchyllter rhyfel; dim ond ei gwneud hi'n hwyl i lofruddio cyd-ddyn, a rhoi profiad mor real â phosib o hynny i'r rhai oedd yn chwarae. Un o'r gemau afiach a chwareuwyd oedd Conflict: Vietnam a mi oedd dim ond clywed yr enw yn ddigon i'm troi i oddi-wrth y syniad.
Faint o bobl gollodd eu bywydau yn y rhyfel yma?
Mae'r dyfyniad isod y dweud y cyfan:
ski games a ddywedodd:A haunting depiction of a truly grisly war, Conflict: Vietnam is the next instalment in the multi-award winning Conflict series, which has to date, sold over 3.5 million copies worldwide.

Conflict: Vietnam follows the progress of four US soldiers, cut off from their unit and behind enemy lines during the 1968 Tet Offensive. Tasked with fighting their way back to friendly lines, they are faced with day-to-day survival in a hostile environment where the enemy could be hiding anywhere and everywhere. They are un-concerned with the course of the war but brutally aware as to the presence of the Viet Cong and of finding any way they can to survive.

Conflict: Vietnam is a third person shooter where the player takes full control of all four squad members, utilising their different skill sets and tactical abilities to carefully out-flank enemies, neutralise targets and potential threats and make it back to friendly lines in one piece.

The game is made up of fourteen huge missions, each with a number of individual and varying objectives. You will lead your squad through ruined temples, down Vietnamese rivers, into local villages (with friendly and non-friendly fire) through the jungle and into the ancient Vietnamese capital of Hoi.

Unlike Conflict: Desert Storm, Conflict: Vietnam does not set out to depict the course of the war; instead it bears witness to four men struggling for survival in the hostile Vietnam jungle against a ruthless terrain and seemingly ever-present ‘invisible’ enemy.


Sut mae atal y gemau yma rhag cael eu cynhyrchu?
Treforian
 

Postiogan Mega-Arth » Sul 05 Rhag 2004 2:47 pm

Dwi ddim isho swnio'n gas ond mae dy agwedd braidd yn nawddoglyd. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn digon aeddfed a deallus i allu gweld gwahaniaeth rhwng gem gyfrifiadurol a'r byd go iawn, er dwi'n cytuno efallai na ddylsai plant cael eu chwarae (a dydynhw ddim yn ol y gyfraith).

Sut mae atal y gemau yma rhag cael eu cynhyrchu?




Cwestiwn gwell fydda 'sut mae atal rhyfeloedd go iawn fel Vietnam lle mae miliyna o bobl yn marw rhag digwydd?' yn hytrach na cwyno am gema cyfrifiadur diniwed.
Rhithffurf defnyddiwr
Mega-Arth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 162
Ymunwyd: Llun 25 Awst 2003 7:19 pm
Lleoliad: Alaska

Postiogan sanddef » Llun 06 Rhag 2004 11:08 am

Mega-Arth a ddywedodd:Dwi ddim isho swnio'n gas ond mae dy agwedd braidd yn nawddoglyd. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn digon aeddfed a deallus i allu gweld gwahaniaeth rhwng gem gyfrifiadurol a'r byd go iawn, er dwi'n cytuno efallai na ddylsai plant cael eu chwarae (a dydynhw ddim yn ol y gyfraith).

Sut mae atal y gemau yma rhag cael eu cynhyrchu?




Cwestiwn gwell fydda 'sut mae atal rhyfeloedd go iawn fel Vietnam lle mae miliyna o bobl yn marw rhag digwydd?' yn hytrach na cwyno am gema cyfrifiadur diniwed.


cytuno.Dw'i'n eitha hoff o geisio lladd pobl mewn gemau firtwal,ond does gen i ddim ewyllys i ladd pobl go iawn.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Cwlcymro » Llun 06 Rhag 2004 12:12 pm

Cytuno efo'r Arth a Sanddef hefyd. Holl bwrpas gemau cyfrifiadur ydi i gymeryd rhan mewn bywyd gwahanol i un dy hun.
Be am roi stop ar bob ffilm efo lladd hefyd? Wedyn mi gawn ni wylio Bridget Jones a Wizard of Oz bob dydd. Damia na sori, ma Dorothy yn lladd yr hen wrach hefyd tydi!
A be am lyfra? dio'n well i ni gael gwared o'r holl "Murder Mysteries" na rhag ofn i rywun gopio nhw? Ti'n gwbod i Tom Clancy ysgrifennu llyfr am derfysgwyr yn hedfan awyren mewn i Capitol Hill yn bell cyn 1999?

Ma gema cyfrifiadur yn cael gymain o stic gan y papura am fod y rhan fwya o'r golygyddion rhy hen i fod wedi chwara rwbath ond Space Invaders.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cardi Bach » Llun 06 Rhag 2004 12:22 pm

Ma pwynt serch hynny gyda Treforian.

Mae gan yr MOD wefan wedi ei osod i fyny yn benodol i dargedu plant a phobl ifenc. Ar y wefan mae sawl gem gyfrifiadur lle y gall rhywun fynd ati a lladd. Wedi iddynt orffen, y cam nesaf yw ymuno a'r fyddin i gael rhoi eu 'hymaferion' i waith.

Mae yna wahaniaeth bendant rhwng ffilm sydd yn cynnwys trais a gem fideo sy'n cynnwys trais. Mae gam fideo yn golygu 'participation' yr unigolyn, ac yn golygu fod yr unigolyn yn gweithredu heb wneud drwg i neb.

Mae mwy a mwy o dystiolaeth yn dangos fod gemau fideo yn effeithio ar feddylfryd y bobl hynny sydd yn eu chwarae - yn benodol y rhai mwyaf bregus. Mae'r llinell rhwng yr hyn sy'n dderbyniol, yr hyn sydd yn niweidiol, yr hyn sydd yn 'iawn' yn cael ei wneud yn aneglur.

Dyw plant ddim o hyd yn gallu gwneud y gwahaniaethau. Yn wir dyw oedolion ddim chwaith, ond mater gwahanol yw hynny.

Mae nhw hefyd yn declynnau ofnadwy o ddefnyddiol yn y frwydyr bropoganda. Ystyriwch yr holl gemau 'desert strikes' a oedd yn dilyn rhyfel Irac 91, a faint dyfodd i fyn yn chwarae rheiny yn lladd Arabiaid drwg - pob un yn Saddams bach - ac yn credu fod hyn yn iawn?

Dim ond un ochr sydd i'r gem fel arfer - 'ein ochr ni'.

Mi ydw i'n timlo'n anghyfforddus yn aml gyda gemau o'r fath, mae'n rhaid cyfadde. Ond pan oeddwn i'n blentyn oe'n i bron marw ishe cael gemau fel hyn.

Fel wy wedi son rywle arall ar y maes yma, doth milwr yn ol o Affganisatn yn gymharol ddiweddar - winch gunner mewn hofrennydd yno. Odd e'n dweud faint o hwyl oedd e'n gael wrth saethu Affgans ar y ddaear gyda'i wn anferth, ac nad oedd gobaith gan y rhai oedd yn saethu yn ol gyda'u 'rifles'. Odd e'n cymharu hyn gyda gem fideo, ac yn gweud faint o hwyl oedd e'n ei gael. Trist.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Geraint » Llun 06 Rhag 2004 12:38 pm

Dwi ddim yn meddwl fod y gemau yn neud unrhyw gwahaniaeth. Beth oedd plant yn neud cyn gemau cyfrifiadur? Chware'r ail rhyfel byd, ni erbyn yr almaenwyr (o ni yn).

Os oes yna canran bach iawn yn cael ei effeithio'n wael ganddynt, dyw hyn ddim yn rhewsm am sensoriaeth dros pawb arall.

A sut da chi fod banio gem? Neith pob gwlad ddim neud yr un peth...mae hi'n hawdd iawn prynu gem o wlad arall. Amhosib rheoli'r fath beth.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Garnet Bowen » Llun 06 Rhag 2004 12:45 pm

Mae'r ddadl yma union yr un fath a'r dadleuon yn erbyn ffilmiau treisgar, pornograffi, llyfrau D.H. Lawrence, etc. etc. Ella eu bod nhw'n afiach, yn ddi-chwaeth ac yn anfoesol, ond tydy nhw'n brifo neb ond yr unigolion sy'n eu chwarae nhw. Ac mae gennym ni yr hawl i wneud hynny o niwed i ni'n hunain ac yr ydym ni'n ei ddymuno, mond i ni beidio niweidio pobl eraill.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Llun 06 Rhag 2004 12:55 pm

Cardi Bach a ddywedodd:.Mae yna wahaniaeth bendant rhwng ffilm sydd yn cynnwys trais a gem fideo sy'n cynnwys trais. Mae gam fideo yn golygu 'participation' yr unigolyn, ac yn golygu fod yr unigolyn yn gweithredu heb wneud drwg i neb.


Felly a ddylsa ni wahardd plant rhag chwara Cowbois a Indians? A ddylsa ni wahardd Quazar a Paintball. Be am ynau dwr? Ma angan 'participation' yr unigolyn i bob un, a ma nhw yn teimlo llawer mwy real na unrhyw gem fidio.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan bartiddu » Llun 06 Rhag 2004 1:46 pm

Fel un sy’n cael menthyg (ac yn prynu ambell dro!) rhysedd o gemau ail greu o’r ail rhyfel byd i Vietnam, heb son am elfennau gemau mwy dychmygol. Dwi’n credu bod fi’n ddigon call i sylweddoli mae rhywbeth dwi’n defnyddio i leihau tyndra a syrffrewch ydynt i fi. A dwi’n eitha argyhoeddiedig nag wyf yn mynd i ymuno’n syth hefo’r fyddin i gael y wefr o ladd go iawn! Mae rhywbeth amdano cropian hefo drill-peiriant oamgylch y lle yn y byd cyfrifiadurol a saethu cymeiriadau ‘cyber-dychmygol’ nad yw saethu hwyaden plastig e.e. yn ei ‘neud, rhyfedd! :?
Ond mae un gem allan ar y foment (Full Spectrum Warrior), un sydd yn cael eu hybu gan y fyddin Americanaidd fel mae’n digwydd, sy’ wedi pigo fy nheimladau moesol, a dwi’m yn credu er taw gem ydyw, medraf gyfwrdd ag ef. Wedi ei selio mewn amgylchedd Arabaidd ydyw, ag i chi yn mynd oamgylch dinasoedd hefo’ch catrwad bychan o filwyr yn gwneud beth mae milwyr Americanaidd yn gwneud. Mae dadleuon cryf yn erbyn selio’r gemau yma (sy’n cael eu hyrwyddo I blant yn ei arddegau ac oedolion :wps: ) mewn rhyfeloedd 30-60 mlynedd yn ol, ond mae’r engraifft yma bach yn rhy gyfoglyd o dan yr amgylchiadau pressennol. :?

Designing video games is not normally the sort of thing you'd expect the US Army to get up to, but in actual fact Full Spectrum Warrior was created specifically for use as training tool for US soldiers; it's only now that we civvies are getting a chance to have a go too.


Full Spectrum Warrior
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl


Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron