'a Dduw ar drai ar orwel peth'

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

'a Dduw ar drai ar orwel peth'

Postiogan Bleddyn » Mer 15 Rhag 2004 2:12 am

Newydd ddod ar draws y llinell uchod gan Hedd Wyn.

A ninnau wedi cael cyfres Huw Edwards yn cwpla henno, a chyfres 1904,
oni ddylswn ystyried credo annianol yng nghyfiawnder, a'i anwybyddu fel ateb i gwestiwn Huw.. pam fod crefydd ar drai?
Bleddyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 10
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:06 pm

Postiogan finch* » Mer 15 Rhag 2004 11:41 am

Roedd trafodaeth ddiddorol iawn ar 5Live nos Lun yn dilyn y cyhoeddiad fod 35miliwn o bobl Prydain yn cyfri eu hunain yn Gristnogion. Y prif gwestiwn oedd a ellid cyfri Prydain yn wlad Gristnogol bellach yn dilyn

1. Y dirywiad mewn mynnychaeth capeli ac eglwysi (yw hwnna'n air?)
2. Y twf sylweddol yn y boblogaeth ethnig yn ystod y ganrif ddiwethaf gyda nifer fawr o gymunedau Mwslemaidd/Hindwaidd ymron pob dinas a thref bellach.

Cafodd pwyntiau difyr eu gwneud am y ffaith bod yr 'eglwys' yn, ac wedi bod yn rhoi llawer gormod o bwyslais yn yr ystadegau 'bums on pews' o'i gymharu a faint o bobl sy'n creu yn rhywbeth. Yn bersonol dwi ddim yn credu mewn duw ond petasen i, dwi ddim yn gweld bod mynd i'r capel bob dydd Sul tra'n treulio gweddill yr wythnos yn bod yn gas i bawb yn grefyddol iawn. Gall rhywun gredu yn rhywbeth ond dyw e ddim yn gwneud nhw yn fwy o grediniwr na'r deiacon sydd yn y set fawr bob Sul (neu Sadwrn/Gwener/Mercher be bynnag fo'ch crefydd)
Jeff Tarango - There must be two, three thousand people here!
Michael Stich - Well is it two or three?
Rhithffurf defnyddiwr
finch*
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2090
Ymunwyd: Gwe 03 Medi 2004 12:38 pm
Lleoliad: Yn cuddio

Postiogan sanddef » Iau 16 Rhag 2004 3:07 pm

dw'i'm yn gristion fy hun,ond gresyn nad oes yr ymlyniad ymhlith y Cymry a fu gynt.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Cwlcymro » Iau 16 Rhag 2004 3:14 pm

Ti'n clwad lot am faint o 'practising muslims' etc sydd yn y wlad. Faint o 'practising Christians' sydd yma? Fy hun dwi'm yn coilio mewn unrhyw Dduw, ond mi nesi dal dicio'r bocs 'Cristnogol' yn y cyfrifiad, a mai ddigon posib os dwi byth yn priodi ma mewn eglwys/capal y gwnai.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cwlcymro » Iau 16 Rhag 2004 3:16 pm

Gyda llaw, ydi hwn yn fatar o Rhyfel a Heddwch?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan sanddef » Iau 16 Rhag 2004 4:35 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Gyda llaw, ydi hwn yn fatar o Rhyfel a Heddwch?


Mae'n fater o Heddwch,efallai.Mae'n arwyddocaol o'r Gymru fodern nad oes seiat i ddelio a chrefydd!
Dw'i'n credu bod pobl heddiw yn gweld pethau ysbrydol fel pethau personol nad oes angen eu mynegi trwy ymuno a rhyw glwb crefyddol.Mae person deallus yn gallu meddwl am gwestiynau fel pwy ydw i,oes Duw,be' di'r pwynt ac yn y blaen heb angen cymorth oddi wrth sefydliadau crefyddol.Gallwn ddarllen llyfrau o bob cornel y byd a chael ein atebion personol trwy ein profiadau ein hun.A gallwn gael peint ar y Sul hefyd,diolch i'r drefn! :winc:
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Cardi Bach » Iau 16 Rhag 2004 4:37 pm

sanddef rhyferys a ddywedodd:
Cwlcymro a ddywedodd:Gyda llaw, ydi hwn yn fatar o Rhyfel a Heddwch?


Mae'n fater o Heddwch,efallai.Mae'n arwyddocaol o'r Gymru fodern nad oes seiat i ddelio a chrefydd!


[os wyt ti am ymuno a'r seiat grefyddol, 'Criw Duw', danfon neges breifat at lowri larsen sy'n cymedroli :winc: .]
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: 'a Dduw ar drai ar orwel peth'

Postiogan Dielw » Gwe 17 Rhag 2004 12:00 pm

Bleddyn a ddywedodd:Newydd ddod ar draws y llinell uchod gan Hedd Wyn.

A ninnau wedi cael cyfres Huw Edwards yn cwpla henno, a chyfres 1904,
oni ddylswn ystyried credo annianol yng nghyfiawnder, a'i anwybyddu fel ateb i gwestiwn Huw.. pam fod crefydd ar drai?
Gwybodaeth a rhyddid i feddwl, mathemateg, cyffuriau. Yr unig ellyll wedyn di'r rhai yn dy ben. Hwre!
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Macsen » Gwe 17 Rhag 2004 5:58 pm

Er nad ydw i'n gristion, mae'n biti gen i fod Cristnogaeth yn diflannu. Mae hyn oherwydd bod crefydd yn rhan bwysig o'n diwylliant ni, ac hefyd am fod pobl Cristnogol yn tueddu i fod yn llai anfad na phobl sydd ddim. Gwaetha'r modd mae nhw'n tueddu i fod yn bobl balch iawn, ac mae hynny'n mynd ar nerfau nifer, ond o leiaf wneith nhw ddim dwyn neu dy daro di dros dy ben a botel o win ar nos Wener.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Treforian » Gwe 17 Rhag 2004 7:59 pm

nes i stpoio mynd i capel achos bod hynny yn gwneud i mi gasàu crefydd yn gyfangwbwl.

ddim unwaith mewn deuddeg mlynedd o fynd i gapel, oedd â digon yn mynd iddo, y ces i'r teimlad bod y gwasanaethau unrhywbeth i wneud hefo gwir addoliad.

mae hi'n dal yn gwestiwn gen i faint o'r pobl oedd yn mynychu edd â chred yn nuw.

dwi'n cofio cael un o fy modrybedd yn canmol pregethwr am fod mor dda hef o plant ar ol hyn:
pregethwr, [size=75]wrth ddyrnaid o blant\"[/size]]ydach chi isio bod yma bora ma?[/quote][quote=\"plant cegagored, oer a ddywedodd:y...
pregethwr a ddywedodd:na?
plant a ddywedodd:na.
pregethwr a ddywedodd:wel na finna chwaith.
sa lot gwell gen i fod adra yn y ngwely
:ofn:

dwi ddim yn meddwl swn i yn credu mewnunrhywbeth o gwbwl rwan tyswn i yn dal i fynychu capel; yr unig beth oedd mynd yn ei wneud i mi oedd gwneud i mi gasàu y lle, y grefydd, y duw, y pobol oedd yno, pob dim.
Treforian
 

Nesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai

cron