Postiwyd:
Iau 16 Rhag 2004 2:22 pm
gan ceribethlem
gair cymleth tu hwnt, wedi ei grynhoi mewn i ychydig o lythyrau hawdd i'w ynganu!
Postiwyd:
Iau 16 Rhag 2004 2:48 pm
gan Sleepflower
Y diffiniad modern
Rhyddid negyddol = rhyddid rhag rhywbeth, fel ymyraeth gwladwriaethol. Adain Dde
Rhyddid Positif = cael eich gorfodi i wneud rhywbeth neu i gyflawni rhywbeth. ee cael eich orfodi i gael addysg, er mwyn eich gwneud chi'n bobl fwy cyflawn a rhydd o ganlyniad. Adain Chwith.
Gyda llaw, pan fi'n dweud 'positif' a 'negyddol', sai'n dweud bod un yn dda a'r llall yn ddrwg. 'Positif' oherwydd yr ydych yn gweld y llyodraeth yn ymarfer ei ddylanwad. 'Negyddol' am fod y llywodraeth yn ceisio lleihau ei ddylanwad.
Mae rhyddid yn gair hynod o broblematig o ganlyniad. Nid yw'r difiniad uchod, ychwaith, heb ei ddiffygion.
Postiwyd:
Iau 16 Rhag 2004 4:41 pm
gan sanddef
y gallu i fod heb gael dy rwystro...mae gwir ryddid yn beth mewnol