Oes rhywun yn gwybod lle allai prynnu glo cymreig ar gyfer fy nhan glo cynnes a chlud? OK tydi llosgi tanwydd ffosil ddim yn dda i'r amgylchedd ond drwy brynnu glo yn lleol ydw i yn helpu cynaliadwyaeth yng Nhymru fach? Hefyd faint o CO2 sy'n cael ei ryddhau drwy ddod a glo diarth o ddwyrain Ewrop i Gymru?
Co restr o 'Approved Coal Merchants' yng Nghymru, ma'r rhan fwyaf o garej's yn gwerthu glo wrth y sach 'fyd. Ma Glofa'r Twr yn cynhyrchu 'bricets' newydd o'r enw Ecoflame sydd i fod yn well i'r amgylchedd. Dwi'n meddwl fod gan Glofa'r Twr le 'Cash & Carry' yn Hirwaun, ond dwi'm yn siwr os yw e ar agor i'r cyhoedd.