Mae sawl gwefan ar gyfer 'lift share'. Os ydych yn mynd i rhywle mewn car a bod gyda chi le i rhywun arall neu eich bod eisiau lifft i rhywle ble nad yw trafnidiaeth cyhoeddus yn practical (fel y rhan fwyaf o Gymru) mae cofrestru ar wefan Rhannu Lifft yn gyfle da i rannu cost y daith, cyfarfod rhywun newydd a Arbed Tannywdd. Dwi wedi cofrestru fy nhaith dyddiol i'r gwaith ar wefan http://www.freewheelers.co.uk. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer one-off fel taith i Steddfod, Glastonbury, mynd i weld ffrind yn Prifysgol ayyb.
Gallwn wneud rhywbeth tebyg ar y seiat hwn, ble mae pobl yn hysbysu eraill os ydynt yn trafeilio o'r de i'r gogledd rhag ofn bod aelodau eraill yn ystyried gwneud yr un taith run pryd. (Dwi am copi'r neges hwn yn seiat 'Datblygu Maes-e')