Do weles i o,oedd o'n agoriad llyged, ac yn depressing iawn hefyd. Y dilenma wan ydi fod dyn wedi newid cwrs natur yn hollol dros y gonrif a mwy dwytha, drwy adel co2,s a nwyon ty gwydr i'r atmosffer, fel bod natur yn ddibynol i raddau ar y nwyon yma erbyn hyn, achos bod nhw'n helpu i ffurfio diferion bach bach yn y cymylau, sy'n adlewyrchu gwres yr haul nol i'r awyr - fel drych - felly'n rheoli nad oes gormod o wres yn cyrraedd y ddaear. Drwy dorri lawr yn ddramatig ar faint o'r nwyon hyn sy'n cael eu rhyddhau i'r awyr, bydd gormod o wres gan yr haul yn cyrraedd y ddaear, a thybiwyd y byddai'r biliynau o dunelli o'r 'methane' sydd wedi'u trapio ar waelodion y moroedd yn codi i'r wyneb ac i'r atmosffer trwy anwedd gan y gwres mawr (fydd yn codi ryw 5 gradd celsiws o fewn y 50 mlynedd nesaf). Byddai rhain wedyn yn ffurfio cymylau, a mae'n anhygoel meddwl y bydd rhain yn cael eu gollwng lawr fel glaw gwenwinig - byddai'r effeithiau'n immense.
Felly, mewn ffordd, mae dyn wedi llunio a newid natur dros y canrifoedd, ac felly, drwy amharu ar y gylched mewn unrhyw ffordd wan e.e. torri lawr ar ddefnydd o geir, ffatrioedd pwer a.y.b bydd yn gwneud fwy o ddrwg nag o les, gan ein bod wedi ffwcio o gwmpas efo natur yn rhy hir i backtrackio wan.