Global Dimming

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dielw » Llun 17 Ion 2005 5:38 pm

Does neb di profi bod global warming yn digwydd.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Chwadan » Llun 17 Ion 2005 5:40 pm

Dielw a ddywedodd:Does neb di profi bod global warming yn digwydd.

Nagoes, da ni'n gwbod hynna.

Be di dy farn di ar y peth?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Dielw » Llun 17 Ion 2005 6:32 pm

Dwi ddim yn meddwl bod o'n digwydd. Mae tymheredd y byd wastad yn newid o flwyddyn i flwyddyn beth bynnag.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Chwadan » Llun 17 Ion 2005 6:41 pm

Ond onid ydi'r "be os dio'n digwydd...?" yn ddigon yn yr achos yma i gyfiawnhau trio lleihau faint da ni'n gynhyrchu o nwyon ty gwydr? Onibai fod na dystiolaeth 100% yn erbyn y ddamcaniaeth, dwi'm yn meddwl fedrwn ni beryglu gallu ein plant i fyw mewn byd mor gyfoethog (nid yn yr ystyr ariannol) a'r un da ni'n byw ynddo fo rwan.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Madrwyddygryf » Llun 17 Ion 2005 8:25 pm

Dwi'n licio Horizon am eu syniadau ffar-out, gwyddonwyr barfog o California ar frawddeg yma sydd wastad yn cael ei ddweud ar Horizon.

Horizon a ddywedodd: The results were.......astounding"
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Geraint » Maw 18 Ion 2005 11:52 am

Meddyliwch am o fel hyn. Dros filiynau o flynyddoedd, cymerwyd loto garbon allan o sustem y byd wrth i blanhigion pydru, ffurfio mawn, yna ffosileiddio mewn i glo, a chreu nwy. Mi roedd hwn yn broses araf iawn.

Nawr, da ni yn rhyddhau y carbon yma ar ffurf C02 drwy llosgi ar raddfa anhygoel o gyflym, mewn amser sydd yn meddwl dim yn amser daearyddol. Sut all y fath gynydd yn CO2 ddim cael effaith ar y byd?

Mae hinsawdd y byd heddiw yn ganlyniad o ymyraeth dyn. Dyw e erioed wedi digwydd o'r blaen ar y fath raddfa, felly nid yw hi'n bosib denfyddio modelau a patrymau o'r gorffennol i ddarogan y dyfodol.

Be oedd y rhaglen yma yn dweud oedd edrych ar y posibilrwydd fod effaith Ty Gwydr a achoswyd gan nwyon wedi cael eu guddio gan y broses o Global Dimming - sef 'particles' bach o lygredd yn ffurfio fwy o dropiau dwr yng nghymylau, gan neud nhw yn ddwysach, sy'n achosi i fwy o olau haul gael eu adlewyrchu nol. Mae hi'n ffaith fod y maint o haul sydd yn cyrraedd ein byd wedi gostwng o tua %20 dros y 30 mlynedd dwetha.

Y gofid yw fod hwn wedi bod yn cuddio effaith ty gwydr. Ar Fedi 12-13, cynyddodd cyfartaledd tymheredd yr UDA o tua 1-2 radd. Digwydd bod, doedd yna ddim awyrenau yn hedfan, dim yn creu cymylau, felly mwy o haul yn cyrraedd y ddaear.

Os yw effaith ty gwydr yn rhyw dydd dod yn gryfach nac effaith y dimming, yn falle fydd tymeheredd y byd yn codi'n gyflym.

Iawn ,ond yn theori ydi hwn, a ma'n siwr y byddai gwyddonwyr yn anghytuno. Ond gellir ddim gwadu yr effaith ma dyn yn cael ar y byd, mae'r ansicrwydd ar posibiliadau o be all ddigwydd yn arwydus. Efallai bod en rhy hwyr. Efallai ddim.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan dave drych » Maw 18 Ion 2005 2:20 pm

Dielw a ddywedodd:Dwi ddim yn meddwl bod o'n digwydd. Mae tymheredd y byd wastad yn newid o flwyddyn i flwyddyn beth bynnag.


Wel lle mae'r holl egni a rhyddhawyd yn endio fyny?
I bob 10% o CO2 ychwanegol, dim ond 5% mwy sy'n cael ei absorbio.

Dydi'r hinsawdd erioed wedi newid cymaint a hyn mewn cyn lleied o amser
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Nôl

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 24 gwestai