gan Geraint » Maw 18 Ion 2005 11:52 am
Meddyliwch am o fel hyn. Dros filiynau o flynyddoedd, cymerwyd loto garbon allan o sustem y byd wrth i blanhigion pydru, ffurfio mawn, yna ffosileiddio mewn i glo, a chreu nwy. Mi roedd hwn yn broses araf iawn.
Nawr, da ni yn rhyddhau y carbon yma ar ffurf C02 drwy llosgi ar raddfa anhygoel o gyflym, mewn amser sydd yn meddwl dim yn amser daearyddol. Sut all y fath gynydd yn CO2 ddim cael effaith ar y byd?
Mae hinsawdd y byd heddiw yn ganlyniad o ymyraeth dyn. Dyw e erioed wedi digwydd o'r blaen ar y fath raddfa, felly nid yw hi'n bosib denfyddio modelau a patrymau o'r gorffennol i ddarogan y dyfodol.
Be oedd y rhaglen yma yn dweud oedd edrych ar y posibilrwydd fod effaith Ty Gwydr a achoswyd gan nwyon wedi cael eu guddio gan y broses o Global Dimming - sef 'particles' bach o lygredd yn ffurfio fwy o dropiau dwr yng nghymylau, gan neud nhw yn ddwysach, sy'n achosi i fwy o olau haul gael eu adlewyrchu nol. Mae hi'n ffaith fod y maint o haul sydd yn cyrraedd ein byd wedi gostwng o tua %20 dros y 30 mlynedd dwetha.
Y gofid yw fod hwn wedi bod yn cuddio effaith ty gwydr. Ar Fedi 12-13, cynyddodd cyfartaledd tymheredd yr UDA o tua 1-2 radd. Digwydd bod, doedd yna ddim awyrenau yn hedfan, dim yn creu cymylau, felly mwy o haul yn cyrraedd y ddaear.
Os yw effaith ty gwydr yn rhyw dydd dod yn gryfach nac effaith y dimming, yn falle fydd tymeheredd y byd yn codi'n gyflym.
Iawn ,ond yn theori ydi hwn, a ma'n siwr y byddai gwyddonwyr yn anghytuno. Ond gellir ddim gwadu yr effaith ma dyn yn cael ar y byd, mae'r ansicrwydd ar posibiliadau o be all ddigwydd yn arwydus. Efallai bod en rhy hwyr. Efallai ddim.