Eithinog: y diweddaraf

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Eithinog: y diweddaraf

Postiogan jimkillock » Maw 01 Chw 2005 9:43 pm

Ymgyrch Gwarchod Eithinog a Chaeau Briwas / Save Eithinog & Brewery Fields Campaign


Mae canlyniadau rhan gyntaf arolwg natur Eithinog a Chaeau Briwas, Bangor bellach wedi'u cyhoeddi. Gofynnwyd i arolwg o'r fath gael ei gynnal yn ystod trafodaethau rhwng cynrychiolwyr a swyddogion cyngor haf diwethaf a chytunwyd i'r cais yn bennaf o ganlyniad i bwysau o du'r cyhoedd. Hwyrach y cofiwch i Gyngor Gwynedd anwybyddu addewid a wnaethpwyd yn 1998 i sefydlu gwarchodfa natur gymunedol yn y safle, gan ei glustnodi yn Nrafft Olaf y Cynllun Datblygu Unedol ar gyfer datblygu 250 o dai. Cyflwynodd dros 300 o bobl Bangor wrthwynebiadau ffurfiol i Friff Datblygu Eithinog at Gyngor Gwynedd.

Asesiad o'r cynefinoedd a geir yn y caeau sydd yn rhan gyntaf yr arolwg yn bennaf; bydd yr ail ran, sydd i'w gynnal yn y cyfnod hyd at yr haf, yn canolbwyntio ar y rhywogaethau sy'n bresennol. Mae copi llawn o'r adroddiad ar gael yn awr yn llyfrgell Bangor ac yn swyddfeydd Cyngor Gwynedd, Caernarfon.

Y newyddion da a gafwyd yw, yn wyneb y cynefinoedd a ganfuwyd, sydd efallai'n ffurfio un o'r ardaloedd mwyaf o laswelltir niwtral heb ei wella sydd weddill yng Ngwynedd, a gyda photensial i'w adfer i fod yn gynefin o'r radd flaenaf, na ddylai'r datblygiad ddigwydd. Rhaid cofio fodd bynnag nad yw ail hanner yr arolwg wedi'i gynnal eto.

Mae polisi'r Cyngor a pholisi gwladol yn datgan yn benodol y dylid gwarchod cynefinoedd blaenoriaeth o'r math yma. Mae'r adroddiad yn pwysleisio natur integredig y safle yn ogystal â'i faint, sydd yn ddadl gadarn - o ystyried y casgliadau presennol - yn erbyn datblygu unrhyw ran o'r tir agored sydd weddill, ar wahân i ychydig o ddarnau sydd wedi dirywio a grybwyllir yng nghrynodeb yr adroddiad isod, h.y. nesaf i'r maes parcio, ac i ddatblygiad Lôn Mieri. Mae'r rhain wrth gwrs wedi dirywio yn bennaf oherwydd datblygiadau gafodd eu cymeradwyo gan y cyngor yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Pe byddai Cyngor Gwynedd yn bwriadu symud ymlaen â Briff Datblygu Eithinog, ac wrth gwrs yn ddibynnol ar i ganlyniadau ail ran yr arolwg natur fod yn gytun â chasgliadau'r rhan gyntaf, byddent yn mynd yn gwbl groes i'w polisïau bioamrywiaeth hwy a pholisïau gwladol.

Ceir Crynodeb yr adroddiad isod.


Insight Cymru, Environmental Consultants

Ecological Appraisal of Sites: Gwynedd Unitary Development Plan Deposit Draft.

Part I: Survey of Vegetation and Habitats.
Site: Eithinog and Brewery Fields, Bangor, Gwynedd.


1 Summary

A survey of the vegetation and habitats at Eithinog and Brewery Fields was conducted in
September and October 2004.

A number of areas within the survey boundary were found to be significantly degraded in
ecological terms. These areas, and the causes of degradation and damage, are described
in the body of the report. It is considered that these areas are of only moderate value in
nature conservation terms.

Away from the damaged habitats, however, the bulk of the site was found to support a
range of semi-natural habitats, the majority of which are in good condition. The majority
of these are priority habitats at the local (Gwynedd), national (Wales) or UK levels.
These habitats are: wet woodland, neutral grassland, lowland acid grassland, hedgerows,
and cloddiau.

The neutral grassland component is of a sufficient extent and quality as to represent a site
which is potentially important at the Gwynedd and North Wales level.

The wet woodland habitats are small but appear to be in good condition and may support
priority species.

The hedgerows form an extensive resource, notable for having escaped the damaging
forms of management prevalent across much of the countryside.

The majority of the hedgerows sit on cloddiau and together these represent evidence of a
farming landscape largely unchanged for over 100 years. At this landscape level, the
majority of the site supports a coherent assemblage of semi-natural habitats, most of
which are of recognised conservation significance.

The site as a whole shows clear signs of its agricultural origins. However it is equally
clear that most of the site has had very low levels of active management for some time.
This has meant that the site has escaped all the most common and drastic forms of
damage which result from agricultural intensification, pointing to a strong likelihood that
it will support a number of species which have undergone serious decline in the wider
countryside.

Time constraints have made it necessary to divide the ecological appraisal into this, the
'habitat level' work, and the 'species level' work which will be reported in 2005. This
split is of course an artificial one, and some of the observations in this report may be
significantly refined or altered when more specific data have been gathered.
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai