Fi oedd trefnydd CYFLE Teifi Taf am dair blynedd (CYFLE = <b>Cy</b>fundren <b>F</b>asnachu <b>Le</b>ol) ond erbyn hyn dw i ddim yng nghanol pethau, er mod i dal yn aelod.
Mae syniad tu ôl i CYFLE yn wych, ond dyw e ddim yn debyg i fynd <i>mainstream</i> yn y dyfodol agos.
Jim: dydy defnyddio arian lleol ddim yn ffordd i "osgoi'r llwyodraeth a threthi". Mae llwyodraeth yn gwybod am LETS, mae asiantaeth budd-daliadau yn debyg i stopo arian mas o dôl rhywun sy'n ddigon ffôl i ddweud bod nhw ennill Teifis yn eu hamser sbâr, a byddai diddordeb gan yr adran trethi hefyd, yn sicr 'sai rhywun yn ennill credydau LETS fel rhan o'u gwaith aferol. Er bod y hipis sy'n defnyddio LETS ddim yn credu fod e'n arian, neu fod e'n "well nag arian" mewn rhyw fodd, arian yw e yn ôl yr awdurdodau.
Ar un pryd, cyn i mi wneud cymaint o waith fel tiwtor Cymraeg, ro'n i'n ennill tua 10-20% o fy nghyflog misol fel Teifiaid. Wnes i ennill dros £2000 werth o gredydau mewn un flwyddyn. Y broblem oedd, ac yw, roedd yn annodd i mi wario'r blydi sdwff! Mae lot o luniau neis 'da ni yn y ty nawr, ac mae basgedi a chanwwyllau am oes 'da pawb yn fy nheulu, a ches i lot o refflecsoleg i helpu fi ymlacio ar ôl yr holl waith garddio ac adeiladu o'n i'n wneud, ond oedd hi'n annodd iawn i ffeindio rhywun oedd yn gwerthu bwyd, neu oedd yn gallu gofalu am ein hanifeiliad dros penwythnos.
Rheswm arall dw i wedi tynnu yn ôl tipyn bach o waith gweinyddu'r cynllun yw un o sgil-effeithiau'r fath grwp yw i greu is-gymuned o fewnfudwyr "amgen" a rhoi un rheswm arall iddyn beidio boddran dysgu Cymraeg a chymhathu yn y gymdeithas frodorol. Oedd yn annodd iawn i gael Cymry i ymuno â Teifi Taf, er i mi lwyddo i ryw raddau Cymreigio'r cynllun - posteri, llyfrau siec, datganiadau ac ati yn ddwyieithog, gyda dewis personol ym mha iaith oedd cofnodion "anghenion a chynhigion" yn ymddangos yn y cylchllythyr chwarterol. Wnaethon ni dipyn o waith hybu, erthyglau yn y papur bro, cyfweliad ar Radio Ceredigion, stwff yn y papur lleol yn y ddwy iaith, ond fel arfer pobl dwad yw'r aelodau newydd.
Mae'n bosib dadlau nad yw hyn yn beth drwg, ond yn bersonol, doedd dim digon o egni 'da fi gario ymlaen hybu a chynnal a chadw cynllun lle do'n i ddim yn gallu defnyddio fy iaith o ddewis wrth weithio, neu mewn cyfarfodydd. Sdim byd 'da fi yn erbyn Saeson (ac Almaenwyr, pobl Canada, Ffrancwyr ac ati, sydd hefyd yn fewnfudwyr di-Gymraeg) ond mae'n well 'da fi siarad fy iaith fy hun wrth weithio a chymdeithasu, os yn bosib.
Mae'n bosibl hefyd, taw y rheswm nag oedd y Cymry lleol yn ymuno oedd nad oedd angen y fath cyfundrefn: bod y rhwymau cymunedol yn dal i fodoli a bod y rhwydwaith cymdeithasol yn gryfach o lawer ymysg y bobl frodorol nag yw e gyda'r mewnfudwyr.
Ta beth.
Os oes diddordeb mewn ymuno Teif Taf (De Ceredigion, Gogledd Sir Gâr a Sir Benfro), cysylltwch â Cyfle Teifi Taf, Penfedw, Brongest, Castell Newydd Emlyn, SA38 9ES neu ebostiwch
cyfle@teifitaf.org
Mae gwefanau gyda <a href="http://welcome.to/aberlets">AberLETS</a> a <a href="http://www.southpowyslets.org/">South Powys LETS</a> (Saesneg yn unig - fel dwedais i, dim digon o Gymry). Mae <a href="http://www.cix.co.uk/~nikki/odlets/index.html">Oswestry LETS</a> yn cynnwys aelodau yng Ngogledd Powys, dw i'n credu.
Mae mwy o gysylltiadau <a href="http://www.lets-linkup.com/4112-Wales.htm">yma</a> - dw i'm yn gwybod a yw bob un o'r grwpiau 'na dal i fynd.
Beth hoffwn i wneud, neu helpu rhywun arall wneud, yw sefydlu cynllun sy'n defnyddio meddalwedd ffynnon-agored, ar y we, i greu rhwydwaith masnachu amgen yn y Gymraeg yn unig. Mae sawl syniad 'da fi am sut i wneud hyn (byddai'n werth trial defnyddio'r papurau bro er enghraifft) ond does dim llawer o amser sbar 'da fi nawr, a dw i'n trial treulio llai o'm amser o flaen y cyfrifiadur.
Oes diddordeb, mewn theori, gyda pobl 'ma helpu mewn prosiect fel hyn?