Eryrod B.C.

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Eryrod B.C.

Postiogan Mali » Gwe 08 Ebr 2005 3:58 pm

Mi fyddai'n gweld eryrod bob dydd, ac efallai yn cymeryd hyn yn ganiataol. Newyddion torcalonus felly oedd clywed fod tua hanner cant o'r adar yma wedi cael eu lladd yn North Vancouver yn ddiweddar. Gwaeth fyth oedd ffeindio allan fod gymaint a 500 yn cael eu lladd bob blwyddyn yn British Columbia.
Mae pob eryr werth $1000, ac mae'r ffein am eu lladd yn lot mwy na hyn , yn ogystal a'r posibilrwydd o garchar am bum mlynedd. Er hynny, mae'r lladd yn dal i fynd ymlaen. :crio:
Gweler:
http://vancouver.cbc.ca/regional/servle ... es20050404
Mali.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan mred » Sad 09 Ebr 2005 4:58 pm

Dydi hyn ddim yn groes i'r disgwyl ella.

Mi ddatgelwyd yn 'Bowling for Columbine' (ffilm Michael Moore) bod mwy o ynnau y pen yng Nghanada heddychlon nag yn yr Unol Daleithiau, serch y dybiaeth mai gynnau yw achos trais yn yr olaf. (Casgliad Moore dwi'n credu oedd mai presenoldeb diwylliant ymosodol a pharod i ddefnyddio trais, lled-baranoid, heb gydymdeimlad cymdeithasol/dynol - ac nid gynnau'n unig - yw'r ffactor allweddol).

Mae carfan sylweddol o bobl Canada (neu'r dynion yn hytrach) yn amlwg yn eu defnyddio i erlid anifeiliaid gwyllt yn hytrach na'u cyd-ddyn. Mae'n siŵr bod cysyniad 'heliwr-ddarparwr' yn dal yn ddylanwad arwyddocaol ymysg dynion gwlad o 'arloeswyr' fel Canada, a hela'n fodd o ategu eu gwrywdod.

Diddorol gweld mewn rhaglen ddiweddar, pan ymunodd y cyflwynydd â chymuned yn yr Ynys Las (Greenland), hwythau'n llwyr ddibynnol ar hela i gael bwyd, i'w ymateb greddfol o weld morloi'n cael eu lladd mewn modd gwaedlyd newid yn eitha cyflym. Ymhen dim o dro mi oedd wedi cynefino â'r creulondeb. Nid bod achos unigol yn profi y byddai agweddau pawb yn addasu i'r diwylliant lleol mor fuan wrth reswm.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Mali » Sul 10 Ebr 2005 8:59 pm

Helo mred, a diolch am ymateb.
Oes, mae 'na rai bobl yma sydd yn dal i hela anifeiliad :crio: . Yn bersonol, dwi ddim yn meddwl fod 'na unrhyw reswm iddynt wneud hyn heddiw. Bydd cymydog i mi yn mynd i hela moose bob blwyddyn , ac yn dod adref efo digon o gig i lenwi'r freezer. Mi gefais i gynnig peth rhai blynyddoedd yn ôl , ond ei wrthod wnês i. Wnai ddim ei gyffwrdd o :drwg: .....run fath yn wir efo cig carw.
Yn ôl at y pwnc, mi 'roedd y stori am yr eryrod yn cael eu difa a'u lladd yn groes i'r disgwyl i mi, gan fy mod wedi bod o dan yr argraff bod eryrod , bleiddiaid a chreaduriaid tebyg yn fawr eu parch gan y first nation, a'u bod yn ystyried eu lladd am eu plu, crafangau ayb yn anlwcus iawn. Syndod felly i mi oedd darllen mai aelod o first nation oedd yn gyfrifol am y lladd.
Mali.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan mred » Maw 12 Ebr 2005 3:28 am

Helo Mali,

Mi oedd yna ryw stwr ddwy neu dair blynedd yn ôl am frodorion yn Washington neu Oregon yn hawlio cael hela morfilod yn ôl traddodiad y llwyth, dwi'n credu. Mi ydwi'n gwrthwynebu hela er mwyn hela, a byddai rhaid i mi gael mwy o wybodaeth i weld os oes ryw bwrpas amgenach credadwy i hyn, a'r hela'n gynaliadwy, cyn barnu. Ond wrth gwrs byddai lladd eryrod yn fwy di-bwrpas byth.

Mae 'na dipyn o erlid tebyg yng Nghymru ar yr hebog tramor gan bobl sy'n ymddiddori mewn colomennod. Mi welais i hebog tramor unwaith yn mynd ar ôl colomen yn Nant Ffrancon, doedd dim gobaith ganddi ddianc! Dyma esbonio'r erlid mae'n siŵr.

Ella bod yna duedd gan bobl 'ecolegol' i godi bobl frodorol ar bedestal, ond y gwir ydi mae'n siŵr bod ganddynt yr un nifer o bobl anoleuedig â'r gweddill ohonom erbyn hyn, dylanwad gwerthoedd y dyn gwyn siŵr o fod.

Wyt ti'n byw yn y wlad ynteu'r dref? Mae fy mrawd yng nghyfraith yn Wcrainiad Canadiaidd o Edmonton - dim hanes o hela yn ei deulu o, ond bobl y ddinas ydyn nhw!
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Mali » Maw 12 Ebr 2005 4:09 am

Helo mred,
'Roeddwn wedi anghofio am yr helynt efo'r morfilod ychydig flynyddoedd yn ôl, ond ar ôl i ti fy atgoffa , dwi'n cofio gweld eitemau ar y newyddion ynglyn a hyn. Ac 'roedd yn rhaid i mi ei droi i ffwrdd. Finna hefyd yn erbyn hela er mwyn hela . 'Roedd yn dderbyniol blynyddoedd maith yn ôl, ond does ddim ei angen ddim mwy.
Gwneud prês mawr oedd diben y weithred barbaraidd yn erbyn yr eryrod yn ddiweddar, a'r farchnad ? Lle arall ond i'n cymdogion i'r de.
'Rwyf yn byw yn y dref, ac yn rhyfedd iawn, yr wythnos diwethaf ,mi sylwais ar nyth eryr , neu nyth nad oeddwn i wedi sylwi arno o'r blaen mewn un o'r gerddi gyfagos. 'Roedd dipyn o gynwrf o gwmpas y nyth , gyda'r ddau eryr yn mynd yn ôl ac ymlaen o'r nyth.
Gwledd i'r llygaid yn wir. :)
Mali.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 34 gwestai