Y Tywydd

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y Tywydd

Postiogan dave drych » Sul 10 Ebr 2005 7:08 pm

Be'r ddiawl sy'n digwydd i'r tywydd yng Nghymru fach?!

Ai hyn yw cynhesiad byd-eang dynol yn dechrau cael effaith amlwg, weladwy ar yr hinsawdd?
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan lleufer » Sul 10 Ebr 2005 7:59 pm

Ges i air efo'r Bod Mawr yn ddiweddar i ofyn wrtho am gymorth dwyfol gyda sefyllfa'r mewnfudwyr, mae'n edrych fatha bo fi'n ei lyfrau da mis yma, achos mae o di poitshian o gwmpas fo'r tywydd, a'r si ydy bo'r saeson yn mudo tua Spaen 'rol cael llon bol o goesau noeth gwlyb. :winc:
<a href="http://www.flickr.com/photos/lleufer"> FLICKRO! </a>
Rhithffurf defnyddiwr
lleufer
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 413
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2004 5:32 pm
Lleoliad: Uwchlaw Bae Ceredigion

Postiogan Mali » Sul 10 Ebr 2005 9:05 pm

Mae'r tywydd yn ddipyn o benbleth yma hefyd. :?
Mae hi mwy fel gannol gaeaf na gwanwyn, ac mae'r llethrau sgio newydd ail agor ar ôl bod ar gau ers Ionawr 19 ....... :rolio:
Mali.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan mred » Maw 12 Ebr 2005 2:55 am

Mi fues i'n cofnodi'r tymheredd y gaeaf yma, isio ffeithiau uniongyrchol ynglŷn â beth sy'n digwydd i'r tywydd, gan bod rhai yn dal i wadu bod y fath beth â newid hinsawdd.

Y tymheredd isaf a gafwyd ym Mangor oedd 1.4 C, hynny ydi wnaeth hi ddim rhewi O GWBL yma. Mi wn ugain mlynedd yn ôl y byddai tymheredd gyn ised a -3 C neu hyd yn oed -5 C yn digwydd yn rheolaidd bob gaeaf.

O edrych ar y patrwm yn ei gyfanrwydd, dwi'n credu mai (y gaeaf yma beth bynnag) beth sydd wedi digwydd ydi bod gaeaf rŵan wedi'i gywasgu i Ionawr - Mawrth, h.y. cyfnod llawer byrrach.

Mi oedd tymheredd isaf cyfartalog Mis Tachwedd 2004 3.5 C yn uwch na'r ffigur cyfatebol yn 1985 (wnes i ddim cofnodi Rhagfyr 1985 ac ymlaen).

Os ydi hyn yn cynrychioli gwir newid yn yr hinsawdd (a dwi ddim yn credu bod Gaeaf eleni yn anarferol yng nghyd-destun y tywydd a gafwyd yn ddiweddar), yna well i ni beidio â thrafferthu darparu ar gyfer ein pensiynau!!
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Chwadan » Maw 12 Ebr 2005 10:11 am

mred a ddywedodd:Y tymheredd isaf a gafwyd ym Mangor oedd 1.4 C, hynny ydi wnaeth hi ddim rhewi O GWBL yma. Mi wn ugain mlynedd yn ôl y byddai tymheredd gyn ised a -3 C neu hyd yn oed -5 C yn digwydd yn rheolaidd bob gaeaf.

Oedd hi'n -3C yn Nolgellau nos Wener, a hitha'n fis Ebrill, ac mi fuodd hi'n bwrw eira nes oedd y Gader yn wyn dydd Iau :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan ap concord y bos » Iau 27 Hyd 2005 9:51 am

Heddiw yw un o'r dwirnodau rhyfadd eto! Mai'n diwadd hydref, oedd hi'n tywallt gwyn a glaw ddoe a heddiw mae hi'n riiiiiiiiili cynnas, yn anaturiol o gynnas! Ac ar ffrynt bob papur newydd mae son am fygythiad y gaeaf oeraf o'n blaen................be ddiawl sydd yn digwydd??
ysgytlaeth mefus, maes-b 2005, swpyrb........
Rhithffurf defnyddiwr
ap concord y bos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 470
Ymunwyd: Sad 16 Ebr 2005 10:32 pm
Lleoliad: Dyffryn Nantlle

Postiogan Mr Gasyth » Iau 27 Hyd 2005 10:03 am

ap concord y bos a ddywedodd:Heddiw yw un o'r dwirnodau rhyfadd eto! Mai'n diwadd hydref, oedd hi'n tywallt gwyn a glaw ddoe a heddiw mae hi'n riiiiiiiiili cynnas, yn anaturiol o gynnas! Ac ar ffrynt bob papur newydd mae son am fygythiad y gaeaf oeraf o'n blaen................be ddiawl sydd yn digwydd??


Plis, plis, plis gawn ni aeaf oer. Eira, iei!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan eifs » Iau 27 Hyd 2005 1:39 pm

mae na rhywbeth yn dweud wrthai fod y tymhorau yn symud ychydig ymlaen, mae'r gaeaf di symud fwy at mawrth/ebrill, gwanwyn mis mai- mehefin-ish haf yn symud tuag at diwedd medi, hydref yn mis rhagfyr, dwin meddwl

[/crafu pen]
Rhithffurf defnyddiwr
eifs
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1275
Ymunwyd: Mer 16 Chw 2005 3:18 pm
Lleoliad: Llanrug/Abertawe

Postiogan huwwaters » Iau 27 Hyd 2005 2:24 pm

Ma Lili Fach y Gwanwyn wedi blodeuo'n barod mewn rhai llefydd.

Un ffactor pwysig arall, na fedr pobl ei wadu yw glaw asidig. Pan chi'n cael gormodedd o Garbon Deuocsid gyda dwr, mae'n ei droi'n asidig, neu yn Carbonic Acid. Dyma nwy mwy naturiol. Ma Sulphuric Acid hefyd yn cael effaith gwaeth. Dolen Wikipedia.

Y pwynt dwi'n cael at yma yw, fod y mor yn araf troi'n asidig. Byddai hyn yn golygu diwedd ar nifer o amgylchfydoedd unigryw fel y Barrier Reef.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron