Plant ysgol yn casglu sbwriel.

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Plant ysgol yn casglu sbwriel.

Postiogan Mali » Iau 14 Ebr 2005 2:02 am

Yn gweld fod plant Ysgol Llanberis yn mynd i gasglu sbwriel ar Yr Wyddfa....ac mae'n nhw'n edrych ymlaen!
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_4 ... 439957.stm
Da iawn chi blant. Ond tybed pa fath o sbwriel wna nhw ffeindio ar Yr Wyddfa?
Yn yr un ymgyrch , sef Cadwch Gymru'n Daclus, mae 'n eitha tebyg y bydd gwirfoddolwyr yn symud hyd at 90 o drolis o Afon Taf . :rolio:
Mali.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Iau 14 Ebr 2005 11:41 am

Dwi'n cofio cael fy ngorfodi i gasglu sbwriel ar iard yr ysgol pan o'n i yn y flwyddyn gyntaf yn yr ysgol uwchradd (nid jest fi gyda llaw - pawb o'r dosbarth). Roedd y gofalwr yn uffar bach diog, yn cymryd mantais ar y plant ieuengaf. Ych â fi, cofio fo'n iawn rwan - gorfod bwyta'n cinio mewn pum munud cyn gorfod gwisgo menyg mawr plastig marwn. Roedd y disgyblion hy^n yn niwsans 'fyd, yn taflu pacedi crisps ar y llawr reit o'n blaenau ni er mwyn ein gweld yn eu codi i fyny.

Gen i gydymdeimlad mawr â phlant bach Llanberis. Er eu bod nhw'n gwneud gwaith da, ac wrth gwrs mae angen cadw'r Wyddfa'n daclus, mae'n swyddogaeth afiach; ac yn ecsbloitio plant. Lle'r Cyngor sir neu'r Parc Cenedlaethol neu wirfoddolwyr (os 'dyn nhw isio) ydi gwneud hyn, nid plant.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan nicdafis » Iau 14 Ebr 2005 3:09 pm

Cweit reit tw. Plant sy'n cwympo'r rhan fwya o sbwriel, wedi'r cwbl.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Mali » Iau 14 Ebr 2005 4:02 pm

Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:Dwi'n cofio cael fy ngorfodi i gasglu sbwriel ar iard yr ysgol pan o'n i yn y flwyddyn gyntaf yn yr ysgol uwchradd (nid jest fi gyda llaw - pawb o'r dosbarth)


Dwi ddim yn meddwl i mi erioed cael fy ngorfodi i gasglu sbwriel yn yr ysgol na nunlle arall, ond mi 'rydwi'n cofio rhai plant yn gorfod codi sbwriel fel math o gôsb , a hyn yn ystod eu hawr ginio.
Mae na rhywfath o glirio yn mynd ymlaen mewn rhannau o'r Dyffryn 'ma bob yn hyn a hyn, a gwirfoddolwyr fydd wrthi . Mae'r syniad yn un da wrth gwrs, ond petai neb yn gadael rybish ar eu holau , fuasai'r broblem ddim yn codi o gwbwl!
Gyda llaw, fuaswn i ddim yn rhy hoff o'r job o godi rybish bobl eraill chwaith :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Al » Iau 14 Ebr 2005 4:10 pm

mond hanner ffordd i fyny y wyddfa ar llwybr llanberis oedd a nhw yn mynd, os gai ddeud. Fellu ddim yn bell iawn
Al
 

Postiogan Dai dom da » Iau 14 Ebr 2005 5:16 pm

Plant yn casglu sbwriel, blinkin reit fyd. Ma lot fowr o sbwriel yn ysgol preseli, a dwi'n meddwl LOT. Llawer gormod o blant yn mynnu mynd mas a photelau a sweets i'r iard a jest yn taflu'r gwastraff ir llawr. Diflas.
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Postiogan Mali » Iau 14 Ebr 2005 5:40 pm

Al a ddywedodd:mond hanner ffordd i fyny y wyddfa ar llwybr llanberis oedd a nhw yn mynd, os gai ddeud. Fellu ddim yn bell iawn


Diolch Al......'roeddwn yn poeni braidd eu bod am fynd yr holl ffordd i'r copa :? O ran diddordeb,wyt ti'n gwybod sut aeth pethau ?
Mali.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Ramirez » Iau 14 Ebr 2005 5:43 pm

nicdafis a ddywedodd:Cweit reit tw. Plant sy'n cwympo'r rhan fwya o sbwriel, wedi'r cwbl.


ach ia, eitha gwaith a'r rabsgaliwns.

soding clyfar fyd "beth am gael y plantos i'w wneud! mae'n sbario i ni wneud, a ma'n edrych yn dda fel ffordd o'u dysgu am bwysigrwydd yr amgylchedd etc."

heh.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan Mali » Iau 14 Ebr 2005 5:47 pm

Ramirez a ddywedodd: a ma'n edrych yn dda fel ffordd o'u dygu am bwysigrwydd yr amgylchedd etc."

heh.


Digon gwir Ramirez 8)
Mali.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Sili » Iau 14 Ebr 2005 6:01 pm

Ramirez a ddywedodd:soding clyfar fyd "beth am gael y plantos i'w wneud! mae'n sbario i ni wneud, a ma'n edrych yn dda fel ffordd o'u dysgu am bwysigrwydd yr amgylchedd etc."

heh.


Dwi'n gwbod na ddylwn i ddim fod yn sticio fyny i plant bach annoying yr ysgol llai, ond ydio'n deg i ddisgwl i bob un plentyn godi sbwriel pan fyddai pobl fatha fi yn yr oed yna rioed di lluchio dim ar lawr? Yn enwedig pan odd gena ni syringes a used condoms a bob math o bethau difyr lyfli arall yn gorwadd ar iard ysgol ni :? Be am gael plant ar detenshyn i bigo sbwriel fyny? :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron