Tudalen 2 o 2
Postiwyd:
Iau 14 Ebr 2005 7:21 pm
gan Al
Mali a ddywedodd:Al a ddywedodd:mond hanner ffordd i fyny y wyddfa ar llwybr llanberis oedd a nhw yn mynd, os gai ddeud. Fellu ddim yn bell iawn
Diolch Al......'roeddwn yn poeni braidd eu bod am fynd yr holl ffordd i'r copa
O ran diddordeb,wyt ti'n gwybod sut aeth pethau ?
Mali.
oh dwim yn gwbo eto, di Prifathro fy ysgol heb gyhoeddi fe yn gwasanaeth eto. Masiwr mi wneitho mae o fel arfer yn.
Postiwyd:
Gwe 15 Ebr 2005 11:02 am
gan Lodes Fech Glen
Dyna d cosb ni yn yr Ysgol.Ond beth mae plant yn ei wneud yw gwagu bins er mwyn llenwi y bag
Postiwyd:
Gwe 15 Ebr 2005 3:46 pm
gan Mali
Lodes Fech Glen a ddywedodd:Dyna d cosb ni yn yr Ysgol.Ond beth mae plant yn ei wneud yw gwagu bins er mwyn llenwi y bag
Felly yn lle treulio'r amser cinio i gyd yn casglu sbwriel , dim ond cymeryd cwpwl o funudau i wagio o fin i'r bag !
Mae'r plant yn glyfrach na'r athrawon acw
Mali.
Postiwyd:
Gwe 15 Ebr 2005 4:02 pm
gan Mihangel Macintosh
Cosb am gael dy ddal am smygu yn yr ysgol oedd casglu sbwriel yn yr awr ginio. Nes i hyn sawl gwaith. Y gosb weithaf ges i oedd pan wnaeth y dirprwy ddal fi ym y canfed tro a wedyn cerdded o gwmpas yr Ysgol gyda fi a boi arall YN DAL YN DWYLO GAN EI CODI LAN A LAWR.
"So chi mor cwl nawr i chi bois?"
bastad.
Postiwyd:
Sad 16 Ebr 2005 4:08 am
gan Mali
Mihangel Macintosh a ddywedodd: Y gosb weithaf ges i oedd pan wnaeth y dirprwy ddal fi ym y canfed tro a wedyn cerdded o gwmpas yr Ysgol gyda fi a boi arall YN DAL YN DWYLO GAN EI CODI LAN A LAWR
Dwi ar goll rwan.
Mali.
Postiwyd:
Mer 20 Ebr 2005 8:17 am
gan ceribethlem
Lodes Fech Glen a ddywedodd:Dyna d cosb ni yn yr Ysgol.Ond beth mae plant yn ei wneud yw gwagu bins er mwyn llenwi y bag
Diolch Luned. Gadwai'n lyged ar agor.
Postiwyd:
Llun 25 Ebr 2005 3:25 pm
gan -Orion yr Heliwr-
Gobeithio eu bod nhw wedi cymryd digon o ragofalon iechyd. Glywis i am rhyw hogyn bach oedd wedi ffeindio pigiad neu serinj ar lawr tra'n casglu sbwriel gyda'r capel......
Postiwyd:
Llun 25 Ebr 2005 5:49 pm
gan Mabon.Llyr
Ma sbwriel yn broblem ym mhenweddig. Dyw e ddim mor wael a mae rhai athrawon (un mong yn petic) yn dweud. Ond mae yno.
Ma nhw'n cwyno fod gormod o sbwriel ar y iard/cae, ond mae rhoi bins mas na yn gofyn gormod am rhyw reswm. Twpsod llwyr.
Postiwyd:
Llun 25 Ebr 2005 6:15 pm
gan Mali
-Orion yr Heliwr- a ddywedodd:Gobeithio eu bod nhw wedi cymryd digon o ragofalon iechyd. Glywis i am rhyw hogyn bach oedd wedi ffeindio pigiad neu serinj ar lawr tra'n casglu sbwriel gyda'r capel......
Arwydd o'r amser da ni'n byw ynddi yn anffodus
Mae pethau fel rhain i'w gweld ymhĂ´b man yn hytrach na ddim ond ar strydoedd ein dinasoedd mawrion.
Mali.