Trydan Gwyrdd

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Trydan Gwyrdd

Postiogan Sali Boop » Sul 17 Ebr 2005 8:46 pm

Helo, gall unrhywun fy addysgu am drydan gwyrdd? dwi'n credu mai na beth yw'r term am "green electricity"? Oes gan unrhyw un drydan gwyrdd/gwybod am sefydliad sy'n ei ddefnyddio?
My conscience is a hangover,
My sex-life, chemistry;
My values are statistics,
My opinions, PMT.
Sali Boop
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 46
Ymunwyd: Sul 17 Ebr 2005 7:29 pm

Postiogan gronw » Sul 17 Ebr 2005 9:19 pm

ychydig iawn dwi'n wybod amdano, heblaw ei fod yn cael ei greu trwy ddulliau amgylcheddol gyfeillgar yn amlwg. ond dwi'n eitha siwr fod modd ei gael am yr un pris a thrydan "arferol" -- os ydy hynny'n wir, fe ddylen ni wneud ychydig bach mwy o ymdrech i gael gafael arno (i'r gradde y gallwch chi gael gafael ar drydan)

dwi'n gwbod fod undeb myfyrwyr aberystwyth wedi bod yn ymgyrchu i gael y coleg i newid i drydan gwyrdd ers tro ond bod y coleg wedi bod yn araf iawn hyd yn hyn heb ddim rheswm i bob golwg (fel gyda phopeth arall) -- mae'n debyg mai prifysgolion sy'n defnyddio 10% o drydan gwledydd Prydain??!
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Madrwyddygryf » Mer 27 Ebr 2005 10:40 pm

DWi'n gwybod bod y Democratiaid Rhydfrydol wedi hysbysebu cwmni sydd yn cynnig trydan 'gwyrdd' ar eu wefan.
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Dielw » Iau 28 Ebr 2005 12:47 am

ma trydan dal i ddod o'r grid cenedlaethol.....
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan blod fresychen » Iau 28 Ebr 2005 3:24 pm

Mae cwmnïau Trydan Gwyrdd yn sicrhau eu bod nhw'n generadu yr un faint o drydan ar gyfer y grid cenedlaethol ag mae eu cwsmeriaid yn defnyddio trwy ddulliau adnewyddol (gwynt, hydro, solar ayb). Er fod llawer o gwmnïau yn cynnig tariff gwyrdd, dim ond un dw i'n meddwl sy'n 100% adnewyddol ar hyn o bryd sef cwmni Good Energy (unit-e gynt), mae'r gweddill yn sicrhau fod canran o'u trydan yn wyrdd. Mae modd cymharu credentials y gwahanol gwmnïau trwy ymweld â gwefan http://www.greenelectricity.org/.

Mae'r cwmnïau gorau fel Good Energy ac Ecotricity yn defnyddio'r tariff gwyrdd fel ffordd o yrru'r galw am ynni adnewyddol, a'u gallu nhw i fuddsoddi mewn rhagor o gynlluniau generadu, fel melinau gwynt Ecotricity ar safle ffatri Ford yn Dagenham.
blod fresychen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 6
Ymunwyd: Mer 21 Ion 2004 11:01 am
Lleoliad: cymru - lloegr - llanrwst

Postiogan Taflegryn » Maw 03 Mai 2005 11:15 am

Os ei di i uswitch.com ac yna ffeindio cyflenwyr gwyrdd yna ffeindi di linc i Friends of the earth, ac y fana nei di ganfod pwy sy'n cyflenwi trydan gwyrdd.
Er bod pob cwmni mawr nawr yn deud eu bod nhw yn gyflenwi trydan gwyrdd, dye e ddim mor wyrdd a rai fel good energy ac ecotricity. Rhywbeth i wneud gyda 'tystysgrif cynhyrchu trydan gwyrdd' Mae cwmniau fel yr uchod yn dal ymlaen ir rhain ond mae cwmnioedd (e.e. swalec)yn gwerthu nhw bant. Dallt?!?!
Rhithffurf defnyddiwr
Taflegryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Maw 14 Hyd 2003 8:45 pm

Postiogan dave drych » Maw 03 Mai 2005 11:37 am

Dwi dal i gredu dylai'r Llywodreath hybu i solar panels (gair Cymraeg gwell?) gael eu gosod ar toi pawb.

Ia iawn, efallai yn ddrud i ddechrau, ond fyde'n lleihau ein dibyniaeth ar olew a'i effeithiau amgylcheddol a gwleidyddol.

A dwi'n dallt bod hi ddim yn braf pob un dydd, ond oleia mae'n creu rywfaint o drydan.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan -Orion yr Heliwr- » Mer 11 Mai 2005 3:20 pm

Ia, rhai amgylcheddwyr sy’n defnyddio’r term i ddisgrifio beth yn union y maen nhw’n ei dybio fel ffynonellau pŵer sy’n “amgylcheddol gywir”. Mae’n rhaid iddo fod yn adnewyddadwy a ddim yn llygru mewn unrhyw fodd. Fyswn i’n meddwl fod “trydan gwyrdd” yn cynnwys egni geothermol, egni gwynt, heidropŵer, egni solar, egni biomas, egni llanw ac egni tonnau. Gobeithio fod hyn yn helpu.
Rhithffurf defnyddiwr
-Orion yr Heliwr-
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 274
Ymunwyd: Mer 02 Chw 2005 4:41 pm
Lleoliad: Cricieth

Postiogan Chwadan » Mer 11 Mai 2005 3:21 pm

gronw a ddywedodd:dwi'n gwbod fod undeb myfyrwyr aberystwyth wedi bod yn ymgyrchu i gael y coleg i newid i drydan gwyrdd ers tro ond bod y coleg wedi bod yn araf iawn hyd yn hyn heb ddim rheswm i bob golwg (fel gyda phopeth arall) -- mae'n debyg mai prifysgolion sy'n defnyddio 10% o drydan gwledydd Prydain??!

Trydan gwyrdd ma prifysgol Rhydychen yn ddefnyddio - ma na ddadl fawr newydd fod ynglyn a gwario pres prin ar drydan drud :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan blod fresychen » Iau 12 Mai 2005 8:48 am

Does dim rhaid i drydan gwyrdd fod yn anhygoel o ddrud - mae rhai cwmnïau yn cynnig opsiynau talu o flaen llaw er enghraifft sy'n golygu fod y pris yn debyg i'r hyn gewch chi o gwmni arferol. Hefyd mae cwmni Good Energy yn rhedeg cynllun prynu trydan o bobl sy'n generadu gartre. Felly os 'da chi'n generadu mwy o drydan nag 'ych chi angen mewn blwyddyn (gyda phanel solar neu felin wynt bach) bydd y cwmni yn eich talu, fel arall mi fyddan nhw'n tynnu gwerth unrhyw drydan 'da chi wedi rhoi i fewn i'r grid oddi ar eich bil trydan arferol. http://www.good-energy.co.uk/home_generation.asp
blod fresychen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 6
Ymunwyd: Mer 21 Ion 2004 11:01 am
Lleoliad: cymru - lloegr - llanrwst

Nesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron