Diwedd y byd..... ond sut?

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sut neith y byd ddod i ben?

Newid hinsawdd
6
26%
Erydiad Telomere
1
4%
Viral Pandemic
1
4%
Terfysgaeth
1
4%
Rhyfel niwcliar
2
9%
Meteorite
1
4%
Robots
4
17%
Cosmic ray blast o seren yn ffrwydro
1
4%
Super-volcanos
5
22%
Ddeuar yn cael ei lyncu gan dwll du
1
4%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 23

Diwedd y byd..... ond sut?

Postiogan Cynog » Llun 25 Ebr 2005 6:01 am

Darn bach diddorol yn y Guardian ynghlyn a sut mae'r byd am ddod i ben. Rhowch eich pleidlais chi am ba un fydd o.

http://www.guardian.co.uk/life/feature/ ... 36,00.html

(Robots fydd o yn fy marn i, fatha yn y ffilms)

Pleidleisiwch......... :D
I know my own nation the best. That's why I despise it the most. And I know and love my own people too, the swine. I'm a patriot. A dangerous man.
-Edward Abbey

http://blogcynog.blogspot.com/
Rhithffurf defnyddiwr
Cynog
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 438
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 5:43 pm

Postiogan Ramirez » Llun 25 Ebr 2005 6:05 am

ydi hyn yn dehongli'r 'byd yn dod i ben' fel diwedd dyniolaeth, ta'r blaned i gyd yn cael ei dinistrio? os mai' diwedd ar y blaned, yna mi ai am hymdingar o dwll mawr du barus yn byta'r ddaear. O ran diwedd y ddynol ryw, neu fywyd fel ydani'n ei adnabod, yna mi faswni'n bancio ar meteor neu rwbath o'r fath yn crasho i'r ddear gan achosi weipawt. gwell hwyr na hwyrach, amwni.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan Ramirez » Llun 25 Ebr 2005 6:09 am

Wrthi'n darllen yr erthygl, a mae'r 'erydiad telomere' na'n edrych yn ddifyr iawn. www, go drapia na fyddai o gwmpas i weld y diwedd, mwya'r tebyg :(

mae'r darn am y robots yn edrych yn ddifyr hefyd. mi fasa hynny'n wych. y ffyc off mwya fasa bosib ei roi i bobol. "ti'n gweld y lwmp metal na sy'n trio dy saethu di? dy ffycin fai di a fi a ni ydio i gyd. hahaha!"

mae pobl lot rhy glyfar (h.y. twp) i'w lles ei hun. dani wedi datblygu gormod. wedi datblygu gymaint fel bod gynoni ormod o amser ein dwylo. ddylia fod gynoni ddim amser i feddwl am dechnoleg ac am gwestiynau mawr bywyd, ddylia ein bod ni'n poeni am ddal ein pryd nesa, a sut i gael gwared ar yr arth o'n ogof. dani wedi esblygu lot rhy bell, a hwyr glas i rwbath ein weipio ni allan.

er, dwnim chwaith, doesna'm rheswm pam ddylia ni dim aros yma ymhellach, dydi ffyc ol dani'n neud yn mynd i gal dim effaith eniwe.

"mam, be fasa tasa na ddim byd?" ohohohohooo, hyfryd.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan ceribethlem » Llun 25 Ebr 2005 9:23 am

Sdim perygl wrth robotiaid o gwbl. Mae Isaac Asimov wedi egluro, gan ddefnyddio tri rheol sylfaenol (3 Laws of Robotics):
1. Ni all robot niweidio, neu adael i niwed ddigwydd i fod dynol.
2. Rhaid i bob robot ufuddhau i orchmynion bodau dynol, oni bai bod rhain yn torri rheol un.
3. Rhaid i bob robot warchod ei hun, oni bai bod hyn yn yn torri rheol un neu rheol dau.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan dai mawr » Llun 25 Ebr 2005 11:27 am

Robots fydd hi.

Bydd un cyfrifiadur yn rheoli'r byd (hy. pob gwasanaeth sydd eisiau gan gynnwys trydan a modd o gadw'r wlad yn oer gan fod y byd wedi twymo cymaint) wedyn bydd y cyfrifiadur yn mynd yn gas fel mae pob robot clyfar yn ei wneud.

Falle taw fi sydd wedi yn gwylio gormod o ffilmiau!

:lol: :lol: :lol: :lol:

O.N.

Newydd sylweddoli taw dyna plot llawer o ffilmiau am robotiaid. Gwell i mi adael y ty ambell waith i weld sut mae pethau yn y byd go-iawn.
Twll dy din di Ffaro!
Rhithffurf defnyddiwr
dai mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 92
Ymunwyd: Mer 18 Awst 2004 12:37 pm
Lleoliad: Hwntw ar goll yn Rhuthun

Postiogan Creyr y Nos » Llun 25 Ebr 2005 11:32 am

Supervolcano weden i bois, ma honna yn Yellowstone ymhell overdue!
'Don't piss down my back and tell me it's rainin' - The Outlaw Josey Wales

Dewrion yw adar y nos
Rhithffurf defnyddiwr
Creyr y Nos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 395
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 8:30 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan bartiddu » Llun 25 Ebr 2005 11:57 am

Ategaf!
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan dave drych » Llun 25 Ebr 2005 12:09 pm

Beth amdan y pedwar boi ne ar geffyl? Yr 'Apocalypse' neu rwbeth.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan Dai dom da » Llun 25 Ebr 2005 12:12 pm

Iesu ie, super volcano falle - enwedig ar ol gweld y rhaglen 'na tua mis nol am y volcano yn yellowstone park yn america. :ofn:

Ond bydd hi'n hilarious gweld robots yn cymryd dros y byd, neu masif virus yn wrecko'r shit miwn i holl peiriannau yn y byd.

Beth am planet of the apes? :lol: Neu bydd hwnna ddim yn cyfri fel 'diwedd' y byd?
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Postiogan ceribethlem » Llun 25 Ebr 2005 1:02 pm

dave drych a ddywedodd:Beth amdan y pedwar boi ne ar geffyl? Yr 'Apocalypse' neu rwbeth.

Four Horsemen of the Apocalypse - Death, War, Pestilence a Famine. Yn ol Terry Pratchett naeth Bob (y pumed marchog) adael cyn iddynt fynd yn enwog :D :lol:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai