gan Aranwr » Sad 03 Medi 2005 4:48 pm
Cytunaf. Druan ar America, ma ddi yn llwybr y corwyntoedd bob tro. Ma shwr o fod mwy o beryg os yw'r corwynt yn taro tir oddi ar Gwlff Mecsico gan fod y lled-freichiau'n dal i allu lledu dros ddwr am oesoedd gan fwydo anwedd dwr i mewn i ganol y corwynt. Fel corwynt Mitch rhyw gwpwl o flynyddoedd yn ol n'ath chwalu Honduras a Nicaragua - gwlad cul, massif corwynt, mór bob ochr i'r wlad cul, lledfreichiau'n ymestyn dros ddwr a'n amsugno anwedd dwr, canol dros dir = major disaster!
O chi'n gwbod mai'r enw ar gorwynt yn Awstralia yw 'willy-willy'?