Chwyn chwyrn

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Chwyn chwyrn

Postiogan Dili Minllyn » Llun 25 Gor 2005 6:43 pm

Mae gwefan y Telegraph yn cario stori am gnydau GM yn croesfrido efo chwyn brodorol. Dyna buodd Greenpeace a Chyfeillion y Ddaear yn rhybuddio amdano ers achau, ond do'n ni ddim meddwl basai fe byth yn digwydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan 7ennyn » Mer 27 Gor 2005 10:09 pm

Datblygiad pryderus iawn.

Un o'r prif ddadleuon o blaid cnydau GM ydi'r ffaith y gellid defnyddio llysleiddwyr llai niweidiol (e.e. glyphosate) i reoli'r chwyn. Ond os ydi'r chwyn yn datblygu gwrthiant i'r llysleiddwyr ... wel :? .

Mi ydw i dal yn lled-gefnogol i GM ond dwi ddim yn hoff o'r ffaith mai cwmniau mawr aml-wladol sydd yn arwain y gwaith ymchwil. Ni ddylid diystyru'r dechnoleg yma yn llwyr. O ddatblygu'r dechnoleg mewn modd gyfrifol, yn rhydd o'r angen i greu elw mawr i'r cwmniau aml-wladol, gall GM fod o fudd i'r amgylchedd ac i bobl mwyaf anghenus y byd. (Yn fy marn i.)
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Dili Minllyn » Gwe 29 Gor 2005 6:25 pm

Yn sicr, fe allai’r dechnoleg ei hunan fod yn fuddiol iawn, ond dwi ddim yn credu am funud mai helpu ffermwyr Affrica sy’n gyrru’r cwmnïau had mawr i greu had GM. Am un peth, mae bron pob un o’r had GM newydd yn cael ei farchnata yn y Gorllewin yn bennaf i ar gyfer tyfu cnydau i fywdo anifeiliaid i wneud cig.

Dwi’n pryderus iawn mai prif nod yn cwmnïau mawr yn y pen draw fydd monopoleiddio’r farchnad had nes nad oes rhyw lawer ar gael ond had GM. Sylwch hefyd mai’r un cwmnïau sy’n gwerthu’r had GM a’r chwynlladdwyr sy’n mynd gyda nhw, felly dyna farchnad arall iddyn nhw ei rheoli os gallan nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan 7ennyn » Gwe 29 Gor 2005 10:25 pm

Cytuno yn llwyr. Mae cymhelliad y cwmniau aml-wladol hyn (Monsanto, Astra-Zeneca, Sanofi-Aventis a.y.y.b.) i ddatblygu cnydau GM yn afiach. Nhw sydd yn arwain y gwaith ymchwil yn y maes, ac mae nhw yn lobiwyr dylanwadol tu hwnt - yn enwedig yn yr Unol Daleithau. Does ganddyn nhw ddim diddordeb mewn datblygu'r dechnoleg er budd dynoliaeth.

New Scientist 30 07 2005 a ddywedodd:Reports of superweed greatly exaggerated

Mae yna un hanner ohonof fi yn gobeithio bod hyn yn wir, ond mae'r hanner arall (sinigaidd, pesimistig, du) yn tybio mai adran PR Bayer (sef y cwmni sydd wedi datblygu'r rep GM dan sylw) sydd y tu cefn i'r erthygl yma.

Mae'r adroddiad a gyflwynwyd i DEFRA ynglyn a throsglwyddiad genynnau gwrthiant llysleiddwyr, sydd yn sail :rolio: i'r erthygl yn y Telegraph, i'w gael fan hyn. (Dwi heb ei ddarllen eto :wps: ond mae o ar fy rhestr o bethau i'w wneud, wir yr!)
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai