Twrch Daear

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan gronw » Gwe 29 Gor 2005 4:28 pm

Macsen a ddywedodd:Wnes i weld y twrch yn creu twmpath newydd nawr, ond er i mi redeg allan gyda fy rhaw i dyllu a taro'r twmpath roedd y twrch wedi denig.


do wir?! o'n i ddim yn disgwyl fyddet ti'n trio cynllun fi, mae o'n swnio braidd yn wallgo. ond mae o'n gweithio fel arfer.. rhaid fi ddod a taid fyny i'r steddfod efo fi, neith o roi demonstration i ti!
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan dave drych » Sad 30 Gor 2005 11:23 am

Ffeindia cadair a gwn. Eistedda ar y cadair yn y gardd yn dal dy gwn. Ar ôl ychydig o amser neith y twrch godi, wedyn BOOOOOM! saetha'r basdad bach i smitherîns!

Neu ffeindia un o'r twneli y twrch. Cer i nôl y jeri can o'r shed a tywallt y petrol/diesel fewn i'r twnel a'i goleuo - neith o unai llosgi neu mygu. Cofio dal rhaw neu gwn yn barod rhag ofn iddo drio dianc!
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan Dr Gwion Larsen » Sad 30 Gor 2005 11:55 am

Tria roid drain lawr y twnel.
Ddim yn hoffi lladd anifeiliad gwyllt :crio:

neu mae smokebombs arbennig i'w cael lle ti'n eu gollwng lawr a chau'r twll a disgwyl i'r co ymddangos. wedyn gei di hwyl!!


O be dwi wedi ei glywed am hyn mae'r twrch yn mynd am 'chydig ac yn dychwelyd o fewn dim.

Di'r trapiau ddim llawer gwell, mae'n rhaid i chdi gael menig "sterile" i handlo'r trapiau, neu bydd y bastard di ogla fo a heb fynd yn agos.
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan sanddef » Sad 30 Gor 2005 12:23 pm

Gad lonydd iddo, mae'n llesol i ddaear dy ardd.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan bartiddu » Sad 30 Gor 2005 12:36 pm

Peth gore i'w 'neud yw disgwyl iddi nosi. Ma' nhw mwy mentrus yn y nos, wedyn pan weli di fe'n dod lan drwy'i dwll cydia ynddo fe a cerydda fe! A wedyn cosb erchyll sy' angen arno...cladda fe'n fyw! :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Dr Gwion Larsen » Iau 04 Awst 2005 7:00 am

cladda fe'n fyw!

Neu yn well byth ei gladdu'n yr ardd drws nesa' :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Nôl

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai