Twrch Daear

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Twrch Daear

Postiogan Macsen » Gwe 29 Gor 2005 1:46 pm

Mae gen i un o'r bastad pethau yn fy ngardd. Oes gan unrhyw un syniad sut i gael gwared ohonynt (heblaw am symud i Iwerddon)? Rydw i wedi darllen nad ydynt yn hoffi swn uchel, felly 'dw i wedi trio cario fy drum set tu allan a'i chwarae yn frwdfrydig uwchben y twmpathau.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dylan » Gwe 29 Gor 2005 1:55 pm

anfon dy <strike>lygoden</strike> gi lawr ar ei ôl?

neu aros allan drwy'r nos efo fforc fawr yn barod amdano
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Re: Twrch Daear

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 29 Gor 2005 2:01 pm

Macsen a ddywedodd:Mae gen i un o'r bastad pethau yn fy ngardd. Oes gan unrhyw un syniad sut i gael gwared ohonynt (heblaw am symud i Iwerddon)? Rydw i wedi darllen nad ydynt yn hoffi swn uchel, felly 'dw i wedi trio cario fy drum set tu allan a'i chwarae yn frwdfrydig uwchben y twmpathau.


mae yna drapiau bach handi ar gael. ti'n tyllu rhwng dau dwmpath er mwyn ffeindio'r twnel ac yn claddu'r trap yno. wedyn pan ma'r twrch yn dod, snap, mae'r trap yn cau. ti'n gallu gweld os ydi'r trap wedi cau heb ei gladd nol fyny. dylet allu cael rhai o siopau garddio/amaethyddol.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan gronw » Gwe 29 Gor 2005 2:50 pm

y ffordd dwi wedi'u gweld nhw'n cael eu dal (sy'n fwy o weithgaredd na jyst gosod trap) ydy cymryd cipolwg arno bob hyn a hyn yn ystod y dydd, a pan ti'n gweld pridd ffres ar un o'r twmpathau pridd, tanio dy gar (er mwyn masgio y sŵn ti'n neud wrth gerdded ato), wedyn mynd at y pentwr efo rhaw, ac ar eiliad dyngedfennol pan ti'n gweld y pridd yn symud, claddu'r rhaw yn ddwfn ac yn gyflym i'r twmpath a chloddio'r pridd i'r gwair wrth ochr. dyle'r twrch fod yna -- hitia fo efo'r rhaw!
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Dr Gwion Larsen » Gwe 29 Gor 2005 3:11 pm

Gath Taid y broblem yma, ond dwi'n meddwl bo problemau moesol am ei lladd

Be nath o oedd prynu peiriant oedd yn gwneud swn pob 30 eiliad ac yn rhedeg ar egni'r haul! Sortiodd hyn ei broblem

Neu wrth gwrs gei di fenthig fy cometa 300 Nickel.
Delwedd :drwg:

pob lwc
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan Dylan » Gwe 29 Gor 2005 3:16 pm

strapia pwys neu chwech o C4 rownd dy ganol, rhed at y twll mwya' ffresh gan weiddi, a chwytha dy hun i fyny. Bownd o gael y diawl bach.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Eben fardd » Gwe 29 Gor 2005 3:22 pm

y ffordd mwyaf effeithiol on lleiaf humane ydi tyllu i mewn i un o'r twmpathau nes ti'n ffendio'r twnel. wedyn stwffio llwyth o ddrain i lawr y twll. Yn anffodus i'r twrch mae o yn haemophiliac. Life's a bitch!
COFIS DRE!
Eben fardd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 151
Ymunwyd: Llun 06 Hyd 2003 9:39 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Gwe 29 Gor 2005 3:27 pm

Wnes i weld twrch daear yn cerdded yn hollol ddall a thwp ar y lôn tu allan i'n ty ni unwaith. Wnes i ei roi o yn y cae y tu ôl i'r ty (efo'r bwriad ei fod o'n dechrau a tyllu a ballu, fel mae nhw fod i'w wneud)

diwrnod wedyn pan o'n i'n chwarae ffwtbol dyma fi'n gweld y bastad peth gwirion wedi'i falu'n ddau gan rhyw gath neu'i gilydd. Twmffat.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Gwe 29 Gor 2005 3:32 pm

Wnes i weld y twrch yn creu twmpath newydd nawr, ond er i mi redeg allan gyda fy rhaw i dyllu a taro'r twmpath roedd y twrch wedi denig.

Dylan a ddywedodd:anfon dy <strike>lygoden</strike> gi lawr ar ei ôl?


Er mor ddeiniadol yw'r syniad o gladdu Twm dan y ddaear, dwi'm yn meddwl ei fod o ddigon bach i fedru ffitio drwy'r tyllau.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Eben fardd » Gwe 29 Gor 2005 3:41 pm

mae'r twrch yn synhwyro y cryndod lleiaf yn y tir. dyna sut mae o'n nafigatio. mae'n hollol ddall. roedd o wedi dy glywed yr eiliad gyffyrddodd dy droed y gwair. Heb son am cyn i chdi ddechra RHEDEG!!!!!! BOOM BOOM BOOM!

Tria roid drain lawr y twnel. neu mae smokebombs arbennig i'w cael lle ti'n eu gollwng lawr a chau'r twll a disgwyl i'r co ymddangos. wedyn gei di hwyl!!


Gyda llaw mae'n gas gennyf greulondeb tuag anifeiliaid.
COFIS DRE!
Eben fardd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 151
Ymunwyd: Llun 06 Hyd 2003 9:39 pm
Lleoliad: Caernarfon

Nesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron