Defnyddiwch eich mwg !

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Faint ohonoch sy'n defnyddio mwg eich hunain?

Daeth y pôl i ben ar Mer 24 Awst 2005 2:06 am

Ydw
8
62%
Na
5
38%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 13

Defnyddiwch eich mwg !

Postiogan Mali » Mer 17 Awst 2005 2:06 am

Mi ês i a mwg fy hun i Tim Hortons y noson o'r blaen , a chael ei lenwi efo coffi . Wnês i ddim safio gymaint a hynny ....tua 5 cent, ond mae'n syniad werth chweil.
Darllenwch hyn:
Saving the Environment

'Thousands and thousands of plastic, paper, and Styrofoam cups will sit in landfills for millennia! Americans throw away 2.5 million plastic bottles every hour. On college campuses, more than 500,000 plastic beverage bottles are used in a typical year, generating over 31,0000 pounds of plastic waste, most of which is not recycled. In 2003, Princeton recycled 222.65 tons of Bottles and Cans, yet used far more. Each time you reuse your mug that is one less cup in the landfill. Each cup you save from the landfill is another cup that doesn’t need to be made, lessening the strain on forests and the environment. '
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan HenSerenSiwenna » Mer 17 Awst 2005 8:11 am

Ia, mae hi'n biti braidd bo'n cymdeithas ni wedi ddatblygu i fod yn "Throw away society" dwi fy hun yn gorfod ymladd y teimlad o eisiau cwpan fach plastic newydd sbon yn lle rhoid y dwr or peiriant i fewn i mwg neu hen fotel - odd tydi, ac eto, pan dwi'n gweld ffilms am amser rhufeiniaid neu hyd ynoed medieval, dwi'n dechrau cael teimlad bo fi eisiau jwg clai agoblet dur a pethau fellu :D suggestable iawn da ni te - fellu angen fwy o marchnata o amgylch mwgs iw wneud nhw'n fwy ddeniadol! :D
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan nicdafis » Mer 17 Awst 2005 8:50 am

Beth am, yn lle mynd â dy fwg dy hunan i siop coffi sy'n defnyddio cwpannau plastig, ffeindio lle sy'n defnyddio mygiau go iawn? A sgwennu at Tim Hortons i ddweud eu bod nhw wedi colli dy gefnogaeth nes eu bod nhw newid eu polisi amgylcheddol.

Mae osgoi wastraff yn y Gorllewin yn anodd, ond mae yn bosibl.

Sawl un ohonon ni aeth â gwydr peint i'r Steddfod 'te? :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Mer 17 Awst 2005 8:55 am

Newydd gofio am <a href="http://www.indymedia.org.uk/images/2005/06/313038.jpg">y Tiny Tea Tent</a> - caffi teithiol sydd i'w weld mewn gwyliau. Maen nhw'n siarsio blaendal o 50c ar gwpan go iawn. Faint ohonyn nhw ydyn nhw'n colli, dych chi'n meddwl?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan cymro1170 » Mer 17 Awst 2005 11:15 am

nicdafis a ddywedodd:Beth am, yn lle mynd â dy fwg dy hunan i siop coffi sy'n defnyddio cwpannau plastig, ffeindio lle sy'n defnyddio mygiau go iawn? A sgwennu at Tim Hortons i ddweud eu bod nhw wedi colli dy gefnogaeth nes eu bod nhw newid eu polisi amgylcheddol.

Mae osgoi wastraff yn y Gorllewin yn anodd, ond mae yn bosibl.

Sawl un ohonon ni aeth â gwydr peint i'r Steddfod 'te? :wps:


Es i ddim a gwydr peint hefo fi, ond mi oeddwn i yn ail ddefnyddi'r yr un plastic gefais o maes-b hefo cwrw, yn y babell!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
cymro1170
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 699
Ymunwyd: Llun 10 Tach 2003 10:14 am
Lleoliad: Blaenau Ffestiniog

Postiogan Fatbob » Mer 17 Awst 2005 11:27 am

Ma Captain Jaspers yn Plymouth yn gwneud yr un peth, 20c o deposit ar bob mwg o dê. Ond ma'n rhaid dweud chware teg i Tim Hortons, dwi'm yn gweld y mwayfrif o gwmnie mawr hyd yn oed yn poeni am leihau y mynydd sbwriel. O brofiad personol pan fues i yn sawl Tim Hortons yn Ontario gweithwyr a gyrrwyr lorie oedd y cwsmeriaid fwya, oll yn dod a'i cwpane 'insulated' i hunen i gael coffi wrth yrru. Ond, Nic dwi'n cytuno, os yn yfed coffi mewn siôp ma'n fwy synhwyrol mynd a cwpan dy hun.
How many times do I have to tell you? You don't put a bra in a dryer! It warps!
Rhithffurf defnyddiwr
Fatbob
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 478
Ymunwyd: Maw 21 Hyd 2003 1:38 pm
Lleoliad: Yn y peiriant golchi.

Postiogan Meic P » Mer 17 Awst 2005 12:38 pm

Fatbob a ddywedodd:Ma Captain Jaspers yn Plymouth yn gwneud yr un peth, 20c o deposit ar bob mwg o dê.


Dwi di bod i fanna fyd!
Wel ma' hi'n canu yn y côr
Dwylo Dros y Môr
Rhithffurf defnyddiwr
Meic P
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1191
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 11:45 am
Lleoliad: Llandyfam

Postiogan Fatbob » Mer 17 Awst 2005 1:01 pm

Meic P a ddywedodd:
Fatbob a ddywedodd:Ma Captain Jaspers yn Plymouth yn gwneud yr un peth, 20c o deposit ar bob mwg o dê.


Dwi di bod i fanna fyd!


Bu'm cariad yn byw ger Plymouth am flynyddoedd a ma hi'n mynd mlaen am y lle hyn drwy'r amser, ma'n rhaid dweud fod y bwyd yn dda iawn.
How many times do I have to tell you? You don't put a bra in a dryer! It warps!
Rhithffurf defnyddiwr
Fatbob
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 478
Ymunwyd: Maw 21 Hyd 2003 1:38 pm
Lleoliad: Yn y peiriant golchi.

Postiogan Mali » Mer 17 Awst 2005 5:10 pm

nicdafis a ddywedodd:Beth am, yn lle mynd â dy fwg dy hunan i siop coffi sy'n defnyddio cwpannau plastig, ffeindio lle sy'n defnyddio mygiau go iawn? A sgwennu at Tim Hortons i ddweud eu bod nhw wedi colli dy gefnogaeth nes eu bod nhw newid eu polisi amgylcheddol.


Sori...anghofiais i ddweud ...mynd am reid gyda'r nôs oedda ni, felly prynu ein coffi o'r 'drive in'. Mae ganddyn nhw fygiau os ti'n dewis yfed y coffi tu mewn i TH.
http://www.timhortons.com/en/menu/menu_coffee.html
A mae o'n goffi da hefyd :)
Ond mae 'na ddigonedd o lefydd eraill sydd yn dal i ddefnyddio cwpanau plastig neu bapur yn unig ...llefydd fel yr arenas hoci ia , BC Ferries , caffis ochr ffordd ayb.
Mi fasa na lot llai o rwbel yn cael ei gynhyrchu fasa pawb yn dewis defnyddio ei fwg trafeilio yn y llefydd yma 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron