Tudalen 1 o 2

Morhychod

PostioPostiwyd: Mer 17 Awst 2005 11:27 am
gan Geraint
Y Forhwch. Sef y Dolffin. Enw Groegaidd am y groth yw Dolphin. Pryd daeth yr enw yma i fewn am yr enw gwych 'morhwch'?

Dwi ar farw eisiau gweld morhwch o arfordir Cymru. Dwi erioed wedi gweld un, er i mi fyw yn Aberystwyth am flwyddyn, gan gadw llygad cyson dros y mor amdanynt.

A nawr hyn, 2000 o Forhychod Cyffredinyn moroedd Sir Benfro!

Pwy sydd wedi gweld rhai, a lle ydi'r lefydd gorau i'w gweld?

PostioPostiwyd: Mer 17 Awst 2005 12:21 pm
gan bartiddu
Twmler dwi 'di galw nhw erioed, ond wedi bod yn defnyddio llamhidydd yn ddiweddar, er taw yn dechnegol yn ol fy ngeiriadur bach i porpoise yw llamhidydd.
Braf gweld nhw yn eu miloedd oddiar arfordir Sir Benf, arwydd da fod y cyflwr y mor wedi gwella yn sylweddol ers trychineb y 'Sea Empress'. :)

PostioPostiwyd: Mer 17 Awst 2005 1:13 pm
gan Geraint
Twmler. Enw da! Rhaid i mi gyfadde mae ond heddiw edrychais fyny y gair am Dolphin, ar ol teimlo rhaid fod yna air Cymraeg gwell na hwn. Twmler ddim yn Bruce. Un i’r gyfrol nesa falle. Oes fwy o enwau i gael?

Heb weld morhychod, ond dwi wedi gweld grwp mawr o lamhidyddion o Strymbl Head.

PostioPostiwyd: Mer 17 Awst 2005 1:33 pm
gan khmer hun
Llambedyddiol yn air arall am lamhidydd. Fi'n credu. Fi'm yn gwbl ddibynadwy.

Lluosog - llambedyddiols :winc:

PostioPostiwyd: Mer 17 Awst 2005 1:44 pm
gan Geraint
Y Llamhidyddions - criw hip-hop newydd cyffrous o Fae Ceredigion.

Cynrhychioli: MC Morhwch, Dyl Morfil, Steffan Crancos a Sglefren Boscawen!

Re: Morhychod

PostioPostiwyd: Mer 17 Awst 2005 2:12 pm
gan Cardi Bach
Geraint a ddywedodd:
Pwy sydd wedi gweld rhai, a lle ydi'r lefydd gorau i'w gweld?


Cei Newy' - gweld cwpwl ohoni nhw yn chware yno yn amal.

PostioPostiwyd: Mer 17 Awst 2005 2:46 pm
gan sian
khmer hun a ddywedodd:Llambedyddiol yn air arall am lamhidydd. Fi'n credu. Fi'm yn gwbl ddibynadwy.

Lluosog - llambedyddiols :winc:


Wel, ma'r Briws yn cytuno â ti beth bynnag :lol:

PostioPostiwyd: Mer 17 Awst 2005 3:16 pm
gan Geraint
Dwi wedi clywed am gwpl o lefydd da i weld nhw yn y Gogledd, ar ochr Ddwyreiniol Môn, sef Pwynt Leinws, ac o Benmôn. Ma na siawns dda o weld y llamhidydd, neu y morhwch 'trwyn-fotel' (bottlenose).

PostioPostiwyd: Mer 17 Awst 2005 3:28 pm
gan Macsen
Mae'r byd ar fin cael ei ddinistro i greu ffordd osgoi!

PostioPostiwyd: Mer 17 Awst 2005 4:40 pm
gan Mali
Diddorol iawn ...diolch am dynu fy sylw at hyn Geraint .
Gobeithio y cei di weld y morhychod rhyw ddydd :)