Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Iau 15 Medi 2005 10:14 am
gan Geraint
Wedi gweld rhai o'r diwedd! Ganol dydd ddoe mi oeddwn y cerdded rhwng Traeth Lligwy a Moelfre, Ynys Mon, pa ddaeth pob o bump neu chwech i'r golwg, tua 100m allan, yn neidio dros y tonnau. Am olygfa wefreiddiol! :D

PostioPostiwyd: Sul 02 Hyd 2005 7:02 pm
gan TeleriTylwythTeg
nashi weld rei pan onin hwylio nol o ben llyn i ynys mon, gweld nhw tua hanner milltir oddi ar dinas dinlla, ddaru tua deuddeg ddod a nofio gyda'r gwch am tua deg munud a di gweld lot o gwmpas pwynt leinws!

Re: Morhychod

PostioPostiwyd: Maw 04 Tach 2014 1:43 pm
gan sian Evans
Cofiaf bod fy nhaid (1894-1966) ac yn wreiddiol o Sir Fôn, yn galw'r creaduriaid, a ymddangosai yn Y Fenai, (porpoise ne dolphin), yn SAMFEDYDDIOL.

Re:

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2014 10:33 pm
gan Jyst
bartiddu a ddywedodd:Twmler dwi 'di galw nhw erioed, ond wedi bod yn defnyddio llamhidydd yn ddiweddar, er taw yn dechnegol yn ol fy ngeiriadur bach i porpoise yw llamhidydd.
Braf gweld nhw yn eu miloedd oddiar arfordir Sir Benf, arwydd da fod y cyflwr y mor wedi gwella yn sylweddol ers trychineb y 'Sea Empress'. :)


Sori am y blast o'r past ond jiw ma 'twmler' yn enw da!