Moesau a chig

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Moesau a chig

Postiogan Cardi Bach » Mer 17 Awst 2005 12:28 pm

Mae'r wefan yma (The Meatrix) yn un hynod effeithiol ac yn cynnal ymgyrch i'n cael ni i brynnu cig 'moesol' fel petai (ethical).

Ymunwch yn yr ymgyrch.
Mae'r Carmarthen Journal, chware teg iddyn nhw, wedi bod yn rhedeg ymgyrch 'Prynnu Lleol' dros y mis diwethaf.

Dyma oedd un o brif bwyntiau ymgyrch Plaid Cymru, pan nad oedd yn ffasiynol, mewn ymgyrchoedd llywodraeth leol, ond mae'n ymddangos fel petai rhaglen deledu Jamie Oliver a phethau cyffelyb wedi cael effaith bositif ar yr ymgyrch.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan 510N » Sad 20 Awst 2005 9:19 pm

Ffilm effeithiol iawn (haws i'w deall na'r ffycin 'The Matrix' i hun beth bynnag!).
Bôls i'r corfforaethau 'ma. Pan mae'n dod i werthu cynnyrch, does na fawr o ddim, mewn gwirionedd, all y 'bobl gyffredin wneud' i sdopio'r corfforaethau efo'u archfarchnadoedd mawr. Ond, pan mae'n dod at gadw anifeiliaid cyn mynd i'r lladd-dy ma'n rhaid cadw at ddulliau 'free range'.
(Dwi, fodd bynnag, o'r farn fod bwyta cig yn anfoesol full-stop, ond dw'n dal i wneud am ei fod yn ffynhonell wych o brotein, yn flasus ac am fy mod yn ffwc o hypocrit!)
Rhithffurf defnyddiwr
510N
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 148
Ymunwyd: Iau 23 Meh 2005 5:36 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan 7ennyn » Sul 21 Awst 2005 12:22 am

Bruliant!!

Dwi'n nabod dipyn o bobl sydd yn (ac wedi) gweithio yn Grampian yn Llangefni (cywion ieir). Mae ganddyn nhw straeon eitha dychrynllyd fysa'n gneud i chi feddwl ddwywaith cyn prynu bwydydd parod hefo cyw iar o'r archfarchnad. Mae cyw iar naturiol 'free range' organig yn blasu canwaith gwell na'r rybish rhad o Tesco. Y broblem ydi ei fod yn costio lot mwy.

Prynwch gig gan eich cigydd lleol - gallwch chi ofyn iddyn nhw o le yn union mae'r cynnyrch wedi dod. Tydi cig ffatri heb gymryd drosodd yn llwyr yng Nghymru eto, felly mae cig Cymreig bron yn garantid o fod o safon uchel.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Glibwns » Sul 21 Awst 2005 2:31 pm

Shwmai bawb,

Ffilm gwych...cytuno'n gryf - er i fod yn onest, sai'n credu fod yna fath beth a chig "moesol" yn fy marn i :(

510N - Does dim rhaid i ti teimlo fel hypocrit...neu para i fod yn un - mae digon allith "bobl gyffredin" wneud os yr ydyn yn fodlon i wneud. Fues i yn sefyllfa tebyg i chdi. Ond ers darllen llyfr o'r enw "not on the label" am effeithiau y ffermio corfforaethol yma yr ydw i wedi stopio prynu yn archfarchnadoedd, yn bwyta yn hollol organig ac yn y rhan fwya, yn lleol. Yr ydw i wedi hefyd troi'n fegan, mwy neu lai. A dwi dal i alw yn hun yn "ordinary bloke" - ond un yn lot iachach a hapusach (bues i yn byw ar "bwyd" Neuadd Pantycelyn cyn hynny...).

Does dim rhaid dibynnu ar gig fel ffynhonello brotin hefyd gyda llaw - mae modd cael hen ddigon o brotin safon uchel (heb fraster hefyd) drwy fwydydd fel soya a quinoa. Digon i gynnal codwyr pwysau, felly mwy na digon i'r bachan diog ma!!

Hwyl a sbri
Gwell llaeth soya Cymru na chwrw Lloegr...
Glibwns
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Mer 25 Mai 2005 9:36 am
Lleoliad: PC Aberystwyth


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron